Dydd Sadwrn 18 Gorffennaf 2026 - Dydd Sul 20 Medi 2026
10:00 am - 4:30 pm
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Abertawe Agored yn dychwelyd ym mis Gorffennaf 2026
Cystadleuaeth gelf flynyddol yw Abertawe Agored sy’n agored i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Ninas a Sir Abertawe (SA1-SA9), ac mae’n dathlu celf a chrefft gan artistiaid a gwneuthurwyr ledled y ddinas.
Gwahoddir panel gwahanol i ddethol y darnau o waith bob blwyddyn ac mae hyn yn annog amrywiaeth o safbwyntiau yn flynyddol. Mae’r arddangosfa’n ceisio adlewyrchu ymwybyddiaeth feirniadol a diwylliannol gan gynnwys amrywiaeth eang o weithiau gan artistiaid proffesiynol ac amatur. Dewisir tri enillydd o’r ymgeiswyr a arddangosir bob blwyddyn, gyda gwobr gyntaf o £250, ail wobr o £150 a thrydedd wobr o £100. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar ddiwrnod agor y gystadleuaeth ddydd Sadwrn 18 Gorffeannaf 2026
Hefyd, bydd Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian yn cyflwyno gwobr am waith celf penodol.
Y detholwyr gwadd eleni yw artist a gydnabyddir yn rhyngwladol, a Athro/Gyfarwyddwr y Cwrs Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Abertawe, Sue Williams, a Pennaeth Celf Amgueddfa Cymru, Ceri Jones.
Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn yr oriel tan ddydd Sul 20 Medi 2026, gyda llawer o’r gwaith ar werth fel rhan o’r arddangosfa.
Dyddiadau allweddol
- Dyddiad cau cyflwyno gwaith: 16:00 ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2026
- Cyflwyno darnau o waith: 11:00-16:00 ddydd Iau 2 Gorffennaf, ddydd Gwener 3 Gorffennaf neu ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf 2026
- Rhoi gwybod i’r rhai hynny sy’n arddangos eu gwaith drwy e-bost: dydd Iau 9 Gorffennaf 2026
- Casglu gwaith na chaiff ei arddangos: 11:00-16:00 ddydd Gwener, 10 Gorffennaf, ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf neu ddydd Sul 12 Gorffennaf 2026
- Dyddiadau’r arddangosfa: 18.07.26 – 20.09.26
- Dychwelyd a chasglu gwaith sydd wedi’i arddangos: 11:00–16:00 ddydd Mawrth 22 Medi neu ddydd Mercher 23 Medi 2026
Canllawiau Cyflwyno
AbertaweAgored2026_Guidelines_ Cymraeg
Categorïau


