Dydd Sadwrn 13 Mai 2023 - Dydd Sul 26 Tachwedd 2023
10:00 am - 4:30 pm
Curadwyd gan Dr Ceri Thomas
Ystafelloedd 5, 6 a 7
Bydd yr arddangosfa hon, a guradwyd gan Dr Ceri Thomas, yn dathlu dau guradur amser llawn cyntaf Oriel Gelf Glynn Vivian a’u harweiniad arloesol o arddangosfeydd, casgliadau a rhaglenni caffael yr oriel yn y 1950au a’r 1960au.
Bydd paentiadau a darluniau’n cynnwys gweithiau gan Alfred Janes, Josef Herman, John Elwyn, Gwen John, J D Innes, Paul Nash, Kyffin Williams, Glenys Cour, Ivon Hitchens, Karel Appel, Sam Francis, Ceri a Frances Richards, Evan Walters a cherfluniau gan Jonah Jones, Ron Lawrence a Peter Nicholas — y cyfan o gasgliad parhaol yr oriel.
Bydd yr arddangosfa yn canolbwyntio ar y rolau allweddol a chwaraeodd y curaduron David Bell (1915-1959) a Kathleen Armistead (1902-1971) wrth sefydlu a datblygu byd celf gyfoes Cymru. Roedd cyflawniadau nodedig Bell ac Armistead yn cynnwys datblygu amgylcheddaeth Gymreig a moderniaeth Gymreig ac Ewropeaidd yng Nghymru, yn ogystal â dyrchafu statws lleol a chenedlaethol yr oriel.
Gan ddefnyddio ei waith fel arlunydd yn dilyn ei hyfforddiant yn y Coleg Celf Brenhinol a’r profiad a gafodd gyda Chyngor Celfyddydau Prydain Fawr yng Nghaerdydd (1946-51), ysgrifennodd David Bell yn rheolaidd ar gyfer y South Wales Evening Post yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, lluniodd ganllaw cyntaf i gasgliad yr oriel (a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth) a sefydlodd Gymdeithas Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian ym 1958. Roedd Bell yn canolbwyntio’n arbennig ar hyrwyddo artistiaid cyfoes o Gymru ac artistiaid a oedd yn gweithio yng Nghymru fel Ceri Richards a aned yn Dyfnant, Josef Herman a aned yn Warsaw a oedd yn byw yn Ystradgynlais a John Elwyn a aned ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Gâr.
Dechreuodd Kathleen Armistead, curadur benywaidd cyntaf Oriel Gelf Glynn Vivian, ei gyrfa fel curadur amgueddfa yn Lloegr (1943-59), ar ôl hyfforddi i ddechrau fel pianydd ac astudio hanes cymdeithasol cerddoriaeth. Oherwydd ei diddordeb arbennig mewn cerflunio, cerameg a gwaith haniaethol, ehangodd uchelgais y rhaglen gaffaeliadau i gynnwys efydd gan Barbara Hepworth a Jacob Epstein, cerameg gan Lucie Rie, a gweithiau dau ddimensiwn gan yr artistiaid rhyngwladol Karel Appel, Sam Francis a Henry Moore, a thrwy hynny ychwanegu at uchafbwyntiau rhaglen arddangosfeydd a chaffaeliadau cyfoes yr oriel yn ystod ei chyfnod yn y swydd.
Ewch ar daith rithwir o’r arddangosfa
Cyhoeddir y llyfr, Shaping Wales: Bell, Armistead and the Modern Artist, a ymchwiliwyd ac a ysgrifennwyd gan Dr Ceri Thomas RCA/AFG, ym mis Tachwedd 2023, gan Ali Anwar, The H’mm Foundation. Mae’n cwmpasu cyfnod 1915 i 1969 a holl fywyd a gyrfa David Bell, ynghyd â chyfnod Armistead yn Oriel Glynn Vivian, gan ddatgelu eu rolau arloesol wrth lunio’r byd celf yn y Gymru fodern.
Dr. Ceri Thomas
Artist llawrydd, hanesydd celf a churadur sy’n byw yn ne Cymru yw’r Athro Ceri Thomas.
Mae wedi ymchwilio i ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, catalogau ac erthyglau celf cyhoeddedig ar artistiaid modern a chyfoes amrywiol o Gymru, gan gynnwys Joan Baker ac Ogwyn Davies i Alan Salisbury ac Ernest Zobole. Mae wedi ymchwilio a churadu sawl arddangosfa sy’n cynnwys celf ac artistiaid o Gymru, mae wedi siarad yng Ngŵyl y Gelli ac mae wedi cyfrannu at raglenni teledu ar gelf yng Nghymru. Mae’n Academydd o’r Royal Cambrian ac yn Aelod Anrhydeddus o’r Grŵp Cymreig ac mae wedi arddangos ei waith ar draws Cymru a thramor.
David Bell (1915-1959)
Arlunydd, awdur a churadur, a aned yn Llundain. Ar ôl mynychu ysgol Merchant Taylor, astudiodd gelf yn Ysgol Gelf Chelsea ym 1933 a’r Coleg Celf Brenhinol, 1933-6, lle roedd ei athrawon yn cynnwys Syr William Rothenstein a Gilbert Spencer. Roedd David Bell yn arloeswr. Treuliodd ddau aeaf fel dyluniwr-fforiwr yn Niwbia (Swdan) gyda Chymdeithas Archwilio’r Aifft ym 1937-8 a 1938-9. Yn ystod y rhyfel, roedd yn gartograffydd ar gyfer y Llywodraeth a chyd-gyfieithodd hanner cant o gerddi Dafydd Ap Gwilym gyda’i dad, Syr Idris Bell, (a gyhoeddwyd gan y Cymmrodorion ym 1942). Yna, daeth yn Gyfarwyddwr Celf Cynorthwyol cyntaf y Cyngor Celfyddydau yng Nghymru, 1946-51. Ar ôl hynny, a hyd ei farwolaeth yn 43 oed, ef oedd curadur amser llawn cyntaf Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe. Roedd yn byw yn West Cross gyda’i wraig a’i ddau fab ifanc ac arddangosodd ei waith yn eang dros Gymru. Ym 1960-1, cynhaliwyd arddangosfa goffa deithiol o’i baentiadau a’i ddarluniau yn Oriel Gelf Glynn Vivian gan ei olynydd, Kathleen Armistead. Roedd Bell yn hyrwyddwr celf cynhyrchiol, gan ymddangos ar y radio ac yn cynhyrchu nifer o gatalogau arddangosfa ac erthyglau cyfnodolion a phapurau newydd. Ei ddau lyfr oedd The Language of Pictures, 1953, a The Artist in Wales, 1957.
Bu farw Bell yn dilyn llawdriniaeth arloesol lwyddiannus yn Llundain i wella ei symudedd a oedd yn dirywio o ganlyniad iddo’n dioddef o’r clefyd cysglyd ers pan oedd yn fachgen ysgol. Mae ei luniau’n cael eu harddangos mewn casgliadau gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru.
Kathleen Armistead (1902-1971)
Curadur a aned yn Swydd Efrog. Er ei dyhead i fod yn bianydd proffesiynol i ddechrau, enillodd Armistead LRAM yn Llundain ym 1921 ond wedi hynny enillodd radd ôl-raddedig mewn hanes cymdeithasol cerddoriaeth. Yn y 1940au, roedd yn gynorthwyydd i Gyfarwyddwr Oriel Gelf Dinas Leeds, Philip Hendy, a oedd yn ddylanwad pwysig arni ac a olynodd Kenneth Clark fel Cyfarwyddwr yr Oriel Genedlaethol. Symudodd o Leeds i’r de i ddod yn guradur yn y Georgian House a’r Red Lodge, Oriel Gelf Dinas Bryste, a thra yr oedd hi yno derbyniodd gymrodoriaeth Cymdeithas yr Amgueddfeydd ym 1958.
Roedd Kathleen Armistead yn arloeswr hefyd, gan mai hi oedd y curadur benywaidd cyntaf a’r unig un yng Nghymru ym 1960. Roedd hi’n byw yng Nghilâ gyda’i phartner, Miss Thornton. Ym 1966, dewisodd a threfnodd arddangosfa Matthew Smith, Pwyllgor Cymreig Cyngor y Celfyddydau 1966 a deithiodd o Abertawe, ar ôl helpu Hendy i drefnu arddangosfa o waith yr arlunydd o Swydd Efrog dros ugain mlynedd ynghynt. Ehangodd gynllun ‘Darlun y Mis’, Bell, i ‘Ddarlun neu Nodwedd y Mis’ er mwyn cynnwys cerfluniaeth a cherameg. Sicrhaodd grantiau’r Weinyddiaeth Addysg drwy Amgueddfa Victoria ac Albert, grantiau Sefydliad Calouste Gulbenkian a benthyciadau gan Sefydliad Peter Stuyvesant i ddangos gweithiau haniaethol gan artistiaid fel Sandra Blow a Mary Martin. Ysgrifennodd atodiad i Ganllaw Casgliad yr Oriel Bell a chydweithiodd â W J Grant-Davidson i gynhyrchu’r Catalogue to the Kildare Meager Swansea China Collection. Ymddeolodd Armistead ym 1967 a symudodd yn ôl i Loegr.
Categorïau