• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Y BWFFE

Dydd Sadwrn 2 Mawrth 2024 //  by laura.gill

Dydd Sadwrn 2 Mawrth 2024
10:00 am - 4:00 pm

gludafael/holdfast, Glynn Vivian. Ffoto, Polly Thomas 2023

Diwrnod o rannu, creu a bwyta

Mae’r wyth artist y tu ôl i’r arddangosfa grŵp gludafael yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai difyr a meithringar sy’n adeiladu ar syniadau’r arddangosfa o gydfodolaeth, llawenydd a chynhaliaeth yn wyneb argyfwng ecolegol.

Wrth wneud hyn, byddwch yn cymryd rhan mewn eiliadau cymunedol o fwriad, gan baratoi gwledd o olygfeydd a seiniau y gall pawb sy’n bresennol eu mwynhau.

Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai creadigol a thrafodaethau grŵp bach a fydd yn gorffen gyda chinio bwffe, lluniaeth ac adloniant.

 

Lleoedd yn brin. Rhaid cadw lle. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein

£3

CADWCH LE NAWR

Cadwch lle nawr – Y Bwffe

Yn ogystal â’r sgwrs, y wledd a’r perfformiadau, dyma rhai o’r gweithdai y gallwch gymryd rhan ynddynt yn ystod y digwyddiad:

Plannu hadau: Bydd y gweithdy hwn yn myfyrio ar yr hyn rydym yn ei hau a’r gwreiddiau rydym yn eu tyfu er mwyn creu etifeddiaeth ar gyfer y dyfodol drwy blannu tomatos. Bydd yn gofyn pa adnoddau sydd gennym fel cymunedau sy’n ein maethu ac yn ein meithrin. Gweithdy tywys yw hwn lle byddwn yn gweithio gyda phridd, hadau a gyda’n dwylo. Ar ddiwedd y gweithdy bydd cyfranogwyr yn gallu mynd â’r hyn y maent wedi’i blannu adref gyda nhw a gweld canlyniad eu gwaith yn ystod yr haf pan fydd y tomatos yn blodeuo.

Gwneud eich Marc: Dod o hyd i le cysegredig ac ysbrydolrwydd yn wyneb argyfwng: gan ymateb i ffilm Breuddwyd NON Dreaming a ffilm cysylltu â natur ar y sgrîn, fydd y bobl sy’n cymryd rhan yn ysgrifennu haiku gydag inc ar bapur cywarch, darlunio gyda brwsys Japaneaidd a chreu hetiau papur cywarch syml gyda’r papur sydd wedi’i addurno.

BWYDO: Dewch i ymlacio’ch traed gyda baddon gwymon cynnes i’ch traed, llenwch eich enaid gyda the mwynol wrth ymgolli yn synau’r môr. Byddwn yn mynd â chi ar daith synhwyraidd drwy stori Angela a Kirsti am sut y daethant o hyd i wydnwch a symbiosis gyda’r môr yn ystod eu cymrodoriaeth ac yna’n rhannu llwncdestun i ddathlu sut y gallwn ddyfalbarhau yn ystod cyfnodau anodd.

Anatomi Gobaith: Gweithdy chwareus yn seiliedig ar y gêm Cadavre Exquis/corff cain a ddyfeisiwyd gan Andre Breton a’r mudiad Swrealaeth yn y 1920au. Gofynnir i’r bobl sy’n cymryd rhan ddylunio rhannau o gorff sy’n cynrychioli anatomi gobaith yn wyneb argyfwng hinsawdd. Caiff pob ‘corff’ ei ddylunio mewn pedwar cam: Y pen, y torso, y coesau a’r traed gyda’r papur yn cael ei blygu ar ôl pob adran fel na all y bobl sy’n cymryd yn hwyrach rhan weld y dyluniadau blaenorol.

Ymm/arfer [hesitation practice]: ysgrif ar-waith wedi’i ail-fframio fel gweithdy clywedol sy’n gwahodd y gwrandawr i grwydro’r amgueddfa yn ystyried sut gall yr anghyflawn, yr ansicr a’r aneglur fod yn strategaethau o ymwrthod â strwythurau fel maent. Dilyniant i’r cyhoeddiad print TROI, TROSI, ei addasiad mewn llais a swn, a’r ddau ddarn a grëwyd gyda Freya Dooley ar gyfer gludafael/holdfast, sydd i gyd yn ffurfio un prosiect ymchwil casglebol.

Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.

Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.

Ffôn: 01792 516900

E-bost: oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk

 



Categorïau

  • Croeso
  • Cymuned
  • Gweithdy Penwythnos i Oedolion
  • Gwneuthurwyr Ifanc
  • Oedolion
  • Pobl Ifanc
  • Presennol
  • Sgyrsiau

Event Category: Croeso, Cymuned, Gweithdy Penwythnos i Oedolion, Gwneuthurwyr Ifanc, Oedolion, Pobl Ifanc, Presennol, Sgyrsiau

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility