Dydd Sadwrn 25 Ebrill 2026
10:30 am - 1:00 pm
Portreadau ysgythriad ar bapur 
Ar gyfer oedolion 16+ oed
Dewch i greu hunanbortread gydag ysgythriad sych ar bapur ysgythru a deunyddiau wedi’u hailgylchu yn y gweithdy hygyrch hwn i oedolion. Bydd cyfle i ddysgu am y broses o ysgythru ar bapur a rhoi cynnig arni, yn ogystal ag archwilio ein harddangosfa ddiweddaraf, Lives in Motion.
25.04.26
Nid oes angen profiad. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Gall cyfranogwyr e-bostio eu delweddau i Daniel.mccabe@abertawe.gov.uk er mwyn creu ffotogopïau/printiau cyn y dosbarth, neu ddefnyddio ein hadnoddau ar y diwrnod.
£5.00
Mae’n rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau

