Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 2025
2:00 pm - 3:00 pm
Amseroedd y Gweithdai: 10:30 – 11:30, 12:00 – 13:00, 14:00 – 15:00
Paratowch am hwyr yr ŵyl y gaeaf hwn gyda’n sesiwn crefftau blynyddol a phoblogaidd ar gyfer y Nadolig.
Gallwch greu eich torch bioddiraddadwy eich hun trwy ddefnyddio deunyddiau naturiol lleol a mwynhau danteithion melys a diod Nadoligaidd o’n caffi dros dro.
Bydd sesiynau’n para tua awr.
£20 fesul torch gydag un ddiod boeth neu oer a mins-pei
£25 fesul torch gyda gwydraid o prosecco a mins-pei (i bobl dros 18 oed yn unig)
Mae opsiynau heb glwten a feganaidd ar gael. Nodwch eich gofyniad dietegol wrth i chi archebu lle.
Mae’r holl ddeunyddiau wedi’u cynnwys. Mae croeso i chi ddod â’ch addurniadau eich hun i bersonoli’ch torch.
Rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau


