Dydd Sadwrn 8 Chwefror 2020
10:00 am - 4:00 pm
Cynhelir Diwrnodau Hwyl i’r Teulu’n fisol ac maent yn cynnwys gweithgareddau a digwyddiadau creadigol â thema i’r teulu cyfan. Dewch i archwilio’n harddangosfeydd anhygoel ac ymuno ag un o’n gweithdai lle gallwch gadw lle i greu rhywbeth cyffrous a dysgu rhywbeth yn ystod y broses. Neu gallwch alw heibio rhwng 10:30 a 13:00 i roi cynnig ar weithgareddau crefft difyr a gwylio ffilm i’r teulu am ddim. Mae rhywbeth i bawb, ac mae digonedd o ddanteithion ar gael yn ein caffi newydd.
10:30-13:00 – Gemau Bwrdd ‘Myfi ar Fap’: gweithdy galw heibio
Pob Oed
Dewch i greu mapiau amlgyfrwng o’ch hun a’u newid yn gemau bwrdd ffantasi
Am ddim, cyfraniad awgrymiadol £3
13:30 – Clwb Ffilmiau I Deuluoedd
Pokémon Detective Pikachu (PG) 2019
Cliwiau? Mae’n rhaid iddynt ddod o hyd i bob un ohonynt yn y ffilm wreiddiol a dyfeisgar hon sy’n deillio o’r fasnachfraint boblogaidd!
Am ddim, cyfraniad awgrymiadol £3
Gweithgareddau Hunanarweinig
Trwy’r dydd
Rydym yn creu Byd anhygoel gan ddefnyddio Straeon Abertawe. Beth am roi cynnig arni? Gan ddefnyddio cerdyn, papur a phlastisin, crëwch stori eich hun am Abertawe i’w hychwanegu at yr olygfa.
Dewch i weld gwarbaciau’r Oriel – pecynnau gweithgareddau sy’n llawn teganau synhwyraidd a chreadigol a phethau difyr i’w gweld a’u gwneud wrth i chi fynd o gwmpas yr arddangosfeydd.
Mae gennym flociau adeiladu lliwgar hefyd a gweithgareddau crefft DIY ar gynnig, yn ogystal â Llwybr Glynn Vivian a Phasbort Clwb yr Archwiliwyr lle gallwch ennill bathodynnau wedi’u dylunio’n arbennig i’w gwnïo ar eitemau.
Gofynnwch i staff cyfeillgar yr oriel am fwy o wybodaeth.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau