
Hafod Primary School
Mae’r Hafod, ac Ysgol Gynradd yr Hafod, dafliad carreg o Oriel Gelf Glynn Vivian, yn yr hyn a oedd unwaith yn ganolbwynt Abertawe ddiwydiannol. Adeiladwyd yr ysgol wreiddiol, Eglwys Sant Ioan a ‘threfgordd y gwaith copr’ oddi amgylch, gan y diwydiannwr John Henry Vivian (tad Glynn Vivian). Ei diben oedd cartrefu ac addysgu gweithwyr y ffatri gopr a’u plant. Aeth y teulu hyd yn oed mor bell â newid enw’r ardal o’r Hafod i Drevivian. Mae’r cysylltiad hanesyddol hwn rhwng yr ysgol a’r oriel yn gwneud y cydweithio rhwng y ddwy hyd yn oed yn fwy perthnasol.
Heddiw, mae disgyblion Ysgol Gynradd yr Hafod yn cael eu denu’n naturiol i archwilio hanes diwylliannol dynamig a newidiol yr ardal y maent yn byw ynddi. Yn y prosiect hwn buon nhw’n archwilio bywyd a gwaith yr artist a anwyd yn yr Hafod, Jack Jones.
Ganwyd Jack Jones ym 1922. Fe’i magwyd ychydig strydoedd i lawr o Ysgol Gynradd yr Hafod yn Aberdyberthi Street. Ym mhen Aberdyberthi Street, gollyngwyd gwastraff o’r ffatrïoedd copr mewn tomen a dyfodd yn domen sorod copr fawr a fwriai’r gorwel i’r cysgod. Ac yntau’n hunanddysgedig, chwiliai Jack am yr harddwch yn y dirwedd ddiwydiannol o’i gwmpas, gan baentio pobl, lleoedd a thirluniau’r Hafod a Glandŵr. Disgrifiodd ei hun fel: ‘Leonardo’r domen sorod’.
Ymchwiliodd y dosbarth i ddau baentiad gan Jack Jones yng Nghasgliad Parhaol Glynn Vivian, gan ymateb iddynt: Soar, Horeb a The Villiers a Traphont Glandŵr. Drwy’r paentiadau hyn archwiliodd y disgyblion fywyd yr artist, hanes yr ardal a’r Hafod gyfoes y maent yn ei hadnabod heddiw.
Mae Jack Jones wedi apelio’n fawr at y plant nid yn unig oherwydd eu bod yn mwynhau ei gelf ond oherwydd ei gysylltiadau â’r Hafod. Maen nhw’n adnabod y lleoedd y mae’n eu paentio ac maen nhw’n cerdded heibio’i dŷ ar y ffordd i’r ysgol. Nid arlunydd yn unig nad oes ganddynt unrhyw gysylltiadau ag ef yw Jack Jones ond rhywun a oedd yn rhan o’u cefndir nhw. – Richard Phillips (athro)
Yn ystod gweithdai yn yr ysgol ac yn Oriel Gelf Glynn Vivian, cynhyrchodd y disgyblion gorff o waith gan gynnwys paentiadau, cerfluniau, ymatebion testun a rhaglen ddogfen fideo. Curadwyd y gwaith hwn yn yr oriel ochr yn ochr â dau baentiad Jack Jones a’u harddangos dros gyfnod yr haf. I ategu arddangosfa’r ysgol, gwahoddwyd ymwelwyr i adael eu hymatebion eu hunain i’r paentiadau ac i ardaloedd yr Hafod a Glandŵr.




Jack Jones: Zoar, Horeb and the Villiers. 1988. Olew ar fwrdd.
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Hafod a fu’n rhan o’r prosiect: Josiah | Kaiser | Mazie | Omar | Samantha | Evie-May Paras Luthra | George Scarlett | Shahria | Ayan | Bobbi | Caleb | Darcey | Darlington | Aayan Aley | Ammara | Ashviga | Sana | Ezra | Habiba | Harriet
Jack Jones is a fantastic artist because he paints the Hafod. He painted my local area where I walk to school. – Omar
I like that he draws everything around him, because Hafod was his hometown. – Harriet
I like Jack Jones painting because I like how he always put in a rubbish bin. – Darcy
I love the little details of local people. – Caleb
I love the sky colour and I like how he homes are designed and the people. – Aley
I like looking at the paintings and the colour and it is inspiring, and he growed up in Hafod and the painting has lots of detail and on the sky and he lived on Aberdyberthi Street. – Evie
I like looking at Jack Jones painting because I like how he does it of his childhood. The colours of the painting make me feel happy. Jack Jones live on Aberdyberthi Street my street. – Darcy
Hoffai Oriel Gelf Glynn Vivian ddiolch yn fawr iawn i ddisgyblion Ysgol Gynradd yr Hafod am eich holl waith caled ar y prosiect gwych hwn.













