Dydd Sadwrn 24 Mai 2025
11:00 am - 1:15 pm
Trafodaeth Banel: Gorffennol Cymru; treftadaeth De Asiaidd
11:00am – 11:45am
Panelwyr: Nikhil Chopra, Adeela Suleman a Daniel Trivedy.
Cymedrolwr: Katy Freer, Swyddog Arddangosfeydd yn Oriel Gelf Glynn Vivian a Chyd-guradur Teigrod a Dreigiau
Mae’r Panel hwn yn ymwneud â’r rhyngweithiadau trefedigaethol rhwng isgyfandir India a Chymru.
Mae Chopra o Goa a Karachiite Suleman a Trivedy o Abertawe’n mynd i’r afael â’r safbwynt Cymreig ar Ymerodraeth a’i ryngweithio ag isgyfandir India. Y pynciau dan sylw fydd Castell Powis yn y Trallwng (sy’n berthnasol i weithiau Suleman a Trivedy yn y sioe), Richard Glynn Vivian (a fydd yn ymddangos ym mherfformiad Chopra) a’r cysylltiadau diwydiannol rhwng India a Chymru. Bydd ‘Teigr India’ yn arwain y drafodaeth.
Egwyl ginio: 11:45am – 12:30pm
Bydd seibiant 45 munud i ginio. Bydd yr ail drafodaeth banel yn dechrau am 12.30pm.
Am ddim, Rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Book now – Tigers and Dragons Panel Discussion, Welsh Pasts; South Asian Heritage
Trafodaeth Banel: Arwyddion a Symbolau
12:30pm – 13:15pm
Panelwyr: Iwan Bala, Peter Finnemore a Bushra Waqas
Cymedrolwr: Dr Zehra Jumabhoy, Darlithydd mewn Hanes Celf (Prifysgol Bryste) a Chyd-guradur Teigrod a Dreigiau
Roedd Bala’n aelod o grŵp arloesol o artistiaid o’r enw Beca, a ffurfiwyd gan y brodyr Peter a Paul Davies yn y 1970au i hyrwyddo hunaniaeth Gymreig. Ar y panel hwn, bydd yn ymuno â Peter Finnemore o Gymru a Khan o Lahore, y mae ei gelfweithiau (ffrogiau tylwyth teg bychain, fel Blodeuwedd, 2025) yn cyfeirio at fytholeg Cymru a gwleidyddiaeth hunaniaeth. Wrth iddynt drafod y pethau sy’n debyg rhwng De Asia a Chymru, mae symbol y Ddraig Goch yn llywio’r sgwrs.
Am ddim, Rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Book now – Tigers and Dragons Panel Discussion: Signs & Symbols
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau