Dydd Sadwrn 24 Mai 2025 - Dydd Sul 2 Tachwedd 2025
10:00 am - 4:30 pm
Rydym yn falch o gyflwyno canlyniad prosiect Threads, sy’n cynnwys ymatebion personol gan aelodau’r grŵp i waith yr artist adnabyddus Adeela Suleman. Ariannwyd prosiect Threads gan Grant ‘Creu’ Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Threads, Grŵp Tecstilau Cymunedol Oriel Gelf Glynn Vivian, wedi bod yn arbrofi â thechnegau a deunyddiau sy’n seiliedig ar decstilau. Wrth i’r prosiect ddatblygu, mae natur araf, ailadroddus prosesau tecstilau wedi annog rhyngweithio a chysylltiadau cymdeithasol. Mae’r dull arafach hwn wedi caniatáu i ni feithrin ymdeimlad o ddiben cyffredin, gan ddathlu sut mae elfennau ein bywydau amrywiol yn cydblethu’n annatod yn ein cymuned.
Yn ystod y cam cyntaf, gwnaeth y grŵp ddysgu gan amrywiaeth eang o ymarferwyr tecstilau, gan archwilio batic, llifo naturiol, gwneud dillad, crosio ac addurno ag appliqué. Gwnaeth aelodau’r grŵp brofi eu sgiliau drwy ddefnyddio tecstilau i greu gwledd ar ffurf parti te, gyda theisennau wedi’u gwau, lliain bwrdd printiedig ac ymyriadau chwareus. Cafodd y gwaith hwn ei arddangos yn Patchwork, arddangosfa gymunedol yn ystafell yr ardd yn yr oriel.
Yn ystod yr ail gam, dan arweiniad Menna Buss, yr artist tecstilau cyswllt, ymatebodd aelodau’r grŵp i waith Artes Mundi 10 yn Abertawe a Chaerdydd i greu arddangosfa ar y cyd â grŵp cymunedol Plant y Cymoedd yn y Porth, gan feithrin cysylltiadau a chyfeillgarwch creadigol.
Mae’r sgiliau a gafodd eu magu drwy’r profiadau hyn a brwdfrydedd y grŵp wedi galluogi Threads i gydweithio â’r artist rhyngwladol Adeela Suleman i greu cerflun i ddathlu heddwch a harddwch Cymru. Mae aelodau’r grŵp wedi cwrdd â’r artist yn rheolaidd i rannu cynnydd, profiadau, dysgu, cyfeillgarwch a’r cysylltiadau amlddiwylliannol y maent wedi’u meithrin.
Mae gwaith Suleman o’r enw Imperium Amidst Opium Blossoms (A Kashidakari on the era of the East India Company) yn cael ei arddangos yn Ystafell 3 yn yr arddangosfa Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain.
Mae Imperium Amidst Opium Blossoms yn dangos ffigurau allweddol o East India Company (EIC) yn uno teigr India a draig Cymru. Gan ddefnyddio Kashida (techneg brodwaith o oes y Mughals sy’n cyfuno appliqué sidan ag addurniadau wedi’u pwytho â llaw), mae Suleman yn myfyrio ar hen ogoniant y Mughals, a gafodd eu disodli gan y Prydeinwyr ym 1858. Mae Robert Clive (Clive o India) a Chastell Powis – a’r tapestri – wrth wraidd y stori hon. Drwy ennill Brwydr Plassey (1757), roedd Clive yn gyfrifol am sbarduno’r Ymerodraeth Brydeinig yn India.
Ariannwyd prosiect Threads gan Grant ‘Creu’ Cyngor Celfyddydau Cymru.
Categorïau