• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
Rydych chi yma: Hafan / Straeon Abertawe: Y Farchnad a Fu 

Straeon Abertawe: Y Farchnad a Fu 

Mae’n ganolfan go iawn lle gall y gymuned gael sgyrsiau. Mae’n bwysig i lawer o bobl. – Mary Hayman

Mae Y Farchnad a Fu yn un o brosiectau allgymorth Oriel Gelf Glynn Vivian sy’n archwilio hanes newidiol Marchnad Abertawe. Wedi’u hysbrydoli gan ddau baentiad o Gasgliad Parhaol yr oriel, sef Mynedfa i Farchnad Abertawe, 1941 gan Will Evans a Marchnad Abertawe (1830) gan Calvert Richard Jones, bu’r artist lleol Mary Hayman a’r artistiaid Rhiannon Morgan, Elissa Evans, Melissa Rodrigues ac Anna Barratt yn gweithio ar y safle gyda chyfranogwyr a phobl a âi heibio i greu gosodwaith cydweithredol sy’ndathlu hanes y sefydliad hwn yn Abertawe. 

Cyfranogwyr: Mr. Dennis Jones | Tara | Jemila | Hanan Beko | Marilyn Morgan (Mally) | Laura Gwen Miles | Ben Rowden | Williams family – Joe, Hayley and Jason | Bilqis | Sian Phillips | Owen Leutshford | Anne, Liz and Cynthia from Llanelli | Chris from Mavis Davies Stall | Jemila | Tara | Sylvia from Pontlliw | Hanan Beko 

Pobl a aeth heibio a gyfrannodd at hyn: Anne Peters | Ivor Sloan | Ganimet Kaldi | Maureen and Phillys | Cena Brown | Laura | Dawn Williams | Mohammad Chowdury   

Rwy’n dwlu ar y lle, yr awyrgylch yno – prynu pethau gan bobl go iawn y gallwch chi siarad â nhw – Mary Hayman

Y farchnad rydych chi’n sefyll ynddi heddiw yw canolfan gymunedol Abertawe. Er ei bod wedi symud a newid dros y blynyddoedd, mae hi bob amser wedi bod yn bresennol mewn rhyw ffurf, yn lle i gymunedau amrywiol Abertawe gwrdd, siarad a masnachu. Hanes cyfoethog ac ysbryd cymunedol y farchnad oedd y sbardun i’r artist Mary Hayman greu gosodwaith cydweithredol sy’n adrodd ei hanes. Yr ysbrydoliaeth a’r man cychwyn ar gyfer y gosodwaith oedd dau baentiad allweddol o Gasgliad Parhaol yr oriel: Paentiad olew Will Evans, Mynedfa i Farchnad Abertawe 1941, a dyfrlliw Calvert Richard Jones Marchnad Abertawe (1830).  

Mae’r farchnad yn lle gwych… hi yw calon Abertawe i ryw raddau. A dwi’n meddwl bod Mary yn teimlo hynny gan fod mynd o gwmpas yn siarad â’r bobl sydd yma’n rhan fawr o’r prosiect. – Gerald Gabb (Hanesydd)

Will Evans: Mynedfa i Farchnad Abertawe, 1941 Olew ar banel

Ymateb Mary i’r paentiad Mynedfa i Farchnad Abertawe, 1941 gan Will Evans

‘Cafodd ei bomio yn ystod y rhyfel. Mae tipyn go lew o luniau o’r adeilad hwn. Roedd yn adeilad anhygoel, enfawr gyda, rwy’n credu, yr ardal wydr orchuddiedig fwyaf yn Ewrop ar y pryd. Roedd ganddo drydan oherwydd bod bragdy drws nesaf yn cyflenwi goleuadau trydan iddynt, a hynny’n gynnar iawn, ac rwy’n credu bod ganddo loriau go iawn oherwydd bod y farchnad flaenorol wedi dod yn annigonol, yn fwdlyd, yn frwnt ac yn ofnadwy. Roedd hwn yn gam i fyny go iawn. Roedd yn adeilad mawreddog iawn, brics coch gydag ymylon hyfryd… addurnedig, ychydig fel oriel gelf (Glynn Vivian) mewn gwirionedd. Cyfnod tebyg, rwy’n credu iddo gael ei adeiladu tua’r 1880au, pan roedd llawer o Abertawe’n cael ei adeiladu, mawreddog iawn, mawr iawn a gallwch weld bod hyd yn oed ei ochrau wedi’u hadeiladu’n gadarn. Mae pentyrrau o falurion gan fod y lle cyfan wedi’i fomio, dinistriwyd y to cyfan… mae yn yr un lle ag y mae’r farchnad nawr. Adeiladwyd y tair marchnad ddiwethaf i gyd ar yr un safle a oedd yn wreiddiol yn ‘rhafflan’ lle roedden nhw’n arfer gwneud rhaffau ar gyfer y llongau. Roedd yr Almaenwyr yn meddwl y byddai hyn yn atal pobl rhag prynu bwyd ond sefydlodd deiliaid stondinau’r farchnad eu stondinau o gwmpas y farchnad. Mae pobl o hyd sy’n gallu cofio mor fwdlyd yr oedd hi. Wrth edrych ar y gyfres hon [paentiadau’r Blitz Will Evans] a’u gosod mewn rhes mewn trefn dyddiad, maen nhw’n mynd yn llai ofnadwy. Mae’n amlwg iddo ddod yn llai isel ei ysbryd gyda threigl amser. 

Calvert Richard Jones: Marchnad Abertawe 1830. Dyfrlliw ar bapur. 

Ymateb Mary i’r paentiad Marchnad Abertawe (1830) gan Calvert Richard Jones

Dyma un o’r darluniau cyntaf o Farchnad Abertawe. Mae ambell un cynharach yn yr Amgueddfa Brydeinig. Roedd yn wreiddiol draw ger y castell… adeiladau Sioraidd trillawr, ceffylau a cherti amrywiol… mae’n ymddangos bod gan y prif ran do gyda cholofnau o’i flaen, yn agored oddi tano a phobl yn gwerthu yno gyda basgedi a hetiau du Cymreig arnynt, a phobl yn siarad, menywod yn gwisgo siolau… byddai wedi bod fwy neu lai yn Sgwâr y Castell ac roedd gan yr holl strydoedd yn arwain ati enwau anifeiliaid a phethau oherwydd byddai’r anifeiliaid wedi cael eu masnachu yn yr un lle. Symudwyd yr anifeiliaid yn y pen draw i le yn agos i’r tanerdy ger yr orsaf. Mae’n baentiad bywiog… mae’n rhoi syniad da o le prysur bywiog.

Calvert Richard Jones. Dyn cyfoethog a oedd yn byw yn nhŷ Heathfield uwchben y dref. Tŷ mawr. Roedd yn berchen ar lawer iawn o dir. Roedd y bobl a oedd yn byw yn y tai niferus yno’n talu rhent i Calvert Jones. Dyluniwr ac arlunydd medrus iawn, a ffotograffydd, ffotograffydd cynnar iawn ar ddechrau popeth. Dyn cyfoethog nad oedd, yn fy marn i, yn dioddef pobl gyffredin yn llawen. Mae ei baentiad o’r farchnad gynharaf yn un eithaf tawel. Mae bron yn edrych fel diwedd y dydd pan fydd yr amser masnachu prysur wedi tawelu. Mae paentiad [tebyg] yn yr Amgueddfa Brydeinig ac mae’n wyllt. Cŵn yn rhedeg o gwmpas, pobl ar fin ymladd, eraill yn dod i adnabod ei gilydd yn eithaf da. Mae Calvert Jones yn dawelach, ond mae’n gymhariaeth dda iawn. – Gerald Gabb (Hanesydd)

Siop fwyaf bendigedig y byd!

Sefydlodd Mary a’i thîm ardal weithdy mewn stondin fasnachu segur, ymysg prysurdeb siopau a chaffis y farchnad. O’r man hwn gwahoddodd Mary aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan yn y prosiect. Roedd cyflwyno pobl a âi heibio i’r paentiadau’n rhoi cyfle i gyfranogwyr ddysgu mwy am y stori y tu ôl i’r gwaith, hanes y farchnad ei hun a’r bobl sy’n parhau i roi bywyd iddi. 

Rwy’n cofio fy nhad yn prynu cig a oedd yn arogli o fwg ar ôl y bomio. – Phylis

Defnyddiwyd hen focsys ffrwythau cardbord a deunyddiau gwastraff eraill o’r farchnad i greu’r adeileddau a fyddai’n datblygu’n osodwaith. Casglwyd straeon a syniadau a’u hychwanegu at yr adeileddau a oedd yn datblygu. Roedd y dull hwn o weithio’n golygu bod y farchnad fel lle, a’r bobl sy’n ei defnyddio, yn cael eu hymgorffori yn y gwaith terfynol. 

