Gwasanaethau Profi, Olrhain a Diogelu
Rydym yn gofyn am fanylion cyswllt pob ymwelydd. Pan fyddwch yn archebu lle ymlaen llaw, byddwn yn gofyn am fanylion cyswllt y person sy’n archebu. Os byddwch yn cyrraedd heb archebu, efallai y bydd angen i chi aros nes bod lle ar gael i chi a gofynnir i chi ddarparu’ch gwybodaeth gyswllt lawn a chyfredol.
Yn unol ag arweiniad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn cadw’ch manylion am 21 diwrnod. Byddwn yn eu rhannu os bydd gwasanaethau Profi, Olrhain a Diogelu Cyngor Abertawe’n gofyn amdanynt oherwydd bod ymwelydd arall wedi cael prawf positif am Coronafeirws yn unig.
Ewch i wefan Cyngor Abertawe am ragor o wybodaeth.
Gallwch hefyd nodi’ch presenoldeb wrth gyrraedd gan ddefnyddio ap COVID-19 y GIG. Mae côd QR ar gael wrth y dderbynfa i chi ei sganio.
Cyrraedd yr Oriel
Ceir mynediad i’r oriel yn awr trwy’r ardd ar ochr dde’r adeilad, sef ochr yr orsaf drenau. Dilynwch yr arwyddion i’r fynedfa newydd hon. Ni allwch fynd i mewn i’r oriel drwy’r prif ddrysau mwyach oherwydd mai allanfa’n unig fydd hwnnw.
Bydd llwybr unffordd dynodedig bellach o gwmpas yr oriel. Bydd marciau ar y llawr yn dangos y llwybr hwn. Gofynnwn i bob ymwelydd gadw pellter cymdeithasol ar bob adeg ac i ddilyn y llwybr hwn.
Dylech gyrraedd yr oriel cyn eich amser dyranedig. Ni fydd mwy na phum person arall yn cyrraedd yn eich amser dyranedig, felly ni fydd ciw hir. Ewch i mewn i Oriel Glynn Vivian trwy Ystafell yr Ardd, lle bydd mannau aros wedi’u dangos yn glir. Bydd aelod o’r oriel yn eich cyfarch pan fyddwch wedi cyrraedd ac yn gofyn am eich enw. NI FYDD ANGEN I CHI DDANGOS TOCYN AR GYFER EICH YMWELIAD.
Sicrhewch eich bod yn gwisgo gorchudd wyneb cyn dod i mewn i’r adeilad. Mae gorchuddion wyneb yn orfodol i bob ymwelydd heblaw am y rheini sydd â phroblemau iechyd neu anadlu a phlant dan 11 oed, yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.
Cyngor ynghylch diogelwch yn ystod eich ymweliad
- Yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru, mae gwisgo gorchuddion wyneb pan fyddwch dan do mewn mannau cyhoeddus bellach yn orfodol. Mae gorchuddion wyneb yn orfodol i bob ymwelydd heblaw am y rheini sydd â phroblemau iechyd neu anadlu a phlant dan 11 oed.
- Cofiwch aros gartref os ydych yn teimlo’n sâl.
- Defnyddiwch y gorsafoedd diheintio dwylo pan fyddwch yn cyrraedd, yn ystod eich ymweliad ac wrth i chi adael yr oriel.
- Cadwch 2 fetr i ffwrdd o ymwelwyr eraill nad ydynt yn eich grŵp a chadwch bellter cymdeithasol ar bob adeg.
- Rhaid goruchwylio plant yn eich grŵp ar bob adeg.
- Caiff yr oriel ei lanhau’n fwy cyson, gan gynnwys cyfleusterau’r toiledau, dolenni drysau, canllawiau ac ardaloedd eraill yn yr adeilad.
- Taliadau digyffwrdd/â cherdyn fyddai orau yn y siop.
- Bydd pob aelod o staff yn gwisgo gorchudd wyneb neu feisor. Gosodir sgriniau persbecs ar ddesgiau a mannau talu.
- Gwnaed asesiadau risg ar gyfer gweithrediadau staff ac ymwelwyr. Caiff y rhain eu hadolygu’n rheolaidd wrth ystyried yr arweiniad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.
Cysylltu â ni
Os hoffech gael trafodaeth fwy manwl ar unrhyw un o’n mesurau diogelwch, e-bostiwch glynn.vivian@swansea.gov.uk
Cyfleusterau
Bydd siop yr oriel ar agor. Taliadau digyffwrdd/â cherdyn fyddai orau.
Bydd ein caffi, TwoCann Glynn Vivan, ar gau i ddechrau. Rydym yn cydweithio er mwyn ei agor cyn gynted â phosib.
Bydd toiledau, gan gynnwys toiledau hygyrch, a chyfleusterau newid cewynnau ar agor. Gofynnwch i aelod o staff am gyfarwyddiadau i gyrraedd y cyfleusterau agosaf.
Gellir defnyddio’r lifft. Gofynnwn i ymwelwyr ddefnyddio’r lifft pan fydd angen yn unig.
Ni fydd loceri ar gael.
Lleoedd yn Newid
Mae ein cyfleuster Changing Places wedi’i leoli wrth ymyl y caffi yn y brif dderbynfa. Mae angen allwedd ar gyfer mynediad. Siaradwch ag aelod o’r Tîm Blaen Tŷ am gymorth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.abertawe.gov.uk/changingplaces
Mynediad i’r anabl
Mae mynediad corfforol llawn i bob man cyhoeddus yn yr Oriel, gan gynnwys orielau. Os oes gennych unrhyw ofynion, gofynnwch i’n tîm Cynorthwyydd Oriel gyfeillgar yn y dderbynfa ar ôl cyrraedd. Mae’r Oriel yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr bygi a chadeiriau olwyn.