• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
Rydych chi yma: Hafan / Casgliadau / Straeon Abertawe

Straeon Abertawe

Darganfod Straeon Abertawe drwy Gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian

Mae gan Oriel Gelf Glynn Vivian gasgliad cyfoethog ac amrywiol o oddeutu 12,000 o gelfweithiau, sy’n amrywio o baentiadau, gwaith ar bapur, cerameg, crochenwaith, ffilm, cerflun, tecstilau a llawer mwy.

Yn 2019, gwnaeth yr Oriel guradu arddangosfa o’r enw Straeon Abertawe, a oedd i ryw raddau yn seiliedig ar y themâu Dinas, Pobl, Arfordir a Ffefrynnau, er mwyn arddangos y gwaith gorau o’r casgliad parhaol – sy’n perthyn i bobl Abertawe.

Straeon Abertawe. Ffoto Polly Thomas 2019

Er bod yr ymateb i’r arddangosfa yn hynod gadarnhaol a’i fod wedi darparu amrywiaeth eang o ddeunydd er mwyn deall datblygiad parhaus ein dinas, ein pobl a’n cymunedau, gofynnwyd cwestiynau hefyd ynghylch casglu, arddangosfeydd, ymchwil a chomisiynau.

Yn dilyn yr arddangosfa, gwnaeth dîm yr Oriel ddatblygu prosiect a fyddai’n ceisio darganfod pa Straeon Abertawe sy’n cael eu hadrodd drwy’r casgliad, ond hefyd, pa straeon sydd wedi’u hepgor a pham?

Gyda chefnogaeth gan brosiect Cronfa Cymunedau a Chasgliadau Sefydliad Esmée Fairbairn, a gynhelir gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd, lansiwyd y prosiect Straeon Abertawe er mwyn ystyried perthnasedd a defnyddioldeb casgliad yr oriel ar gyfer y ddinas a’i phobl.

Hyd yma, mae prosiect Straeon Abertawe wedi gwahodd nifer o grwpiau cymunedol yr Oriel, ysgolion, unigolion ac aelodau’r cyhoedd i ymateb drwy rannu eu straeon eu hunain, drwy ddysgu a gweithgareddau ymgysylltu a ddarperir gan ein tîm dysgu.

Drwy’r gweithgareddau hyn, rydym yn gobeithio y gallwn annog ymdeimlad cryfach o berchnogaeth gan bobl Abertawe ar gyfer eu horiel a’u casgliad nhw, a gwahodd lleisiau newydd i adrodd stori’r casgliad drwy arddangosfeydd, dehongliad, curadu ar y cyd, ymateb yn greadigol, ymchwil a chomisiynau newydd.

Ynghyd â’n cyfranogwyr, rydym yn gobeithio y gallwn nodi geiriau allweddol sy’n deffro atgofion ac yn ein helpu i ddeall hanesion cymhleth y gwrthrychau a’r paentiadau hyn, er mwyn datblygu dehongliadau ac esboniadau newydd o’r gwaith i’w rhannu â’n holl ymwelwyr.

Darllen am y prosiectau Straeon Abertawe. 


Ysgol Gynradd yr Hafod a Jack Jones 

Ymchwiliodd y dosbarth i ddau baentiad gan Jack Jones yng Nghasgliad Parhaol Glynn Vivian, gan ymateb iddynt: Soar, Horeb a The Villiers a Traphont Glandŵr. Drwy’r paentiadau hyn archwiliodd y disgyblion fywyd yr artist, hanes yr ardal a’r Hafod gyfoes y maent yn ei hadnabod heddiw. 

Mosaig Goffa Elba

Mae Artist Cyswllt Oriel Gelf Glynn Vivian, Tina Grant, wedi bod yn gweithio gyda chyfranogwyr o’i grwpiau allgymorth cymunedol, Artbreak Tregŵyr, y Cocyd a Waunarlwydd, i archwilio paentiadau gan artistiaid sy’n gweithio gyda thirwedd ddiwydiannol de Cymru.

Y Farchnad a Fu 

Mae Y Farchnad a Fu yn un o brosiectau allgymorth Oriel Gelf Glynn Vivian sy’n archwilio hanes newidiol Marchnad Abertawe. Wedi’u hysbrydoli gan ddau baentiad o Gasgliad Parhaol yr oriel, sef Mynedfa i Farchnad Abertawe, 1941 gan Will Evans a Marchnad Abertawe (1830) gan Calvert Richard Jones

Abertawe drwy Lygaid John Piper gyda chyfranogwyr o Ganolfan Gymunedol Waunarlwydd

As part of Glynn Vivian’s outreach programme the gallery worked in collaboration with partner project ArtBreak, run by artist Tina Grant, alongside textile artist Menna Buss.   

Featuring John Piper’s Swansea Bay and South Wales View (Swansea West)  

Straeon Abertawe

Dydd Gwener 27 Medi 2019 – Dydd Sul 15 Mawrth 2020

I ddathlu hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas, mae’r Glynn Vivian yn cyflwyno Straeon Abertawe, arddangosfa a fydd yn cynnwys y detholiad mwyaf o’n casgliad parhaol a arddangoswyd erioed.

Meissen Pottery, Germany    Porcelain figure of a woman, said to represent Africa, c.1740-1820

Deg Gwrthrych o’r Casgliad

22 Gorffenaf 2022 – 31 Hydref 2022

Cynhaliodd Tîm y Glynn Vivian, gyda chymorth Dr Zehra Jumabhoy, ymchwil ar y celfweithiau hyn fel rhan o The World Reimagined, prosiect sy’n archwilio naw thema sy’n rhoi cyfle i ni ailddyfeisio’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Straeon Abertawe: Will Evans a’r Blitz Tair Noson gyda Mike Lewis 

Ebrill 2025

Cip ar baentiadau Will Evans o’r Blitz Tair Noson drwy lygaid preswyliwr o Abertawe, Mike Lewis. 

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility