• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Richard James ac Angharad Van Rijswijk i ryddhau cerddoriaeth newydd mewn ymateb i arddangosfeydd Oriel Gelf Glynn Vivian

Dydd Iau 15 Ionawr 2026 //  by laura.gill

Bydd Hotel Et Al, y prosiect cydweithredol rhwng Richard James (Evolution of Beauty) ac Angharad Van Rijswijk (Accü), yn rhyddhau cerddoriaeth newydd mewn ymateb i arddangosfeydd yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe.

A black and white photograph of a man and woman looking directly to camera. They are outside, and there are trees in the background.

Ffotograffydd: Paul Battenbough. Golygydd lluniau: Angharad Van Rijswijk


Gan ddwyn ysbrydoliaeth o’r arddangosfeydd Artes Mundi 11 gan Kameelah Janan Rasheed a Linder: Danger Came Smiling, sy’n cael eu harddangos yn yr oriel ar hyn o bryd, mae’r cerddorion wedi creu cyfres o weithiau newydd sbon sy’n cyfuno cerddoriaeth, sain a barddoniaeth.

Kameelah Janan Rasheed yw un o’r artistiaid a ddewiswyd ar gyfer gwobr gelf genedlaethol Artes Mundi 11 eleni. Mae’r gosodiad yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn archwilio barddoniaeth, gwleidyddiaeth a phleserau cyfathrebu drwy ymarfer amlddisgyblaethol. Mae ei gwaith yn cynnwys gosodiad graffig y gellir ymgolli ynddo o brintiau newydd a phresennol, ysgrifennu, darluniadau, baneri, ffotograffau a fideo sy’n treiddio i’r atriwm ar lawr gwaelod Oriel Gelf Glynn Vivian ac yn cyrraedd y mesanîn uwchben. 

Daeth Linder i’r amlwg yn wreiddiol yn y 1970au, fel rhan o dirwedd ddeinamig pync-roc a’r gerddoriaeth a’i dilynodd, gan gael cydnabyddiaeth helaeth gyda’i band, Ludus, ac am greu cloriau albymau arloesol. Hanner canrif yn ddiweddarach, mae Linder yn artist a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei arfer amrywiol. Mae’r arddangosfa Hayward Gallery Touring, Linder: Danger Came Smiling yn cynnig trosolwg o yrfa 50 mlynedd o hyd yr artist eiconig hwn, o’r gwaith cynnar a ddeilliodd o’i chyfraniad at fyd pync-roc Manceinion yn y 1970au, i waith newydd na ddangoswyd o’r blaen. Mae ieithwedd weledol unigryw Linder yn cynnwys naws chwareus ac yn archwilio ein hagweddau cyfnewidiol at fywyd uchelgeisiol, rhyw, bwyd a ffasiwn. 

Drwy dreulio amser gyda’r arddangosfeydd hyn, yn ymgysylltu â’r gwaith celf ac yn ymchwilio i’r artistiaid eu hunain a’r themâu a’r cysyniadau sy’n codi yn eu gwaith, mae Hotel Et Al wedi cynhyrchu ymateb gan ddefnyddio amrywiaeth o arddulliau ac yn defnyddio offerynnau acwstig ac electronig i gyfleu eu cysylltiad emosiynol â’r gweithiau celf.

Comisiynwyd ymateb cerddorol Hotel Et Al i’r arddangosfeydd hyn fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng adran Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe a Menter Iaith Abertawe. Bydd y gwaith a gynhyrchwyd yn cynnwys barddoniaeth arbrofol Dadäydd yn yr iaith Gymraeg mewn ymateb i’r gweithiau celf. Bydd hefyd yn cynnwys gwaith lleisiol a chorawl polyffonig, sy’n defnyddio iaith a llais mewn ffyrdd emosiynol a thawel, ac mae’r ddwy ffurf hyn ar y cyd yn creu dull newydd ac unigryw o ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn greadigol.

Meddai Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb,

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe, sy’n cyflwyno digwyddiadau Cymraeg ledled Abertawe a thu hwnt.”

“Bydd gwesteion arbennig yn ymuno â Hotel et Al a bydd y band yn perfformio’i albwm newydd sbon yn Oriel Gelf Glynn Vivian, digwyddiad diwylliannol arloesol ar gyfer y ddinas.”

“Mae’r digwyddiad hwn yn tynnu sylw at ein hymrwymiad parhaus i gefnogi’r celfyddydau a chynnig profiadau diwylliannol amrywiol i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Bydd y bartneriaeth hon yn parhau gyda digwyddiadau ar draws lleoliadau diwylliannol Cyngor Abertawe dros y flwyddyn i ddod.”

Bydd y gwaith newydd hwn yn cael ei gyflwyno fel cyfres o recordiadau ar gyfer albwm a fydd ar gael ar wefan Oriel Gelf Glynn Vivian. Y cyfle cyntaf i glywed y rhain bydd mewn perfformiad byw yn Oriel Gelf Glynn Vivian ar Nos Iau 12 Chwefror 2026. Mae tocynnau am ddim ar gael i’w archebu nawr trwy’r ddolen hon, a bydd mwy o wybodaeth am berfformwyr gwadd arbennig a fydd yn ymuno ag Hotel Et Al i gyflwyno’r gwaith newydd hwn yn cael ei chyhoeddi’n fuan.

Mae NAWR yn gyfres o gyngherddau amlddisgyblaeth yn Abertawe a’r Gelli Gandryll sy’n cynnwys cerddoriaeth arbrofol, byrfyfyr rhydd, ffilm, lo-fi, jazz rhydd, celf sain, cerddoriaeth werin, a cherddoriaeth newydd. Nod gwaith NAWR yw cynnig lle agored a myfyriol i gynulleidfa brofi cerddoriaeth newydd mewn awyrgylch croesawgar ac agos.

Mae Hotel Et Al yn cynnwys y cyfansoddwr, y cerddor a’r artist sain Richard James (Evolution Of Beauty), a’r cyfansoddwr, y cerddor, y cynhyrchydd a’r artist sain a gweledol Angharad Van Rijswijk (Accü). Maent wedi gweithio gyda’i gilydd ar brosiectau cerddoriaeth, sain a gweledol amrywiol ers dros ddeng mlynedd, gan gynhyrchu gwaith ar gyfer radio, gosodiadau, perfformiadau byw a recordiau, ac ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd Cyfoes, BBC Radio Cymru a Radio 3, Resonance FM, Prifysgol Abertawe, Amgueddfa Abertawe, Gŵyl Ryngwladol Abertawe a Libertino Records.

Yr holl ymholiadau: swyddfa@menterabertawe.org  

Categori: NewyddionTag: Cymru

Previous Post: « Cyfle newydd – Artist Cyswllt Oriel Gelf Glynn Vivian

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility