Dydd Iau 23 Tachwedd 2023
5:30 pm - 8:00 pm
Profwch Oriel y ddinas ar ôl amser cau
Fe’ch gwahoddir yn gynnes i ddathlu agoriad
gludafael / holdfast
Kathryn Ashill, Angela Davies, Kirsti Davies, Dylan Huw, Durre Shahwar, Rhys Slade-Jones, Fern Thomas, Heledd Wyn
Mae’r Glynn Vivian yn gyffrous i gyflwyno gludafael/holdfast, arddangosfa grŵp lle bydd wyth artist ar y cyd yn amlinellu gallu celf i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
Mae’r arddangosfa hon wedi’i chomisiynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda chefnogaeth y Glynn Vivian a Chyngor Celfyddydau Cymru, a’i datblygu gyda’r curadur Louise Hobson. Daethpwyd â’r artistiaid yn gludafael / holdfast ynghyd am y tro cyntaf drwy Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol 2022.
O 6:15pm, bydd yr artist Durre Shahwar yn rhannu darlleniad sy’n sôn am bryderon canolog yn MATKA – profiadau dadleoledig, rhythmau planedol newidiol, adnoddau cymorth ar gyfer yr amserau i ddod, a sut rydym yn gweithredu mewn undod gydag eraill sy’n brwydro yn erbyn anawsterau.
Am 6:30pm, bydd yr artist Rhys Slade-Jones yn eich gwahodd i ymuno â’r corws ac ymchwilio i’r brwydrau cyffredin wrth i ni ddychmygu’n dyfodol cyfunol, a pha fath o henaint yr hoffem ei gael pan gyrhaeddwn yno. Gyda siytni sydd wedi’i wneud gan fenywod Henoed Treherbert.
Yna am 7pm, bydd yr artist Kathryn Ashill yn perfformio Sustaining Phat / Phat Sustainability, ymateb i’w phrofiad dosbarth gweithiol o’r argyfwng hinsawdd a gweld llais pwy sy’n llunio (neu ddim yn llunio) y sgwrs a phwy sy’n cael ei feio (neu ddim yn cael ei feio).
Mae’r artistiaid yn eich gwahodd i ymuno â nhw o 8pm am barti ar ôl y digwyddiad yn Oriel Elysium.
Arddangosfeydd, gweithdai celf a chrefft, perfformiad, cerddoriaeth fyw, bar a chaffi ar agor
Mynediad am ddim, croeso i bawb
Does dim angen tocynnau, galwch heibio ac ymunwch â ni unrhyw bryd
Categorïau