Dydd Mawrth 14 Ebrill 2026
1:30 pm - 4:30 pm
Gweithdai creadigol i bobl ifanc (oed13—17) yn Oriel Gelf Glynn Vivian sy’n tynnu ar y casgliad sgrin gyda’r artist Zillah Bowes

Ffilmio Fideo
Dydd Mawrth 14 Ebrill 26
1:30yp – 4:30yp
Gweithdy fideo gan ddefnyddio gwrthrychau, a ysbrydolwyd gan Come As You Really Are gan Hetain Patel, 2024, a Chameleon gan Helen Sear, 2012.
Bydd cyfranogwyr yn dod â gwrthrych pob dydd weddol fach sy’n bwysig iddyn nhw. Yn y gweithdy, byddant yn ffilmio’r gwrthrych mewn ffordd sy’n gwella harddwch ac ystyr y gwrthrych, a/neu’n newid y ffordd y mae’n cael ei weld. Bydd grŵp y gweithdy hefyd yn ffilmio’u gwrthrychau ar y cyd i archwilio cysylltiadau gweledol a thematig newydd rhyngddynt. Bydd cyfranogwyr yn archwilio’r defnydd o lensys a golau i greu’r effeithiau hyn. (Mae hefyd groeso i gyfranogwyr ddef
nyddio gwrthrych o’r gweithdy neu ardd yr oriel).
Zilah Bowes
Darperir lluniaeth, rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion deietegol.
Mae bwrsariaethau teithio o hyd at £25 y cyfranogwr ar gael i gefnogi costau teithio i Oriel
Gelf Glynn Vivian ar gyfer gweithdy yr un.
Gwnaed y rhaglen hwn yn bosib drwy gymorth gan Gronfa Treftadaeth Sgrîn y British Film
Institute, sy’n dyfarnu arian y Loteri Genedlaethol.
Artist amlddisgyblaethol a gwneuthurwr ffilmiau yw Zillah, y mae ei harfer yn cynnwys ffilm,
ffotograffiaeth, barddoniaeth, gosodiad a cherflun. Mae ei gwaith yn aml yn archwilio’r berthynas
rhwng yr unigolyn a’r amgylchedd naturiol.
Mae’n rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau

