• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain

Dydd Gwener 23 Mai 2025 //  by laura.gill

Dydd Gwener 23 Mai 2025 - Dydd Sul 2 Tachwedd 2025
10:00 am - 4:30 pm

Adeela Suleman, Detail from Imperium Amidst Opium Blossoms: A Kashidakari on the era of the East India Company, 2025. Trwy garedigrwydd yr artist / Image copyright and courtesy the artist

Mae’n bleser gan Oriel Gelf Glynn Vivian gyflwyno Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain, arddangosfa ryfeddol sy’n ymchwilio i’r cysylltiadau dwfn rhwng isgyfandir India a Chymru.

Cyd-guradu gan Dr Zehra Jumabhoy.

Glynn Vivian Gyda’r Hwyr, nos Wener 23 Mai Oriel ar agor tan 8:00pm

Perfformiad Nikhil Chopra, dydd Gwener 23 Mai, 10:30am – 6:30pm

Am ddim, croeso i bawb. Does dim angen cadw lle

Mae Teigrod a Dreigiau yn edrych ar eiconograffi cenhedloedd de Asia a Chymru; gan archwilio sut maent wedi dychmygu eu hunain – neu wedi’u dychmygu – dros y canrifoedd. Os India oedd ‘yr em yn y goron ymerodrol’, a allem ddadlau mai Cymru oedd trefedigaeth gyntaf Lloegr? Wrth i Gymru frwydro am ei hunaniaeth o fewn ‘Prydeindod’, mae’n amserol ailasesu’r ffordd y gwnaeth gyfrannu at uchelgeisiau ymerodrol Prydain, elwa ohonynt a hyd yn oed dioddef drostynt. Mae’r sioe yn ymchwilio i waddol yr Ymerodraeth Brydeinig a’i pherthnasedd parhaus ar gyfer hunaniaeth Gymreig yn ogystal ag ar gyfer India, Pacistan a Bangladesh.

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys dros 100 o gelfweithiau – paentiadau, ffotograffau, perfformiadau, tecstilau, gosodweithiau cerfluniol a chyfryngau newydd – gan oddeutu 70 o artistiaid o Gymru, Lloegr, India a Phacistan. Daw benthyciadau hanesyddol a chyfoes o gasgliadau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Castell Powis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chasgliad Ymerodraeth a Chymanwlad Brydeinig Amgueddfa Bryste. Cefnogir benthyciadau gan Raglen Fenthyca Weston drwy Art Fund. Rhaglen Fenthyca Weston, a grëwyd gan Garfield Weston Foundation ac Art Fund, yw’r cynllun ariannu cyntaf erioed ar draws y DU i alluogi amgueddfeydd llai a rhai awdurdodau lleol i fenthyca celfweithiau ac arteffactau o gasgliadau cenedlaethol.

Mae’r arddangosfa’n olrhain cymhlethdodau cymdeithasol a gwleidyddol y berthynas rhwng India a Chymru. Mae’n tynnu sylw at gysylltiadau ymerodrol (drwy ryfel, masnach ac iaith) ac yn treiddio i gywerthoedd eraill. Os Cymru yw trefedigaeth fewnol Lloegr, fel yr oedd India yn un allanol gynt, beth gallwn ni ei ddysgu o gymharu’r ddwy? Mae’r arddangosfa’n ystyried symbolaeth weledol darostyngiad ymerodrol (llew Britannia yn goruchafu ar y teigr Indiaidd; draig goch Cymru yn erbyn draig wen Lloegr) a deffroad cenedlaethol. Yn union fel yr ysbrydolwyd mudiadau annibyniaeth India gan syniadau’r Fam India, yn yr un modd mae cenedlaetholdeb Cymreig yn cydio yn sgertiau Cymru’r famwlad.

Mae comisiynau newydd gan artistiaid cyfoes (fel yr artist perfformiad o Goa, Nikhil Chopra) wedi’u cefnogi gan CELF (Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru).

Mae grŵp tecstilau cymunedol croestoriadol Oriel Gelf Glynn Vivian, Threads, wedi bod yn gweithio gyda’r artist rhyngwladol Adeela Suleman, sy’n byw yn Karachi, Pakistan, a Menna Buss o Abertawe, i greu darn o gelf mewn ymateb i dapestri mawr Suleman, a gomisiynwyd ar gyfer yr arddangosfa.

  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain
  • Tigers & Dragons: India and Wales in Britain

Meddai Sophia Weston, Dirprwy Gadeirydd Sefydliad Garfield Weston,

“Mae rhaglen fenthyciadau Weston yn grymuso amgueddfeydd ac orielau ar draws y DU i ddod â chelf a gwrthrychau diddorol iawn i gynulleidfaoedd lleol, lle gallant gael eu profi drwy lens treftadaeth a hanes rhanbarthol. Rydym yn falch iawn o gefnogi’r arddangosfa hon sy’n ysgogi’r meddwl ac yn archwilio’r cysylltiadau rhwng Cymru ac isgyfandir India.”

“Mae gwaith Zehra Jumabhoy yn cynrychioli estyniad pwysig i astudiaethau o ddiwylliant gweledol Cymru ar lwyfan rhyngwladol… mae Zehra yn darparu mewnwelediadau newydd sy’n hanfodol i adnewyddu a gwella’n dealltwriaeth o’n hunain dros amser, yng Nghymru ac yn India.”

– Peter Lord, hanesydd celf gorau Cymru ac awdur The Tradition: A New History of Welsh Art (Parthian Books, 2016/2024)

“Mae hwn yn brosiect hyderus ac ysbrydoledig. Trwy gyfosod amrywiaeth o gelfweithiau hanesyddol a chyfoes dau ranbarth sydd i bob golwg yn ddiberthynas, sef isgyfandir India a Chymru, sef gwlad ym Mhrydain, mae arddangosfa hynod ddiddorol Zehra Jumabhoy, Teigrod a Dreigiau, yn ein hannog i ailystyried ein syniadau am ymerodraeth drefedigaethol Prydain.”

– Partha Mitter, Athro Emeritws Hanes Celf, Prifysgol Sussex; Athro Cynorthwyol Ymchwil, Prifysgol Carleton, Ontario, Canada;
awdur Art and Nationalism in Colonial India, 1850-1922, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1994

Mae’r arddangosfa wedi’i churadu gan Swyddog Arddangosfeydd Oriel Gelf Glynn Vivian, Katy Freer a’r hanesydd celf Dr Zehra Jumabhoy ym Mhrifysgol Bryste. Ariannwyd ymchwil Jumabhoy gan un o Gymrodoriaethau Ymchwil Guradurol Paul Mellon Centre for British Art.

Gwnaethpwyd yr arddangosfa hon yn bosibl gyda grant gan Raglen Benthyca Weston gyda Chronfa Gelf.

Mae’r arddangosfa hon yn ddiolchgar am gefnogaeth gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Gasgliad Taimur Hassan; Canvas Gallery, Karachi; Grosvenor Gallery, Llundain; Chatterjee & Lal Gallery, Mumbai, a Chemould Prescott Road, Mumbai. Bydd y llyfr a fydd yn cyd-fynd â’r arddangosfa, gyda thraethawd curadurol Teigrod a Dreigiau gan Zehra Jumabhoy, yn ogystal â thestunau gan yr hanesydd celf Pacistanaidd, Salima Hashmi a’r artistiaid o Gymru, Iwan Bala a Peter Finnemore, yn cael ei gyhoeddi ar y cyd â Hmm Foundation gyda grant gan Seher a Taimur Hassan.

Ariannwyd prosiect Threads gan Grant ‘Creu’ Cyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd rhaglen lawn o weithdai, sgyrsiau a digwyddiadau drwy gydol cyfnod yr arddangosfa, yn dechrau gyda pherfformiad gan Nikhil Chopra ddydd Gwener 23 Mai.


Lawrlwythwch yr ap Bloomberg Connects i gael rhagor o wybodaeth am ddarnau dethol o’r arddangosfa Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain. Gallwch ddarllen yr arweiniad ar-lein yma


Ewch ar daith rithwir o’r arddangosfa


Digwyddiadau i ddod

Sgwrs Cyfeillion y Glynn Vivian gydag Andrew Renton – Dydd Sadwrn 4 Hydref 2025, 12:30 pm – 13:30 pm

Mae’r rhain yn dogfennu rôl weithredol Cymru mewn gwladychiaeth Brydeinig a’i dylanwad parhaus yng Nghymru heddiw. Hefyd i’w gweld yw rôl celf fel cyfrwng i feithrin perthynas fwy cytbwys, parchus a chwilfrydig rhwng y ddwy genedl.

Cynhadledd, Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain – Dydd Gwener 10 Hydref 2025, 10:00 am – 6:00 pm
Mae’r rhaglen hon yn archwilio’r prif adrannau thematig o’r arddangosfa; gan ddadansoddi’r elfennau hanesyddol a chyfoes sy’n cysylltu isgyfandir India â Chymru gyda help artistiaid, curaduron, haneswyr (celf) a damcaniaethwyr diwylliannol.

Taith o’r Oriel gyda Dr Zehra Jumabhoy – Dydd Sadwrn 11 Hydref 2025, 11:30 am – 12:30 pm


Digwyddiadau yn y gorffennol

Teigrod a Dreigiau – Trafodaeth Banel – dydd Sadwrn 24 Mai 2025

Ymunwch â ni am ddwy drafodaeth panel gydag artistiaid o’r arddangosfa ‘Teigrod a Dreigiau’.

Trafodaeth Banel: Gorffennol Cymru; treftadaeth De Asiaidd – 11:00am – 11:45am. Panelwyr: Nikhil Chopra, Adeela Suleman a Daniel Trivedy.

Trafodaeth Banel: Arwyddion a Symbolau – 12:30pm – 13:15pm. Panelwyr: Iwan Bala, Peter Finnemore a Bushra Waqas

Sgwrs Cyfeillion y Glynn Vivian gyda Dr Zehra Jumabhoy – Dydd Gwener 6 Mehefin 2025, 12:30 pm – 1:30 pm

AND then there were Dragons?

Bydd Dr Zehra Jumabhoy, cyd-guradur ‘Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain’, darlithydd hanes celf Prifysgol Byste, yn siarad am yr arddangosfa ac yn rhoi cipolwg ar y broses gydweithredol o guradu’r arddangosfa gyda Katy Free o Oriel Gelf Glynn Vivian.

Sgwrs Cyfeillion y Glynn Vivian gyda Dr Hadi Baghaei-Abchooyeh – Dydd Sadwrn 5 Gorffennaf 2025, 12:30yp – 1:30yp

Bridging Cultures: Sir William Jones and the India–Wales Connection

Mae Hadi Baghaei-Abcooyeh yn arbenigo mewn Saesneg a Llenyddiaeth Gymharol. Mae’r sgwrs hon yn archwilio bywyd ac etifeddiaeth arbennig Syr William Jones (1746-1794), arbenigwr cyfreithiol a anwyd yng Nghymru yr oedd ei waith ym Mengal ar ddiwedd y 18fed ganrif wedi ffurfio cysylltiadau deallusol parhaus rhwng Cymru ac India.

Sgwrs gyda Gwilym Games – Teigrod, Dreigiau a Llyfrgelloedd – cysylltiadau rhwng Abertawe ac India (cynhelir y sgwrs yn Saesneg yn unig) – Dydd Gwener 29 Awst 2025, 12:30 pm – 1:30 pm
Cewch gip ar gysylltiadau hanesyddol diddorol rhwng Abertawe ac India, er enghraifft sut gwnaeth ysgolhaig Hindŵaeth chwarae rôl arwyddocaol wrth ddod â llyfrgelloedd cyhoeddus i Abertawe, wrth i ni nodi 150 mlynedd ers sefydlu Llyfrgelloedd Cyhoeddus Abertawe ym 1875.

Sgwrs gyda’r artistiaid Kathryn Campbell Dodd a Daniel Trivedy Sgwrs gyda’r artistiaid Kathryn Campbell Dodd a Daniel Trivedy – Dydd Sadwrn 6 Medi 2025, 12:30 pm – 1:30 pm
Ymunwch â’r artistiaid Kathryn Campbell Dodd a Daniel Trivedy wrth iddynt drafod sut mae hanes Cymru ac India wedi dylanwadu ar eu harferion artistig. Yn ystod y sgwrs hon fydd yr artistiaid yn archwilio’u gwaith cyhoeddus diweddar, ‘Cragen Beca’ a ‘A Tiger in the Castle,’ gan ganolbwyntio ar y defnydd o berfformiad, motiffau hanesyddol a gwisgoedd.

Taith o’r Oriel gyda Dr Zehra Jumabhoy – Dydd Sadwrn 13 Medi 2025, 11:30 am – 12:30 pm

Sgwrs Cyfeillion y Glynn Vivian gyda’r Athro Helen Fulton Sgwrs Cyfeillion y Glynn Vivian gyda’r Athro Helen Fulton – Dydd Gwener 26 Medi 2025, 12:30 pm – 1:30 pm
Pam mae draig goch ar faner Cymru? Mae’r sgwrs hon yn esbonio tarddiad y ddraig goch yn chwedlau cynnar Prydain a pham y mae’r ddraig hon yn wahanol i ddreigiau eraill.



Glynn Vivian Art Gallery – On Air · Tigers & Dragons audio tour

Glynn Vivian Art Gallery – On Air · Tigers, Dragons and Libraries – connections between Swansea and India

Glynn Vivian Art Gallery – On Air · Atrium – Nikhil Chopra

Glynn Vivian Art Gallery – On Air · Artist interview – Daniel Trivedy

Glynn Vivian Art Gallery – On Air · Artist interview – Bushra Wakas Khan

Glynn Vivian Art Gallery – On Air · Artist interview – Adeela Suleman

Mae Dr Zehra Jumabhoy yn Ddarlithydd Hanes Celf ym Mhrifysgol Bryste, y DU. Yn 2025, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol gyntaf Ymddiriedolaeth Berger iddi mewn Hanes Celf Brydeinig (lansiwyd gan Trinity Hall, Prifysgol Caergrawnt, a The Huntington, Califfornia).

Mae ganddi ddiddordeb mewn dadansoddi cyd-destunau cymdeithasol-wleidyddol hanes celf De Asia, gan gynnwys ei pherthynas â gorffennol a phresennol ymerodrol Prydain. Roedd hi’n ysgolhaig Steven ac Elena Heinz yn Sefydliad Celf Courtauld, Llundain, lle cwblhaodd ei doethuriaeth ar gelf a chenedlaetholdeb India dan oruchwyliaeth yr Athro Julian Stallabrass yn 2017, ac wedi hynny bu’n darlithio ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig. Mae hi wedi bod yn ddarlithydd gwadd mewn amrywiol sefydliadau academaidd yn y DU, India, Pacistan a Singapore.

Yn 2018, cyd-guradodd yr arddangosfa The Progressive Revolution: A Modern Art for a New India, yn amgueddfa Asia Society, Efrog Newydd. Roedd hi’n guradydd gwadd ar gyfer y sioe yn UDA sef Raqib Shaw: Ballads of East and West, a deithiodd i bedwar sefydliad pwysig rhwng 2023 a 2025, gan gynnwys Amgueddfa Isabella Stewart Gardner yn Boston a The Huntington yn Los Angeles.

Roedd hi’n Gymrwd Ymchwil Guradurol yn Oriel Gelf Glynn Vivian Abertawe, swydd a ariennir gan Paul Mellon Centre for British Art i hwyluso rhaglennu sy’n ymwneud ag agenda ddadwladychu’r amgueddfa. Mae’r arddangosfa Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain yn oriel Gelf Glynn Vivian yn rhan o’r prosiect hwn.



Categorïau

  • Arddangosfa’r Casgliad
  • Casgliadau
  • Dyfodol
  • Presennol

Event Category: Arddangosfa’r Casgliad, Casgliadau, Dyfodol, Presennol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility