
Mae ein gweithdai dan arweiniad artistiaid yn trafod arddangosfeydd ein casgliad a’n rhaglen arddangosfeydd gyfoes.
Mae pob gweithdy’n cynnwys taith dywys wedi’i dilyn gan weithgaredd ymarferol.
Mae’r gweithdy’n dechrau â thaith gerdded arsylwadol o amgylch yr oriel, lle byddwn yn esbonio sut i fynd o gwmpas orielau a’u defnyddio, gan ganolbwyntio ar y gwaith celf drwy ddarlunio a thrafod.
Yna mae’r gweithdy’n parhau yn ein hystafell ddysgu ddynodedig, lle bydd artist-addysgwr profiadol yn arwain cyfres o ymarferion creadigol. Bydd yr elfen ymarferol yn archwilio deunyddiau a thechnegau sy’n gysylltiedig â’r hyn yr oedd y grŵp wedi’i arsylwi yn ystod eu hymchwiliad i’r Oriel a’r arddangosfeydd.
Gan ddechrau â thaith dywys o gwmpas yr Oriel, caiff disgyblion eu hannog i archwilio a gwneud brasluniau paratoi cyn dychwelyd i’n Stiwdio Ddysgu ddynodedig (ystafell 2) i ddatblygu eu gwaith.
Ar gyfer ysgolion uwchradd a cholegau AB, gallwn gynnig profiad unigryw i gyd-fynd â’r thema neu’r pwnc o’ch dewis, a bydd ein tîm dysgu’n agored i drafodaeth er mwyn creu profiad unigryw ar gyfer eich dosbarth.
Mae sesiynau’n para oddeutu 2 awr rhwng 10:00 a 12:00 ac maent ar gael i uchafswm o 30 o ddisgyblion. Dylai ysgolion uwchradd gyda chyfleoedd cyfyngedig yn ystod y tymor ar gyfer ymweliadau gysylltu â ni i drafod trefnu ymweliad â’ch ysgol chi.
Themâu
Gallwch ddewis o’r canlynol:
Archwilwyr
Dewch i fod yn archwiliwr a dysgwch am yr Oriel a’i sylfaenydd, Richard Glynn Vivian.
Ewch ar daith dywys i weld ein harddangosfa Teithiau rhwng Celf a Bywyd: Richard Glynn Vivian (1835-1910), a dewch i weld y cyfoeth o wrthrychau hynod ddiddorol a gasglwyd ganddo wrth iddo deithio’r byd. Dewch i gael eich ysbrydoli gan hanes a chasgliad Glynn, a chofnodwch eich teithiau eich hun drwy ddarlunio a phaentio.
Natur a Thirluniau
Archwiliwch gasgliad yr Oriel a dysgwch am addurniadau blodeuog drwy ddarlunio arsylwadol. Cymerwch ysbrydoliaeth o artistiaid megis David Evans a Thomas Pardoe a chrëwch eich dyluniadau botanegol eich hunain.
Portreadau
Gan gymryd ysbrydoliaeth o arddangosfeydd ac arddangosiadau’r oriel, dewch i ganfod portreadau a phaentiadau’r oriel cyn creu eich portread eich hun yn y cyfrwng o’ch dewis.
Oriel
Ymunwch â’n hartist-addysgwyr a dysgwch am fywyd mewn oriel – rolau’r bobl, y dewis o weithiau celf a’r ffordd y caiff arddangosfa ei rhoi at ei gilydd – cyn creu eich gwaith celf eich hun, wedi’i ysbrydoli gan yr arddangosfeydd a’r arddangosiadau, neu ewch ati i guradu’ch arddangosfa fach eich hun.
Dewiswch o’r rhestr ganlynol o ddeunyddiau:
- Darlunio (amlgyfrwng gan gynnwys defnyddio pensil, pastelau a siarcol)
- Paentio (gan gynnwys dyfrlliw ac acrylig)