Mae cofeb newydd i Drychineb Pwll Glo Elba ym 1905 yn cael ei dadorchuddio’r wythnos hon fel rhan o brosiect sydd wedi gweld cenedlaethau’n dod at ei gilydd i gofio’r rheini a gollodd eu bywydau dros 120 o flynyddoedd yn ôl.
Mae artist cyswllt Oriel Gelf Glynn Vivian, Tina Grant wedi bod yn gweithio gyda’r grwpiau celf cymunedol, Art Break – Tregŵyr, y Cocyd a Waunarlwydd, Ysgol Gynradd Tregŵyr a Grŵp Croeso: Gweithdy Mosäig yr Oriel i ddylunio a chreu mosäig newydd i ddisodli’r plac coffa presennol yn Eglwys Sant Ioan, Tregŵyr.

Mae’r grwpiau Art Break wedi bod yn archwilio’r paentiadau gan artistiaid sy’n gweithio gyda thirwedd ddiwydiannol de Cymru, ac fe’u hysbrydolwyd yn wreiddiol gan baentiad yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, Lougher from Penclawdd, gan Cedric Morris. Mae’n dangos golygfa o Dregŵyr ar draws aber afon Llwchwr ac ymhellach ymlaen tuag at Lanelli.
Yn dilyn sawl trafodaeth am yr ardal a’i hanes cyfoethog, dechreuodd y grŵp ymchwilio i Drychineb Pwll Glo Elba ym 1905, a ddigwyddodd mewn pwll glo hanner ffordd rhwng Pen-clawdd a Thregŵyr.
Lladdwyd 11 o ddynion yn y digwyddiad – yr oedd yr ieuengaf ohonynt yn grwt 14 oed. Mae un o aelodau’r grŵp Art Break yn perthyn i un o’r rhai a fu farw, a gwnaethant benderfynu gyda’i gilydd eu bod am greu rhywbeth mwy parhaol i gofio’r holl deuluoedd hynny yr effeithiwyd arnynt yn eu cymunedau.
Meddai’r Artist Cyswllt Tina Grant,
Gan ddefnyddio paentiadau o gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian, gwnaethom edrych ar sut roedd yr ardal yn arfer edrych, a’r bobl a ddarluniwyd yn y paentiadau hyn – casglwyr cocos, glowyr a chloddwyr. Roeddem eisiau creu rhywbeth a allai gynrychioli’r gymuned a gofynnom am help Ysgol Gynradd Tregŵyr a Grŵp Croeso: Gweithdy Mosäig Oriel Gelf Glynn Vivian i’n helpu i ddylunio a gwneud mosäig coffanewydd.
Mae wedi bod yn brofiad gwych cael gweithio ar y cyd ar y prosiect hwn, a diolchwn i’r cyfranogwyr a’r disgyblion niferus sydd wedi cyfrannu at y gwaith celf arbennig hwn, a fydd yn cael ei arddangos yn falch yng nghanol y gymuned am flynyddoedd lawer i ddod.
Meddai’r Cyng. Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gydraddoldeb, Hawliau Dynol a Diwylliant,
Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r prosiect cymunedol hwn am eu hymroddiad. Bydd y gweithiau celf hyn yn siarad â ni a chenedlaethau’r dyfodol am ddigwyddiad yn hanes y ddinas na fyddwn byth yn anghofio amdano.
Bydd y mosäig coffa i drychineb Pwll Glo Elba’n cael ei ddadorchuddio gan yr Arglwydd Faer ddydd Mawrth 10 Mawrth am 10.30am yn Eglwys Sant Ioan, Tregŵyr.
Hoffem ddiolch i gyfranogwyr y prosiect am eu holl waith caled:
Grŵp Croeso: Gweithdy Mosaig Oriel Gelf Glynn Vivian
Ezra | Angela | Piera | Rob | Judith | Sian | Sian | Liz | Sandra | Dilshad
Artbreak Tregŵyr
Linda D | Lynne | Sue J | Pam | Ros | Linda M | Joy | Sue | Cecillia | Ena | Sandra | Zarah | Rachel | Beth | Ken | Liz | Jan
Artbreak Y Cocyd
Sian E | Stephen | Eifion | Peter | Julia | Julie | Sue | Sally | Andrea | Meg | Liz | Sian F
Artbreak Waunarlwydd
Chris G | Anne | Bev | Jeff | Glenys | Monica | Cath | Marjorie | Kathie | Debbie | Rebecca | Angela | Gill | Chris
Disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 (2025) o Ysgol Gynradd Tregŵyr a’r Cynghorydd Susan Jones.
Mae Straeon Abertawe‘n brosiect casgliad cymunedol a ariennir gan Esmée Fairbairn Foundation sy’n gwahodd lleisiau newydd i adrodd stori casgliad Oriel Gelf Glynn Vivan.
Cynhelir Cronfa Casgliadau Esmée Fairbairn gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd ac mae’n ariannu prosiectau sy’n datblygu casgliadau i gael effaith gymdeithasol.


Richard James ac Angharad Van Rijswijk i ryddhau cerddoriaeth newydd mewn ymateb i arddangosfeydd Oriel Gelf Glynn Vivian
