Dydd Iau 26 Medi 2019
6:00 pm - 9:00 pm
Dewch i ddathlu agoriad yr arddangosfeydd hudo yma yn cynnwys gwaith can artistiaid lleol a rhyngwladol, darganfyddwch waith celf ysbrydol o’r Casgliad yn Abertawe.
Am ddim, croeso i bawb
Straeon Abertawe: o Monet i Maradona
I ddathlu hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas, mae’r Glynn Vivian yn cyflwyno Straeon Abertawe, arddangosfa a fydd yn cynnwys y detholiad mwyaf o’n casgliad parhaol a arddangoswyd erioed. Mae casgliad yr oriel yn cynnwys gwaith o’r 18fed ganrif hyd at ein hoes fodern ac mae’n cyflwyno portread eclectig ac unigryw o’r ddinas: y dirwedd newidiol sydd wedi ysbrydoli artistiaid am ganrifoedd, o fryniau serth canol y ddinas a thirluniau cyfagos Townhill, Mayhill, y Mwmbwls a Dynfant, i’n morlin hyfryd.
Mae’r harddangosfa’n archwilio dwy brif thema Pobl a Lleoedd Abertawe a Ffefrynnau Abertawe.
Mae Pobl a Lleoedd Abertawe‘n cynnwys portreadau o’r cyfoethog a’r enwog, megis y gantores opera Adelina Patti, y bardd Vernon Watkins, ac Arglwydd Feiri’r gorffennol yn ogystal â gweithwyr megis glowyr, casglwyr cocos a gweithwyr y dociau – a hyd yn oed ein ci annwyl, Jac Abertawe. Bydd strydoedd Abertawe, ei morlin hyfryd a’i diwydiant hefyd yn ymddangos, o dirweddau amaethyddol i fomio canol y ddinas; caiff rhan fawr o Abertawe ei chynnwys yma.
Mae’r rhan arall o’n arddangosfa, sef Ffefrynnau Abertawe, yn gasgliad o’r gwaith y mae pobl yn gofyn i’w weld mwyaf, naill ai drwy sgyrsiau gyda’n tîm blaen tŷ neu drwy arolygon cynulleidfa a thrwy’r wefan. Yn yr adran hon rydym yn dathlu peth o’n gwaith enwocaf gan artistiaid rhyngwladol clodwiw megis Gwen John, yr Argraffiadwyr Ffrengig Claude Monet a Lucien Pissarro, yn ogystal â phortread papier-mâché o’r chwaraewr pêl-droed Diego Maradonna a wnaed gan 100 o blant o Ysgol Pen-lan yn y 1980au.
Sophy Rickett: Cupid a Chwyn Rhyfedd Kenfig Burrows
Mae’r arddangosfa unigol hon gan Sophy Rickett yn cyfuno ffotograffiaeth â thestun ac fe’i hysbrydolir gan fywyd a gwaith Thereza Dillwyn Llewelyn, artist a seryddwr o Abertawe a oedd yn weithredol ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae’r prosiect, sydd wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd, yn dogfennu taith Rickett wrth iddi symud tuag at ddealltwriaeth agosach o fyd anhysbys braint Fictoraidd, ynghyd â’r cysylltiadau agos â hanes cynnar ffotograffiaeth.
Ar gyfer ei gosodiad yn Oriel Gelf Glynn Vivian, cyfunwyd ffotograffau a thestun o Chwyn Rhyfedd Kenfig Burrows â gwaith y mae Rickett wedi’u dewis o gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian ei hun.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau