
Delwedd ddigidol
Casgliad Oriel Gelf Glynn Vivian
© Yr Artist
Cofebau Bugeiliol, 2012
Mae Helen Sear yn un o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru ym maes ffotograffiaeth a chyfryngau lens.
Pan dderbyniodd Helen Wobr Wakelin yn 2013, rhoddwyd y gweithiau hyn i gasgliad yr oriel trwy garedigrwydd yr artist.
Mae Cofebau Bugeiliol yn gyfres o 12 delwedd ffotograffig a wnaed mewn ymateb i’r ffotograffydd arloesol o’r 19eg ganrif, Mary Dillwyn (1816-1906), a dynnodd rai o’r ffotograffau cynharaf o flodau gwyllt yn y 1850au. A hithau’n ffotograffwraig gyntaf Cymru, roedd Mary Dillwyn yn rhoi mewnwelediad i fywydau cartref menywod yn y 19eg ganrif.
Mae gan Helen Sear yrfa nodedig, ac mi wnaeth hi gynrychioli Cymru yn 56ed Biennale Fenis yn 2015.