Dydd Sadwrn 27 Medi 2025
10:30 am - 1:00 pm
Ar gyfer oedolion 16+ oed
Ymunwch â’n gweithdai celf hygyrch i oedolion ar ddydd Sadwrn olaf bob mis.
Cyflwynir technegau, syniadau a deunyddiau bob mis sy’n seiliedig ar ein rhaglen o arddangosfeydd.
Celfweithiau Unigryw Penigamp
Gan ddefnyddio gwaith Adeela Suleman o’r arddangosfa Teigrod a Dreigiau fel ysbrydoliaeth, ewch ati i greu eich gwaith celf unigryw eich hun gan ddefnyddio paent enamel a chrochenwaith ail-law.
Dewch â hen lestri o’r tŷ neu dewiswch o’n detholiad o wrthrychau ail-law i greu celfwaith unigryw sy’n ymateb i’r gwaith celf presennol neu arddull yr wyneb ceramig rydych yn ei ddefnyddio
Tocynnau £5.00
Darperir yr holl ddeunydd. Rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
https://www.glynnvivian.co.uk/cadwch-lle-nawr-gweithdy-penwythnos-i-oedolion/?lang=cy
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau Dim categorïau


