• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Cyfle newydd – Artist Cyswllt Oriel Gelf Glynn Vivian

Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025 //  by laura.gill

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn chwilio am Artist Cyswllt i wneud gwaith ymchwil a chyflwyno cyfres o weithdai sy’n ymateb i’n casgliad sgrîn ar gyfer pobl ifanc sy’n byw gydag anabledd.

Hetain Patel, Come As You Really Are, 2024

Mae’r rôl hon yn addas ar gyfer rhywun sydd â phrofiad bywyd o anabledd gyda brwdfrydedd dros greadigrwydd a gweithio gyda’r cyhoedd.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais: Dydd Mercher 14 Ionawr 2026

Dyddiad(au) y cyfweliad: Dydd Mawrth 19 a dydd Mercher 20 Ionawr 2026.

Cyfnod cyflwyno: Mawrth, Ebrill a Mai 2026

Disgrifiad o’r rôl

  • Ymchwilio i themâu a thechnegau a ddefnyddir yn y gwaith sgrîn yng nghasgliad parhaol y Glynn Vivian.
  • Dylunio a chyflwyno chwe gweithdy diddorol ar gyfer pobl ifanc ynghylch y themâu neu’r technegau hyn.
  • Rhoi adborth a chyfrannu at y gwerthusiad o’r prosiect.

Fy sgiliau a’m profiad

  • Ychydig o brofiad o arwain gweithdai neu helpu plant a phobl ifanc gyda’r celfyddydau gweledol
  • Ymagwedd agored a chydweithredol at ddysgu ac ymgysylltu
  • Diddordeb mewn datblygu arfer greadigol unigol a sgiliau wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc
  • Arfer addysg gelf arloesol a chreadigol

Y ffi yw £2450 am uchafswm o 7 niwrnod llawn o waith (7.5 awr). Mae hyn yn cynnwys gwaith ymchwil a chyflwyno cyfres o chwe gweithdy gyda grwpiau wedi’u targedu, fel y trefnwyd.

Mae arian ychwanegol ar gael ar gyfer costau mynediad o hyd at £2,100 ar gyfer anghenion unigol penodol.

Mae’r rôl hon yn destun gwiriad GDG manwl llwyddiannus. Mae’r rôl hon yn swydd lawrydd. Mae’n rhaid bod ymgeiswyr wedi cofrestru fel gweithiwr llawrydd a rhaid bod ganddynt yr yswiriant priodol ar waith.

Croesewir mynegiannau o ddiddordeb cyn y dyddiad cau, sef 14 Ionawr, 2025, a disgwylir i’r gweithgarwch ddigwydd drwy gydol misoedd Mawrth, Ebrill a Mai 2026.

I wneud cais, e-bostiwch eich mynegiant o ddiddordeb a’ch CV at Daniel.McCabe@abertawe.gov.uk

Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad ar naill ai dydd Mawrth 19 Ionawr neu ddydd Mercher 20 Ionawr 2026.

Mae’r prosiect hwn yn bosib diolch i gefnogaeth gan gronfa BFI Screen Heritage, sy’n dyrannu cyllid y Loteri Genedlaethol.

Gwybodaeth am Oriel Gelf Glynn Vivian  

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe yn chwarae rhan hanfodol mewn cymdeithas leol ac fel rhan o’r ecosystem greadigol ar draws Cymru. Drwy arddangosfeydd, prosiectau cydweithredol, ymgysylltu cymdeithasol, dysgu, allgymorth ac addysg rydym yn gweithio gyda chynulleidfaoedd a chymunedau lleol. Mae ein rhaglenni’n canolbwyntio ar ragoriaeth, cydraddoldeb, iechyd a lles, gan gefnogi artistiaid a’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Rydym yn cefnogi artistiaid lleol drwy arddangosfeydd, gwobrau, caffael gwaith, a chyflogaeth, yn ogystal â dod â rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw’r byd i Gymru. Rydym yn cyflwyno arddangosfeydd mawr a chomisiynau newydd, gan weithio mewn partneriaeth â llawer o sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae ein casgliad o gelfweithiau a chrochenwaith yn eiddo i bobl Abertawe ac yn rhan bwysig o gof diwylliannol y ddinas. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn aelod o Bortffolio Celfyddydol Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn rhan o Plus Tate a Visual Arts Group Wales. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhan o CELF: Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, rhwydwaith o 11 o orielau sy’n dod â’r casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes i gymunedau ledled Cymru. Ariennir gan Lywodraeth Cymru. 

Ceir rhagor o wybodaeth drwy fynd i: https://www.glynnvivian.co.uk/?lang=cy  

Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned.

Categori: Uncategorized @cy

Previous Post: «an artist sitting on a bench in front of a wall of portrait paintings ming wong, Artist Preswyl yr Oriel Genedlaethol ar gyfer 2025, yn cyflwyno gwaith newydd wedi’i ysbrydoli gan Sant Sebastian a Derek Jarman

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility