Dydd Sadwrn 18 Mai 2024
1:45 pm - 3:00 pm
Yn y sgwrs hon, bydd Tim yn trafod y darnau a ddewiswyd ar gyfer Gwobr Wakelin o fewn cyd-destun ei waith cynharach a hwyrach.
Astudiodd Tim Davies yn Ysgolion Celf Norwich a Chaergaint. Mae e’ wedi gweithio mewn ystod o gyfryngau dros y 30 mlynedd diwethaf, yn arddangos ac yn gwneud gwaith yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae wedi derbyn llawer o wobrau gan gynnwys gwobr Agored Mostyn, y fedal aur mewn Celfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac un o brif wobrau Cymru Greadigol. Ef oedd yr artist cyntaf o Ewrop i gyrraedd rhestr fer Gwobr Celfyddydau gweledol Artes Mundi a chynrychiolodd Gymru mewn sioe unigol yn Biennale Fenis yn 2011.
Mae craidd ei waith wedi’i wreiddio mewn gweithio’n benodol i amser a safle, gan ddefnyddio cyfryngau 2 a 3 dimensiwn a pherfformiadol. Yn ei ymarfer diweddar, mae’n archwilio’r gair ysgrifenedig, llafar a delweddedig.
Ynghylch Gwobr Wakelin a dderbyniodd yn 2005, yr oedd hefyd yn un o’r detholwyr ar ei chyfer yn 2015, meddai
Roeddwn yn falch iawn o dderbyn Gwobr Wakelin yn 2005. Roedd yr amseru’n berffaith. Yn ystod y cyfnod penodol hwnnw, roeddwn i wedi bod yn gweithio ar syniadau amrywiol ynghylch sut rydym, yn ddiwylliannol, yn myfyrio ar y rheini sy’n cael eu lladd mewn brwydrau (yn enwedig yn yr ugeinfed ganrif) a’r coffadwriaethau cysylltiedig drwy wasanaethau Dydd y Cofio, cofebau a cherfluniaeth.
Ar yr adeg yr oeddwn ar y rhestr fer ar gyfer y wobr, roeddwn newydd ddechrau casglu delweddau o gofebion a thrin eu harwynebau a oedd wedi’u hailargraffu’n ddigidol. Gan ddefnyddio graffit, mi es i ati i grafu ar eu traws, dro ar ôl tro, yn fertigol, yn llorweddol ac ar letraws, gweithred nad oedd yn ddi-barch, ond a oedd yn bendant yn fynegiannol mewn ymgais i ail-gynrychioli pwnc i’w archwilio’n agosach (roedd yr anthropolegydd Joy Hendry wedi rhoi prawf ar syniadau o’r fath).
Roedd y darn Parisaidd, a oedd yn ddechrau’r gyfres o ddarluniau Ewropaidd, yn hongian yn nerfus ar wal fy stiwdio pan ymwelodd y detholwr ar gyfer flwyddyn honno, Ann Jones. Cafodd hwn ei ddethol yn ogystal â fideo a ysgydwwyd gan y gwynt o’m gosodwaith o Faneri dros Solva o 1992. Mae’r ddau ddarn yn parhau’n bwysig i mi gan eu bod wedi llywio gwahanol linynnau o’m hymarfer dilynol. Ffurfiodd y darnau Cadet a dyfodd o’r Darluniau Ewropeaidd elfen ganolog o’m harddangosfa yn Fenis a oedd yn cynrychioli Cymru yn 2011, ac mae llawer o’m darnau testun/gair llafar dilynol a phresennol, fel Golygfeydd Pellennig, Ffigyrau a Phortreadau yn tarddu o’r darn Baneri a grëwyd flynyddoedd lawer yn ôl. Felly, roedd derbyn Gwobr Wakelin, gweld fy ngwaith ar y waliau ac yng nghasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian wedi rhoi hwb i mi, hyder i barhau, doed a dd’el.
Ystyriais hyn fel gwers pan ddes i’n ddetholwr fy hun, fod effaith cydnabyddiaeth drwy ddyfarniad neu wobr amserol ar ymarfer sy’n blaguro yn gallu bod yn hanfodol ar gyfer anogaeth. Mae’n fath o werthfawrogiad beirniadol sy’n drech o lawer na gwerthu gwaith – er bod hynny’n braf!
Felly, cymerais rôl y detholwr o ddifri calon ac mi wnes restr fer o dri artist dawnus a oedd yn dod i’r amlwg, pob un ohonynt yn ymgeiswyr haeddiannol, a chyda help cynrychiolydd teulu Wakelin a’r Glynn Vivian, mi ddes i i benderfyniad. Un o fuddion y broses hon oedd bod yr artistiaid a gyrhaeddodd y rhestr fer yn cael eu cyflwyno i’r panel, a arweiniodd at wahoddiadau i gymryd rhan mewn arddangosfeydd eraill ar wahân i’r wobr, ar gyfer yr enillydd yn y pen draw a’r artistiaid eraill ar y rhestr fer.
Yn bersonol, hoffwn ddiolch i’r teulu Wakelin am eu haelioni wrth gefnogi’r artistiaid sydd wedi derbyn y wobr hyd yma, ond yn bwysicach, fel gwobr brynu, a hefyd am ychwanegu at gasgliad y Glynn Vivian.
Ewch i wefan Freinds am ragor o wybodaeth.
Categorïau