Rwy’n cofio ‘Mel the Books’.Roedd e’n ‘nabod fy rhieni ac yn edrych fel fy nhad. Byddwn i’n mynd i’w stondin lyfrau a gwario fy arian poced a byddai bob amser yn rhoi llyfr am ddim i fi. – Liss

Dros yr wythnosau a’r misoedd, tyfodd a datblygodd y gosodwaith, gyda mwy a mwy o bobl yn cymryd rhan yn y prosiect. Creodd Mary a’i thîm amgylchedd croesawgar i gyfranogwyr greu ac 

ymateb i’r paentiadau, gan gasglu cyfranogwyr rheolaidd, pobl a âi heibio a deiliaid stondinau chwilfrydig y farchnad yn raddol. Roedd gan bob person stori i’w hadrodd a pherthynas unigryw â’r farchnad. Mae’r straeon a’r hanesion, y bobl a’r lle, wedi’u hymgorffori yn y gosodwaith hwn, gan greu naratif sy’n hanesyddol, ond hefyd, yn cyfleu’r presennol mewn ffordd unigryw. 

Mae’r artistiaid ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn hynod ddiolchgar i’r bobl sy’n treulio’u hamser yn gweithio ar y prosiect hwn ac i’r staff a masnachwyr y farchnad sydd wedi cefnogi prosiect y farchnad o’i chychwyn. Yn ogystal â hyn, rhaid diolch yn fawr iawn i Gerald Gabb, Amgueddfa Abertawe ac Archifau Abertawe am eu holl gymorth. 

O.N. Rhywbryd ar ôl i’r prosiect ddod i ben, sefydlodd Mary ei stondin gelf ei hun yn y farchnad, gyda’i thaith yn gorffen yn y man cychwyn. Mae Mary bellach yn rhan o’r stori y mae hi wedi helpu i’w hadrodd.

Yn ystod y prosiect dechreuodd Mary baentio stondinwyr a gofyn am eu straeon. Casglir detholiad o’r rhain yma:

Claire Swistun – Cocos a bara lawr Swistun 

Mae Claire yn byw yn Llanmorlais. Mae ei gŵr yn gyflenwr cocos, y 6ed cenhedlaeth o’r teulu i wneud hyn. Mae ei mab a’i merch-yng-nghyfraith hefyd yn ymwneud â’r busnes. Yn ogystal â gwerthu yn y farchnad mae Swistun’s yn allforio cynnyrch i Sbaen.

Neil – Llysiau Neil 

Mae Neil yn ffermwr o gogledd Gŵyr, sy’n parhau â masnach ei hen dad-cu, sef gwerthu llysiau cartref a chynnyrch lleol arall ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn. Dechreuodd pan oedd yn 13 oed drwy helpu ei fam-gu wrth y bwrdd rhwng y gwerthwyr cocos a bara lawr yng nghanol y farchnad. 

Ali – Glow and Relax 

Mae Ali yn ieithydd dawnus sy’n siarad Eidaleg, Saesneg a Farsi. Daeth i Abertawe i astudio yn y brifysgol. Ar hap cafodd gynnig swydd mewn siop atgyweirio ffonau symudol, lle treuliodd flynyddoedd yn helpu cwsmeriaid a oedd dan dipyn o straen. 

Gan sylweddoli bod angen help ar bobl i ymlacio, penderfynodd sefydlu stondin i werthu cynnyrch lleddfol. Mae’r rhan fwyaf o’r olewau naws, cerfluniau dŵr ac eitemau eraill yn cael eu gwneud yn y DU.

Dr Tinn – Smoothie Den 

Mae Dr Tinn bob amser wedi pryderu am les pobl a thros y blynyddoedd mae wedi defnyddio’i ddoniau niferus i weithio dros iechyd a lles pobl. Er mwyn sicrhau bod ei gymysgeddau ffrwythau a llysiau mor naturiol â phosib ac yn cyfrannu at ddeiet iach, mae’n codi am 4 o’r gloch y bore i baratoi’r llysiau a ffrwythau ac mae’n credu bod “iechyd yn gyfoeth”.

Jan – Popty Traddodiadol 

Mae Jan wedi bod yn rhedeg ei stondin bara a theisennau ers 45 mlynedd. Mae hi’n gwerthu torthau a theisennau blasus. Pice ar y maen yw’r eitemau mwyaf poblogaidd, gan gynnwys rhai siâp calon. Mae hi wedi cyflenwi’r rhain ar gyfer priodasau. Cafodd ymweliad gan y Brenin Charles pan oedd yn Dywysog Cymru ac roedd rhai o bice ar y maen ei stondin wedi’u cynnwys mewn basgedaid o nwyddau a gyflwynwyd iddo. 

Yn ei hamser sbâr mae Jan yn dilyn cerddoriaeth fyw ac mae’n mynd i weld Robbie Williams yn Academi Brixton cyn ei daith fyd-eang.

Eileen – Coakley Greene a Tucker’s Fish 

Mae Eileen yn berson cyfeillgar iawn a hyblyg. Dechreuodd weithio yn y farchnad ar ddydd Sadwrn pan oedd hi’n 15 oed ac, ar wahân i rai blynyddoedd yn ffatri dillad dynion Hodge, mae hi wedi treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd gwaith yno. 

Bu’n gweithio ar amrywiol stondinau yn gwerthu dillad, losin a bwyd nes iddi hi a’i brawd (gyda chymorth ei phedwar mab) gymryd busnes y stondin cig moch drosodd, gan werthu cigoedd wedi’u coginio a bwydydd 

Pan gaeodd y stondin cafodd Eileen swydd gyda stondinau Coakley Greene a Tucker’s Fish, lle mae’n dal i weithio.

Dan Stallard – The Falafel Stall 

Roedd Dan yn artist a oedd yn creu paentiadau hardd beiddgar, llawen o natur, yn enwedig blodau. Bu’n arddangos mewn gwahanol leoedd gan gynnwys Sioe Flodau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol. Un diwrnod mewn marchnad Nadolig gwelodd rywun yn gwerthu coffi o feic a chafodd y syniad o gychwyn stondin falafel symudol i fynd i wyliau. 

Wyth mlynedd yn ôl cymerodd stondin ym Marchnad Abertawe, gyda’r bwriad o’i rhedeg fel ail fusnes. Fodd bynnag, mae’r busnes wedi llwyddo ac mae’n boblogaidd iawn. Mae e’ wrth ei fodd yn cwrdd â phobl a dilyn straeon ei gwsmeriaid rheolaidd. Mae’n cynnig cludfwyd feganaidd ffres mewn cynwysyddion sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, yn gwerthu diodydd mewn poteli gwydr ac yn ailgylchu’r holl wastraff. 

Mae Dan yn dechrau gweithio am 5.20 y bore ac yn gadael ar ôl 6pm… y cyntaf i mewn, yr olaf allan! Er mwyn cael bywyd cytbwys mae’n cymryd 2 ddiwrnod i ffwrdd bob wythnos. Mae ei waith yn rhoi boddhaol iddo ac meddai “Rwy’n cael rhoi boliau hapus i bobl”. 


Atgofion pobl o’r farchnad

Anne Peters (79 oed)  

Rwy’n cofio trît dydd Sadwrn, mynd i’r farchnad awyr agored ger waliau’r adeilad a oedd wedi’i fomio gydag un o’m rhieni i brynu cyw iâr a gorfod camu dros y rwbel yn y dref. Prynodd grwban yn y farchnad am hanner coron (2 swllt a chwecheiniog).

Ivor Sloan

Roedd fy nhad yn gweithio i Scaffolding Great Britain ac fe’i huriwyd i ddylunio a gosod sgaffaldiau i adeiladu to’r farchnad newydd heb darfu ar y stondinwyr islaw. Fe oedd wedi hongian y sgaffaldiau o’r hytrawstiau metel. Roedd hyn mor llwyddiannus fel y cafodd ei gyflogi i wneud gwaith tebyg gan sinema’r Carlton (lle mae Waterstone’s yn awr). Roedd e’n dwlu ar hynny gan mai dim ond yn y boreau yr oedd yn rhaid iddo weithio a gallai dreulio’r prynhawniau’n gwylio ffilmiau!

Ernest Amour (aged 89)

Galla i gofio’r hen farchnad Fictoraidd yn cael ei grybwyll gan yr Arglwydd Haw Haw a ddarlledai bropaganda ar y radio ar gyfer y Natsïaid. Cyfeiriodd ato fel ‘Tŷ Gwydr’. Hwn oedd yr adeiledd metel a gwydr mwyaf yn Ewrop ar un adeg

Dawn Williams

Cefais fy ngeni ym 1950 a dechreuais weithio yn y farchnad pan oeddwn i’n 13 oed, ar stondin deganau Frank a oedd hefyd yn gwerthu crwbanod. Galla’ i gofio’u bod yn costio 15 swllt. Roedden nhw’n cael eu cadw mewn blychau a oedd wedi’u defnyddio ar gyfer danfon pasteiod

Frank 

Roedd fy mam yn rhedeg y stondin tsieni drws nesaf, a chaeodd y stondinau wrth i’r teulu ymddeol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility