• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Hayward Gallery Touring yn cyhoeddi teitl, cysyniad ac enwau’r detholiad o artistiaid sy’n cymryd rhan yn British Art Show 10

Dydd Llun 20 Ebrill 2026 //  by laura.gill

Bydd British Art Show 10 yn cynnwys dros 30 o artistiaid sy’n archwilio cysylltiad dynol a grwpiau sy’n wahanol i’r norm mewn byd sydd wedi’i rannu.

Heddiw, mae Hayward Gallery Touring yn cyhoeddi rhestr artistiaid, cysyniad a theitl British Art Show 10: A Chorus of Strangers. Bydd gweledigaeth guradurol Ekow Eshun yn cael ei lansio yng Nghofentri ym mis Hydref 2026, cyn teithio i Abertawe, Bryste, Sheffield a Newcastle Gateshead, gan ddod â thros 30 o artistiaid at ei gilydd i roi trosolwg hanfodol o’r gelf fwyaf cyffrous a gynhyrchwyd yn y DU yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys,

Okiki Akinfe; Alex Margo Arden; Liz Johnson Artur; Alvaro Barrington; Shiraz Bayjoo; Lubna Chowdhary; Shawanda Corbett; Jesse Darling; Ufuoma Essi; Joy Gerrard; Louise Giovanelli; Hannah Quinlan and Rosie Hastings; Kudzanai-Violet Hwami; Nnena Kalu; Jasleen Kaur; Christina Kimeze; Julian knxx; Matthew Krishanu; Alastair Mackinven; Melanie Manchot; Lindsey Mendick; Emma McNally; Dala Nasser; Jack O’Brien; Nengi Omuku; Precious Okoyomon; Hannah Perry; Mohammed Sami; Rae-Yen Song; Emma Talbot; Nicole Wermers; Osman Yousefzada.

Nengi Omuku, One Particular Man, 2026. This is a colouful painting depciting a green car in teh bottom right hand corner, with purple and blue sky and people / figures in the bottom left hand corner.

Nengi Omuku, One Particular Man, 2026. Drwy garedigrwydd yr artist ac Oriel Pippy Houldsworth, Llundain.

Fel arddangosfa gelf gyfoes reolaidd fwyaf y DU, cynhyrchir British Art Show 10 gan Hayward Gallery Touring ac mae’n rhan allweddol o raglen genedlaethol i ddathlu pen-blwydd y Southbank Centre yn 75 oed.

Meddai Mark Ball, Cyfarwyddwr Artistig Southbank Centre, “Ers 75 mlynedd, mae’r Southbank Centre wedi cyfleu ysbryd creadigol gwlad sy’n datblygu drwy adlewyrchu’r byd o’n cwmpas. Bydd British Art Show 10 yn teithio i fwy o ddinasoedd nag erioed o’r blaen, gan barhau â’r etifeddiaeth hon drwy wahodd y genedl i ailystyried prif faterion heddiw drwy lygaid artistiaid mwyaf diddorol Prydain. Bydd cysyniad Ekow Eshun, sydd wedi’i ysbrydoli gan Ŵyl Prydain 1951, yn ein gwahodd i ddychmygu dyfodol mwy cysylltiedig mewn byd sydd wedi’i rannu. Rwy’n edrych ymlaen at weld y sgyrsiau hanfodol hyn yn digwydd ledled y DU.”

CYSYNIAD

Cynhelir British Art Show 10: A Chorus of Strangers yn ystod cyfnod o bryder sy’n cael ei ddwysáu gan ddiwylliant gwleidyddol rhannol, argyfwng hinsawdd sy’n cyflymu, a diffyg ymddiriedaeth gynyddol y cyhoedd mewn sefydliadau. Mewn cyfnod lle mae cymdeithas wedi’i hollti, mae’r arddangosfa’n archwilio sut gallwn ddangos empathi neu ddychymyg a rennir.

Yn ei hanfod, mae A Chorus of Strangers yn ystyried sut y gall celf herio ofnau o wahanolrwydd a gwahaniaeth sy’n aml yn cael eu sbarduno mewn cyfnodau o ansicrwydd neu newid. Yn hytrach nag ystyried dieithryn neu rywun o’r tu allan fel bygythiad, mae British Art Show 10 yn ein gwahodd i ddangos empathi, gan symud i ffwrdd o’r cysyniad o “ni” yn eu herbyn “nhw”, ac archwilio’r amrywiaeth o safbwyntiau sy’n dod o edrych drwy lygaid eraill.

Mae Ekow Eshun, Curadur British Art Show 10 yn ymhelaethu, “Dros y canrifoedd, mae artistiaid wedi defnyddio eu gallu i weithio gydag ansicrwydd, gwrthgyferbyniad a phosibilrwydd i greu celfweithiau sy’n rhoi blaenoriaeth i feithrin perthnasoedd. Mae British Art Show 10 yn dathlu eu safle unigryw wrth edrych tua’r dyfodol. Mae rhai celfweithiau yn mynd i’r afael â’r hollt mewn cymdeithas a breuder amgylcheddol y presennol, ac mae eraill yn canolbwyntio ar sut rydym yn meithrin perthnasoedd mwy personol. Gyda’i gilydd, maent yn rhoi sylw i allu’r celfyddydau i groesi ffiniau; rhyngom ni ein hunain ac eraill, y byd dynol a’r byd naturiol, a’r gorffennol a’r dyfodol sydd i’w datblygu.”

THEMÂU

Mae’r arddangosfa’n seiliedig ar dair thema guradurol sy’n gorgyffwrdd, sef themâu seicolegol, cymdeithasegol ac ecolegol. Mae pob thema wedi’i hysbrydoli gan waith awdur neu ddamcaniaethwr dylanwadol o Brydain sydd wedi archwilio’r tensiynau rhwng yr unigolyn a’r bobl o’r tu allan.

Eiliadau o fodolaeth

Daw’r thema hon o ddisgrifiad Virginia Woolf o’r enghreifftiau prin hynny pan rydym yn gweld y tu hwnt i’n bywydau cyffredin ac yn teimlo cysylltiad dyfnach â’r byd. Mae’r artistiaid hyn yn hunan-fyfyrio er mwyn prosesu a dehongli’r byd o’u cwmpas. Gan ddefnyddio breuddwydion, atgofion a’r isymwybod, maent yn archwilio’r ffiniau aneglur rhwng y meddwl a’r corff, realiti a dychymyg. Mae eu celfweithiau yn awgrymu ffordd o ddeall ein hunain a’r amodau sy’n llunio ein profiad a rennir.

Ffyrdd o fyw

Mae’r thema hon wedi’i hysbrydoli gan syniad y damcaniaethwr diwylliannol, Stuart Hall, fod diwylliant a hunaniaeth bob amser yn newid ac yn cael eu hail-ddiffinio gan wleidyddiaeth, pŵer a hanes. Drwy ddefnyddio atgofion personol neu gyfunol, mae’r artistiaid hyn yn amlygu sut gall y gorffennol barhau i ffurfio bywyd cyfoes, a sut mae straeon unigol yn rhan o’r ddelwedd ehangach mewn hanes. Gyda’i gilydd, mae’r celfweithiau hyn yn archwilio sut y gellid dod o hyd i dir cyffredin drwy ail-ddychmygu’r ffordd rydym yn cysylltu â’n gilydd.

Cyflyrau natur

Mae’r thema hon wedi’i hysbrydoli gan alwad yr athronydd ecolegol, Timothy Morton, am fwy o ymwybyddiaeth o’n perthynas â’r amgylchedd, a’r ddealltwriaeth bod pob ffurf byw yn gysylltiedig o fewn rhwydwaith enfawr a chymhleth. Mae’r thema hon yn dwyn ynghyd artistiaid y mae eu gwaith yn ymwneud â’r byd naturiol, gan gyfleu ei helaethrwydd, ei harddwch a’i gymhlethdod. Mae anifeiliaid, planhigion, aer a dŵr yn cael eu hamlygu fel rhan o’n hanes byw a rennir, gan bwysleisio ar ffyrdd o gyd-fyw sy’n herio’r syniad mai bodau dynol yw’r pethau pwysicaf yn y byd ac yn ein gwahodd i ddychmygu perthynas newydd â’r blaned.

Meddai Brian Cass, Pennaeth Hayward Gallery Touring,  “Mae British Art Show 10 Hayward Gallery Touring yn wahoddiad i newid persbectif a gweld y byd o sawl safbwynt ar yr un pryd. Mae’r arddangosfa, sydd wedi’i churadu gan Ekow Eshun, yn dathlu artistiaid sy’n gallu dod o hyd i gyfoeth, harddwch ac ymrwymiad dwfn i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd, er gwaethaf pa mor flêr yw bywyd cyfoes. Wrth iddi deithio i bum dinas fawr yn y DU, bydd A Chorus of Stranger yn rhoi sylw arbennig i bŵer celf wrth drawsnewid ansicrwydd yn daith a rennir o berthynas a phosibilrwydd. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’r arddangosfa hon yn esblygu ac yn apelio at gymunedau ledled y genedl.”

Manylion y daith:

  • Cofentri (2 Hydref 2026 – 10 Ionawr 2027)
  • Abertawe (12 Chwefror 2027 – 16 Mai 2027)
  • Bryste (19 Mehefin 2027 – 19 Medi 2027)
  • Sheffield (23 Hydref 2027 – 20 Chwefror 2028)
  • Newcastle Gateshead (24 Mawrth 2028 – 18 Mehefin 2028)

Ynghylch y British Art Show

British Art Show yw’r arddangosfa celf gyfoes reolaidd fwyaf a mwyaf arwyddocaol yn y DU. Mae’r arddangosfa wedi’i datblygu a’i chynhyrchu gan Hayward Gallery Touring, sefydliad celf gyfoes blaenllaw’r DU sy’n cynhyrchu arddangosfeydd teithiol, sy’n rhan o’r Southbank Centre. Cynhelir y sioe bob pum mlynedd, ac nid oes unrhyw sioe debyg ar lefel genedlaethol. Mae 2.3 miliwn o bobl wedi ymweld â’r sioe ers iddi gael ei lansio ym 1979.

Ers dros bedwar degawd, mae wedi bod yn ddigwyddiad blaenllaw ym myd celfyddyd Prydain, gan dynnu sylw at dueddiadau newydd ac adlewyrchu tirwedd ddiwylliannol esblygol y DU. Mae’r arddangosfa wedi cyflwyno llawer o artistiaid mwyaf dylanwadol y wlad i filiynau o bobl ledled y genedl, gan gynnwys David Hockney, Bridget Riley, Sonia Boyce, John Akomfrah a Michael Armitage.

Ar gyfer ei ddegfed sioe, mae British Art Show 10: A Chorus of Strangers yn parhau â’r etifeddiaeth hon, gan bartneru â dinasoedd ledled y genedl i ddod â’r gelf gyfoes fwyaf uchelgeisiol i leoliadau celfyddydol rhanbarthol.

Gwybodaeth am Hayward Gallery Touring

Hayward Gallery Touring yw’r sefydliad celf gyfoes mwyaf blaenllaw yn y DU sy’n cyflwyno arddangosfeydd teithiol. Mae Hayward Gallery Touring, sy’n gweithredu o’r Southbank Centre, yn gweithio gydag amrywiaeth o artistiaid, curaduron, dylunwyr a llenorion i ddatblygu prosiectau curadurol ac arddangosfeydd uchelgeisiol sydd yn aml y tu hwnt i gwmpas un sefydliad. 

Mae rhaglen Hayward Gallery Touring yn cynnwys y British Art Show – yr arddangosfa fwyaf a phwysicaf o gelf gyfoes a grëwyd yn y DU – yn ogystal â sioeau grŵp thematig ac arddangosfeydd ysgrifol wedi’u creu ar gyfer lleoliadau, gan gynnwys amgueddfeydd, orielau, canolfannau celf, llyfrgelloedd, ysgolion, ysbytai a phartneriaid a lleoedd annisgwyl eraill. 

Mae hyd at hanner miliwn o bobl mewn mwy na 45 o ddinasoedd a threfi’n gweld arddangosfeydd Hayward Gallery Touring bob blwyddyn.

Ynghylch y Southbank Centre

Southbank Centre yw canolfan aml-gelfyddydau mwyaf y DU ac mae’n ymgysylltu â’r cynulleidfaoedd mwyaf amrywiol ymysg sefydliadau celfyddydau perfformio’r DU. Ein lleoliad mwyaf, Neuadd Frenhinol Gŵyl Prydain (2,700 o seddau), yw etifeddiaeth barhaus Gŵyl Prydain 1951, ac uchelgais a gwerthoedd y prosiect hwnnw – sef y gall celfyddydau, syniadau, arloesedd a diwylliant iachau cymunedau ac y dylent fod ar gael i bawb – yw ein hegwyddorion arweiniol o hyd.

 Mae gan Southbank Centre y gallu unigryw i gynnig rhaglen artistig gynhwysol eang o’r radd flaenaf sy’n cynnwys celfyddydau gweledol cyfoes, cerddoriaeth, dawnsio, perfformio, llenyddiaeth, comedi a’r gair llafar yn Neuadd Frenhinol Gŵyl Prydain, Neuadd y Frenhines Elizabeth, Ystafell Purcell, Oriel Hayward a’n mannau am ddim.

Rydym hefyd yn gartref i Lyfrgell Genedlaethol Barddoniaeth, NASP (Academi Frenhinol Presgripsiynu Cymdeithasol), dau sefydliad preswyl (Kinetika Bloco a Tomorrow’s Warriors) a chwe cherddorfa breswyl (Aurora Orchestra, Chineke! Orchestra, London Philharmonic Orchestra, London Sinfonietta, Orchestra of the Age of Enlightenment a Philharmonia Orchestra).

www.southbankcentre.co.uk

Ynghylch Ekow Eshun

Mae Ekow Eshun OBE, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth (FRSL) yn llenor ac yn guradur. Mae cyhoeddiad Vogue wedi’i ddisgrifio fel ‘curadur mwyaf ysbrydoledig Prydain’, ac mae wedi llwyfannu arddangosfeydd uchel eu bri’n rhyngwladol a rhoddwyd gwobr guradurol yr Association for Art History iddo yn 2023.  Fel arloeswr yn niwylliant Prydain, ef oedd pennaeth du cyntaf sefydliad celfyddydol mawr yn y DU, gan wasanaethu fel cyfarwyddwr yr Institute of Contemporary Arts yn Llundain. Fel Cadeirydd y Pedwerydd Plinth yn Sgwâr Trafalgar, mae’n arwain un o brosiectau celf gyhoeddus pwysicaf y byd.

Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr, gan gynnwys The Strangers, a gyrhaeddodd rhestr fer Gwobr Lyfrau’r Los Angeles Times, a Black Gold of the Sun, a gyrhaeddodd rhestr fer Gwobr Orwell. Mae ei waith wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau gan gynnwys The New York Times, y Financial Times a’r Guardian. Mae’n Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth ac ef yw curadur 13eg arddangosfa eilflwydd ryngwladol Site Santa Fe yn 2027.


Abertawe

Gwybodaeth am Oriel Elysium

Mae Oriel Elysium, a sylfaenwyd yn 2007, yn sefydliad dan arweiniad artistiaid sy’n annog balchder a chyfranogiad mewn celfyddydau lleol, gweledol a pherfformio mewn awyrgylch sy’n hyrwyddo addysg, cyfranogiad, arbrofi, rhyddid a gwerthfawrogiad ym mhob arfer creadigol.

Ar hyn o bryd, yr oriel yw’r darparwr stiwdios mwyaf i artistiaid yng Nghymru ac mae’n ymroddedig i feithrin cymuned greadigol fywiog, gynhwysol ac arloesol drwy ddathlu celf gyfoes a’i heffaith ar fywydau pobl. Ein nod yw darparu man croesawgar lle gall artistiaid, pobl sy’n dwlu ar gelf, a’r gymuned ehangach gysylltu, ysbrydoli a darganfod pŵer trawsnewidiol y celfyddydau. Am fwy o wybodaeth, ewch i

www.elysiumgallery.com

Gwybodaeth am Oriel Gelf Glynn Vivian

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe yn chwarae rhan hanfodol mewn cymdeithas leol ac fel rhan o’r ecosystem greadigol ar draws Cymru. Drwy arddangosfeydd, prosiectau cydweithredol, ymgysylltu cymdeithasol, dysgu, allgymorth ac addysg rydym yn gweithio gyda chynulleidfaoedd a chymunedau lleol. Mae ein rhaglenni’n canolbwyntio ar ragoriaeth, cydraddoldeb, iechyd a lles, gan gefnogi artistiaid a’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Rydym yn cefnogi artistiaid lleol drwy arddangosfeydd, gwobrau, caffael gwaith, a chyflogaeth, yn ogystal â dod â rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw’r byd i Gymru. Rydym yn cyflwyno arddangosfeydd mawr a chomisiynau newydd, gan weithio mewn partneriaeth â llawer o sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ein casgliad o gelfweithiau a chrochenwaith yn eiddo i bobl Abertawe ac yn rhan bwysig o gof diwylliannol y ddinas. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn aelod o Bortffolio Celfyddydol Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn rhan o Plus Tate a Visual Arts Group Wales. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhan o CELF: Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, rhwydwaith o 11 o orielau sy’n dod â’r casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes i gymunedau ledled Cymru. Ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth drwy fynd i: www.glynnvivian.co.uk

Gwybodaeth am GS Artists

Mae GS Artists (Galerie Simpson Artists) yn ofod celf cyfoes yn Abertawe. Dechreuodd yr oriel, a sylfaenwyd yn 2014 gan yr artist Jane Simpson, fel stiwdio dan arweiniad artistiaid, ac ers hynny mae wedi datblygu i fod yn fenter nid-er-elw a gynhelir gan gymundod o artistiaid llawrydd. Mae oriel GS Artists yn adnabyddus am ei hymrwymiad i gefnogi artistiaid newydd a sefydledig drwy arddangosfeydd, cyfnodau preswyl a phrosiectau sy’n rhoi pwyslais ar y gymuned. Mae’r oriel yn meithrin sgwrs am faterion cyfoes, gan gynnal digwyddiadau’n aml sy’n archwilio themâu megis cynaliadwyedd, hunaniaeth a newid cymdeithasol. Mae ein cymuned greadigol 9to90 bellach yn ei seithfed flwyddyn ac mae’n grŵp cymunedol sefydledig sy’n cynnal dosbarthiadau wythnosol a sawl arddangosfa bob blwyddyn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.galeriesimpsonswansea.com    www.9to90creativecommunity.com 

Gwybodaeth am Oriel Mission

Mae Oriel Mission yn dathlu ac yn cefnogi celf weledol a chrefft; rydym yn meithrin ac yn hyrwyddo ymarfer cyfoes yn y celfyddydau sy’n seiliedig ar uniondeb bwriad, sgiliau, gwerthfawrogi deunyddiau ac ystyried y gynulleidfa. Mae curadu ar y cyd yn sylfaenol i’n hymarfer, ac mae rhaglenni’n cael eu datblygu ar y cyd â chymunedau, artistiaid a phartneriaid. Rydym yn darparu rhaglenni arddangos ac allgymorth uchelgeisiol yn artistig a chynhwysol sy’n unigryw i Gymru, gan fynd i’r afael ag anghydraddoldebau diwylliannol drwy gynnig cyfleoedd i gyfranogi yn y celfyddydau i bobl nad oes ganddynt lawer o fynediad atynt. Mae Oriel Mission yn fan unigryw a phensaernïol hardd mewn adeilad rhestredig Gradd II ym Marina Abertawe sy’n cynnig man diogel i bawb ddilyn a mwynhau ymarfer creadigol.

Ariennir Oriel Mission yn rhannol fel aelod o bortffolio Cyngor Celfyddydau Cymru. Rydym hefyd yn creu incwm drwy godi arian, manwerthu, rhaglenni allgymorth, caniatáu i’r lleoliad gael ei logi a chyfraniadau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Oriel Mission

Gwybodaeth am Amgueddfa Abertawe

Amgueddfa Abertawe, a sefydlwyd ym 1841 ac sydd wedi’i hachredu’n llawn, yw’r amgueddfa gyhoeddus hynaf yng Nghymru. Mae’r amgueddfa, sydd yn yr Ardal Forol, yn gofalu am dros 109,000 o wrthrychau sy’n cwmpasu hanes diwydiannol, morwrol a chymdeithasol y ddinas, gan gynnwys modelau o longau, offer morwrol, celf, cerameg, astudiaethau natur a chasgliadau cyfoes. Gyda’i gilydd, maent yn cynnig darlun eang o dreftadaeth ddiwylliannol Abertawe.

Ochr yn ochr â’i harddangosfeydd parhaol, mae’r amgueddfa’n cynnal rhaglen gydol y flwyddyn o arddangosfeydd dros dro, gweithgareddau dysgu a digwyddiadau cymunedol. Mae mynediad am ddim a lleoliad canolog ar y glannau’n sicrhau mynediad cyhoeddus eang a chefnogaeth er mwyn i breswylwyr ac ymwelwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol. Mae’r amgueddfa’n cyd-fynd ag uchelgeisiau Cyngor Abertawe a Chymdeithas yr Amgueddfeydd drwy ehangu mynediad, cryfhau cyfranogiad cymunedol a hyrwyddo lles drwy dreftadaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i: Amgueddfa Abertawe

Volcano Theatre, Abertawe

Mae Volcano yn gwmni cynhyrchu theatr annibynnol sydd hefyd yn cynnal canolfan gelfyddydau amrywiol yng nghanol y ddinas mewn adeilad mawr a fu gynt yn archfarchnad yn Stryd Fawr Abertawe. Rydym yn cynhyrchu gwaith gwreiddiol arloesol ac addasiadau nodedig. Ein nod yw bod yn gatalydd radical Abertawe ar gyfer diwylliant hyderus, iach a chreadigol yng Nghymru. I ni, mae creu theatr yn ganolbwynt rhwydwaith o arferion a pherthnasoedd sydd wedi’u gwreiddio yn ninas Abertawe ac sy’n ymestyn drwy Gymru, y DU, Ewrop a thu hwnt.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.volcanotheatre.wales

Categori: Newyddion, Uncategorized @cy

Previous Post: « Oriel Gelf Glynn Vivian yn cael cyllid i gadw casgliad o ffilmiau a fideos er cenedlaethau’r dyfodol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility