• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Glynn Vivian yn y Cartref
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Arddangosfa’r Casgliad
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Adnoddau Creadigol
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
    • Artist Preswyl
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Black Lives Matter
    • Coronafeirws
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Glynn Vivian yn y Cartref
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Arddangosfa’r Casgliad
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Adnoddau Creadigol
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
    • Artist Preswyl
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Black Lives Matter
    • Coronafeirws
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Terra Ferma – Perfformiadd

Dydd Gwener 22 Hydref 2021 //  by laura.gill

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian wedi comisiynu cyfres arbennig o berfformiadau fel rhan o arddangosfa Carlos Bunga sef Terra Firma.

  • Installation view, Carlos Bunga, Terra Ferma, 2021, Courtesy the artist. Photo: Polly Thomas
  • Installation view, Carlos Bunga, Terra Ferma, 2021, Courtesy the artist. Photo: Polly Thomas
  • Installation view, Carlos Bunga, Terra Ferma, 2021, Courtesy the artist. Photo: Polly Thomas

Mae’r rhaglen o berfformiadau’n ehangu ar themâu Terra Ferma gyda phedwar artist yn ymateb i’r gweithiau mawr sy’n benodol i’r safle, Habitar el color (2015-ac yn parhau) a Reflejo – Disnivel (2021).

Mae tirweddau trefol a naturiol yn cyfathrebu trwy gydol y sioe, gan dynnu sylw at y tensiwn yn ein hymdeimlad o berthyn yn yr ecosystem hon.  Llenwir Atriwm Edwardaidd yr Oriel gyda phaentiad llawr ar raddfa eang; mae paent melyn dwys yn gorchuddio’r llawr. Mae’r lliw yn adlewyrchu i fyny ac o’n cwmpas wrth i ni gerdded i mewn i’r lle trawiadol ond gormesol hwn. Trwy gerdded ar yr arwyneb sydd wedi cracio, mae’n teimlo fel y gallech fod mewn tirwedd sydd wedi’i chrasu gan yr haul neu ein bod yn cerdded yng ngolau’r haul. Mae’r melyn yn newid yn ddyddiol ac mae’n archwilio syniadau am amser, cylchoedd a phrosesau.

Mae Reflejo – disnivel yn ddarn cyfranogol, penodol i’r safle sy’n cynnwys grid o flychau cardbord sgwâr sydd fel petaent yn ddiddiwedd, wedi’u paentio’n wyn ar y tu allan. Maent yn debyg i olygfa o dref neu ddinas o’r awyr, sy’n cynnwys ein symudiad ac yn adranoli’n bywydau. Gall y grid, sy’n drosiad daearyddol ar gyfer lle,  tiriogaeth a ffiniau, dyfu’n annherfynol ac i sawl cyfeiriad. Gofynnir i ni symud oddi mewn i’r sgwariau ac yn eu mysg.

Bydd y rhaglen o berfformiadau ar gael ar-lein i’w mwynhau gan bawb ar ein sianeli.

Dewch i gwrdd â’r artistiaid:

Jaffrin Khan

Awdur ac artist gweledol Cymreig-Bangladeshaidd o Gaerdydd yw Jaffrin. Roedd ganddi ddiddordeb mewn llenyddiaeth o oedran ifanc – dechreuodd drwy ddarllen llyfr y diwrnod a llenwi dyddlyfrau i gwblhau gradd BA yn Saesneg. Gan ddwyn ysbrydoliaeth o feirdd y Deaf Poetry Jam, dechreuodd Jaffrin ysgrifennu a pherfformio barddoniaeth fel ffurf ar weithrediaeth, i weithio drwy drawma personol a thrafod pynciau sy’n cael eu hystyried fel rhai tabŵ mewn cymunedau De Asiaidd, fel perthnasoedd, delwedd y corff, ffeministiaeth, anghyfiawnder a chrefydd.

Roedd gweithio’n agos gyda’r tîm Where I’m Coming From, wedi caniatáu iddi barhau â’i gair llafar, gan agor cyfleoedd iddi berfformio ar draws y DU a chyhoeddi’i gwaith ar sawl llwyfan. Yn ogystal, mae hi wedi gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau Cymreig eraill fel Canolfan Mileniwm Cymru, Carpet Spoken Word, Theatr Genedlaethol Cymru, Llenyddiaeth Cymru a’r BBC i gyflwyno perfformiadau a gweithdai a chyfranogi mewn rhaglenni ymchwil a datblygu.

Yn ddiweddar yn 2021 ymddangosodd ei darn, SKN, ar ail gyfres y podlediad Critically Speaking, a chomisiynwyd ei fideos barddoniaeth drwy Jukebox Collective gan CMC a’r BBC ar gyfer Gŵyl y Llais. Cyhoeddwyd cerddi ganddi, ynghyd â chyfweliad, yn ail rifyn cylchgrawn Al Naeem. Mae hi wedi gweithio’n ddiweddar gydag Arcade Campfa fel artist preswyl ar-lein.

Gallwch ddilyn ei thaith greadigol ar Instagram @_jxffrin


Tess Wood

Artist amlddisgyblaethol sy’n byw ac yn gweithio yn Abertawe yw Tess Wood. Mae arfer Wood yn archwilio’r posibiliadau o gyfathrebu’n gorfforol ac ar lafar drwy arbrofi corfforol. Mae Wood yn ceisio dod o hyd i’r ffyrdd diddiwedd y gallwn ailgysylltu â’n hunain, ein cyrff a’r lleoedd rydym yn byw ynddynt, a sut gall hyn ddatblygu perthnasoedd dyfnach, mwy greddfol.


Mae ymchwil gyfredol Wood yn edrych ar sut gall arferion corfforiad a’r defnydd o ddadansoddiad cymeriad ein helpu i archwilio perthnasoedd â’r hunan a chydag eraill, gan amlygu cwestiynau ynghylch rhyw, rhywioldeb a gwynder.

Mae Wood yn defnyddio cofnodion maes, dogfennaeth symudiad corfforol ac ysgrifennu rhydd a ysbrydolwyd gan ymweliadau safle i helpu i wireddu’r gwaith. Wrth ei wraidd y mae plentyn ymroddgar a chwilfrydig sydd â diddordeb yn yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol.


Graddiodd Wood gyda Gradd BA (Anrh) mewn Cerfluniaeth a Chelf Amgylcheddol o Ysgol Gelf Glasgow yn 2019 lle dyfarnwyd gwobr enillydd Hunt Medal Ymddiriedolaeth Steven Campbell iddi am y perfformiad ‘Cannot Contain’ (2019). Mae Wood wedi perfformio gyda’r cwmni Monster Chetwynd yn y CCA (2017) a Glasgow ac yn Oriel Celfyddyd Fodern Genedlaethol yr Alban (2019). Mae gwaith diweddar yn cynnwys: ‘POV’ (2021), gyda Wassili Widmer ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Glasgow, Civic Room, Glasgow ‘Oracle of Receptacle’ (2021), gyda Jin Wei, Asylum Chapel, Llundain. ‘Sites Of Union’ (2021 – yn parhau) gyda Kate Stonestreet ac Eleanor Dalzell Jenyns, Prosiect Ymatebion i Gardiau Post. Cyfnod preswyl Argraffu a Pherfformiad (2021) a gynhaliwyd gan Stephanie Black Daniels ac Edward Bruce, ar-lein ‘Bubbles’ (2020) gydag ŵyl berfformiad Stereoskopp.


Jessica Lerner

Artist gweledol a symudiad yw Jessica Lerner. Daw o Lundain yn wreiddiol ond mae’n byw yn Sir Gâr, Cymru ers 2002, lle mae ganddi stiwdio symudiad.   Mae ei harfer yn canolbwyntio ar gwestiynau ynghylch perthnasedd fel coreograffi naturiol, y corff, yr hunan a’r berthynas â gwrthrychau a’r amgylchedd perthynol.

Mae gwaith Lerner, sydd wedi’i dylanwadu gan ei harfer arlunio a symudiad corfforol, wedi’u disgrifio fel darnau byrfyfyr hunangofiannol lle mae symudiad yn sgwrsio â gwrthrychau, delweddau a lleoliad.

Mae Lerner wedi bod yn gwneud ac yn arddangos ei gwaith ers 1989 mewn lleoliadau ac orielau dawns arbrofol.  Mae hi wedi cydweithredu ag artistiaid ffilm, dawns a sain. Mae ei gwaith yn cynnwys perfformiadau byw, gosodiadau, ffilm a phaentio.

Rwy’n defnyddio symudiad fel deunydd cerfluniol sy’n cydnabod fy hunaniaeth a’m hymdeimlad o ddychymyg corffedig fel menyw. 

Drwy fapio fy syniadau mewnol mewn cysylltiad â’r gwagle allanol, rwy’n datblygu senarios cynhyrfiol drwy fy arfer symudol ac yn perfformio cysylltiadau swrrealaidd. Dwi’n ymateb i’r hyn sy’n bresennol yn yr eiliad; rwy’n datblygu tirluniau dychmygol sy’n seiliedig ar fanylion y corff.

Gan symud yn llyfn rhwng symudiadau pob dydd ac arddulliedig, yn y perfformiad hwn rwy’n archwilio fy ymdeimlad o bwysau – ei bresenoldeb go iawn a throsiadol yn fy nghorff – o ran teimladau o sylwedd yn ogystal ag ymwybyddiaeth o’r haenau rydyn ni’n eu casglu ac yn eu cario dros amser_ Jessica Lerner

jessicalerner.uk


Rhodri Davies

Mae Rhodri Davies wedi ymgolli ym mydoedd byrfyfyr, arbrofi cerddorol, cyfansoddi a pherfformiad clasurol cyfoes. Mae’n canu’r delyn a’r delyn electronig, yn chwarae cerddoriaeth electronig fyw ac yn adeiladu gosodiadau telyn gyda gwynt, dŵr, iâ, iâ sych a thân. Mae e ‘hefyd wedi rhyddhau chwe albwm.  Mae ei grwpiau rheolaidd yn cynnwys HEN OGLEDD, Cranc, Common Objects a deuawd gyda John Butcher. Mae wedi gweithio gyda’r artistiaid canlynol: David Sylvian, Jenny Hval, Derek Bailey, Sofia Jernberg, Lina Lapelyte, Pat Thomas, Simon H Fell a Will Gaines.

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae Davies wedi cael cysylltiad agos â’r cyfansoddwr arloesol, Eliane Radigue, gan berfformio 17 o’i darnau. Cyfansoddodd Eliane OCCAM I i Davies yn 2011, y cyntaf mewn cyfres barhaus o ddarnau unawd ac ensemble i offerynwyr unigol lle mae techneg perfformio bersonol perfformiwr a’i berthynas benodol â’i offeryn yn gweithredu fel deunydd cyfansoddol y darn. Mae darnau unawd newydd ar gyfer y delyn hefyd wedi’u cyfansoddi iddo: Christian Wolff, Carole Finer, Philip Corner, Phill Niblock, Ben Patterson, Alison Knowles, Mieko Shiomi a Yasunao Tone.

Yn 2008, cydweithiodd â’r artist gweledol, Gustav Metzger, ar ‘Self-cancellation’, cydweithrediad clyweled ar raddfa fawr yn Llundain a Glasgow. Yn 2012 enillodd Wobr Grants to Artists y Sefydliad Celfyddydau Cyfoes, bu’n Artist Cyswllt Chapter Arts (2016-19) ac yn 2017, derbyniodd Wobr Cymru Greadigol. Mae’n cyd-drefnu’r gyfres o gyngherddau NAWR yn Abertawe.

rhodridavies.com


Categori: Newyddion

Previous Post: «Colourful zigzag with text Abertawe Agored - SwanseaOpen 2021 Abertawe Agored 2021 – Canllawiau Ymgeisio
Next Post: Glynn Vivian yn dod yn Oriel Gelf Noddfa gyntaf y DU »

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Opening times
Tuesday – Sunday
10.00am – 5.00pm
Last entry 4.30pm

Free admission

Oriau agored
Dydd Mawrth – ddydd Sul
10.00am – 5.00pm
Mynediad olaf 4.30pm

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility

Cookie notice
This website uses cookies to improve your experience but you can opt-out if you wish. Find out how we use cookies here Cookie settingsAccept
Cookies

Cookies overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website.

Out of these cookies, the cookies that are categorised as necessary are stored on your browser, as they are essential for the working of basic functionalities of the website.

We also use third-party cookies that help us analyse and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies, but opting out of some of these cookies may have an effect on your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Non-necessary
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.
SAVE & ACCEPT