Dydd Sadwrn 8 Mawrth 2025
10:30 am - 2:30 pm
Oes gennych chi unrhyw feddyliau am gelfyddyd yr ydych eisiau eu rhannu? Efallai eich bod eisiau dweud wrth bobl pam mae paentiad penodol yn dweud rhywbeth wrthych chi? Neu efallai eich bod eisiau esbonio pam eich bod yn ei weld yn ddiflas?
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhannu syniadau am gelf ac os ydych eisiau bod yn ysgrifennwr creadigol neu’n feirniad celfyddyd am ddiwrnod, ymunwch â’r bardd Galia Admoni ar gyfer un o’n gweithdai Ysgrifennu am Gelf yn rhad ac am ddim ar Ddydd Sadwrn 8 Mawrth.
10:30yb – 12:00yp neu 1:00yp – 2:30yp
Bydd Galia yn eich arwain ar daith o amgylch yr oriel lle byddwch yn siarad am y gelfyddyd sydd o’r diddordeb mwyaf i chi ac yna’n archwilio ffyrdd o roi eich meddyliau mewn geiriau.
Mae’n wych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn celfyddyd, ysgrifennu a rhannu eu barn!
14-17 oed
Am ddim, rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Mae Galia Admoni yn fardd ac yn Bennaeth Saesneg yn Ysgol Friern Barnet yng Ngogledd Llundain.
Galia yw awdur Immediately After and then Later (Black Cat Press, 2024) a chyd-awdur I get lost everywhere, you know this now (Salo Press, 2024). Mae ganddi gerddi yn Prototype 6 and Objects gan Dunlin Press, The Rialto, Bad Lilies, The North, Anthropocene ac eraill. Cafodd ei chymeradwyo yn Primers 2023, daeth yn drydydd yn y gystadleuaeth Briefly Write Poetry Prize 2022, a chafodd le ar y rhestr fer yng nghystadleuaeth ysgrifennu yr Urban Tree Festival yn 2023 a’r gystadleuaeth Poetry fod Good yn 2021.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau