• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Glynn Vivian yn dod yn Oriel Gelf Noddfa gyntaf y DU

Dydd Mercher 24 Tachwedd 2021 //  by laura.gill

Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe yw’r oriel gyntaf yn y DU i dderbyn gwobr Oriel Gelf Noddfa.

Mae’r Gwobrau Noddfa, a gefnogir gan fudiad Dinas Noddfa’r DU, yn dathlu ymrwymiad sefydliad i sicrhau croeso cynnes a chynwysoldeb i bawb. 

Y llynedd, dathlodd Abertawe 10 mlynedd fel Dinas Noddfa, ac mae gwobr yr oriel yn helpu i ddangos cefnogaeth barhaus yr ardal i ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio lloches.

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae’r Glynn Vivian wedi gweithio gyda Dinas Noddfa Abertawe i gynnig sesiynau celf wythnosol dan arweiniad ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio lloches yn y gymuned leol.

Meddai Aelod y Cabinet Robert Francis-Davies, “Mae Abertawe’n ddinas groesawgar ac mae ein sector diwylliannol yn chwarae rhan enfawr yn hynny.”

Cynhaliwyd digwyddiad Dinas Noddfa yn Theatr Volcano yng nghanol dinas Abertawe ar 12 Tachwedd. Yma derbyniodd yr oriel ei statws newydd yn swyddogol.

Gyda chefnogaeth grant Cymryd Rhan Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfeillion y Glynn Vivian, mae’r oriel yn darparu gweithdai, digwyddiadau, adnoddau celf a deunyddiau i bobl.

Mae’r pandemig wedi arwain at greu baner croeso; mae hon wedi’i harddangos yn yr oriel a bydd yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y flwyddyn nesaf.

Mae prosiectau eraill gan grŵp croeso’r oriel wedi cynnwys arddangosfeydd cymunedol yn y Glynn Vivian, arddangosfa fosaig yn Ysbyty Treforys a phortreadau cyfranogwyr ar hysbysfyrddau o amgylch ardal Bae Copr sy’n dod i’r amlwg yng nghanol y ddinas.

Meddai Funmilayo Olaniyan, Aelod o’r Pwyllgor Dinas Noddfa a cheisiwr lloches, “Mae’r Glynn Vivian yn gwneud gwaith gwych. Mae staff ac ymwelwyr yno’n dysgu o geiswyr lloches ac yn eu cynnwys mewn gweithgareddau creadigol.”

“Trwy’r cyfyngiadau symud, roeddent wedi cynnwys ceiswyr lloches mewn nifer o ddigwyddiadau ar-lein.

“Mae eu harddangosfeydd yn cynyddu ymwybyddiaeth yn y gymuned ehangach o geiswyr lloches. Mae hyn wrth wraidd yr hyn y mae Dinas Noddfa Abertawe’n ei wneud.”

Meddai Thanuja Hettiarachchi, ffoadur a chydlynydd rhaglen dengmlwyddiant Dinas Noddfa  Abertawe, “Mae’r Glynn Vivian yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gynnwys ceiswyr noddfa yn eu holl weithgareddau.”

“Er enghraifft, fe ddarparon nhw gardiau bws gan ganiatáu i bobl a oedd yn newydd i’r ddinas ymuno â gweithgareddau gyda phobl leol eraill.

“Yn ystod y pandemig, mae Oriel Gelf Glynn Vivian wedi cadw pawb yn brysur fel rhan o’r gymuned lawn, nid trefnu pethau’n arbennig ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid.”

Meddai Karen MacKinnon, curadur y Glynn Vivian, “Rydym wrth ein boddau i ddod yn Oriel Noddfa gyntaf y DU.”

“Sefydlodd ein cydweithwyr Dan a Richard y Grŵp Croeso dros chwe blynedd yn ôl i greu lle diogel a sicrhau bod creadigrwydd ar gael i bawb yn Abertawe.

“Yn yr oriel, rydym yn credu bod celf yn gallu newid bywydau, cefnogi iechyd a lles gan greu cymdeithas fwy cynhwysol a helpu’r rheini sy’n cael trafferth.”

Meddai Siân Summers-Rees, Prif Swyddog Dinas Noddfa’r DU “Mae’r Glynn Vivian yn adlewyrchu ein cysyniad o noddfa drwy gelfyddydau’n wych.”

“Mae’n lleihau rhwystrau ac yn cysylltu â phobl sydd wedi cael profiad o geisio lloches.

Mae hyn yn digwydd yn ystod gweithgareddau creadigol ar y cyd â’r gymuned gynhaliol – mae’n cynyddu ymwybyddiaeth ac yn adeiladu gwydnwch, cyfeillgarwch a pherthnasoedd lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd.”

Categori: NewyddionTag: Abertawe, Celf, Glynn Vivian

Previous Post: « Terra Ferma – Perfformiadd
Next Post: Oriel wedi’i dewis ar gyfer Cronfa Casgliadau Esmée Fairbairn »

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility