Dydd Sadwrn 11 Hydref 2025 - Dydd Sul 12 Hydref 2025
10:00 am - 4:00 pm
Mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe’n ddathliad deuddydd AM DDIM o greadigrwydd, diwylliant a chymuned yng nghanol dinas Abertawe.
Fe’i cynhelir ddydd Sadwrn 11 a dydd Sul 12 Hydref rhwng, a bydd yr ŵyl yn trawsnewid y ddinas yn ganolfan o ysbrydoliaeth, gan ddod â cherddoriaeth, celfyddydau gweledol, a pherfformiadau byw at ei gilydd i bawb eu mwynhau.
Cymerwch olwg ar beth sydd ymlaen yn Oriel Gelf Glynn Vivian.
Am ddim, croeso i bawb
Teigrod a Dreigiau: paentio eich wyneb!
Dydd Sadwrn 11 a Dydd Sul 12 Hydref 2025, 10:00 yb – 4:00 yp
Bydd yr artist Rhiannon Morgan yn paentio teigrod a dreigiau ar wynebau plant mewn ymateb i’r arddangosfa Teigrod a Dreigiau:India a Chymru ym Mhrydain!
Galwch heibio. Dim angen archebu
Sesiwn creu gwisgoedd a gwisgo i fyny ar thema Teigrod a Dreigiau
Dydd Sadwrn 11 a Sul 12 Hydref
Amseroedd gweithdai: 10:30 yb – 12:30 yp and 1:30 yp – 3:30 yp
Ymunwch â’r artist Ren Wolfe i greu gwisgoedd rhyfeddol a chael cyfle i wisgo i fyny ar set ddychmygol mewn ymateb i’r arddangosfa Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain! Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025
Mae’n rhaid cadw lle
Oriel Glynn Vivian Crefftau Galw Heibio – Creu Pypedau
Dydd Sadwrn 11 a dydd Sul Hydref, 11:30 yb – 2:30 yp
Dewch i greu eich pyped bach eich hun a’i ddefnyddio i chwarae fel rhan o set chwarae rôl ddychmygol Ren Wolfe. Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025
Galwch heibio. Dim angen archebu
Taith o’r Oriel gyda Dr Zehra Jumabhoy
Dydd Sadwrn 11 Hydref 2025, 11:30 am – 12:30 pm
Ymunwch â ni am daith dywys arbennig o’r arddangosfa Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain gyda churadur yr arddangosfa, Dr Zehra Jumabhoy.
Rhaid cadw lle
Nazma Botanica, Cymreig Asiaidd/ Asiaidd Cymreig: Hunaniaethau Cymysgryw
Dydd Sadwrn 11 a dydd Sul 12 Hydref 2025, 1:00 pm – 1:15 pm
Bydd Nazma Botanica, artist o Abertawe, yn cyflwyno perfformiad celf fyw gan ddefnyddio dulliau paratoi bwydydd diwylliannol traddodiadol (chapatis a phice ar y maen), i alluogi diwylliant Cymru ac Asia i weld y posibiliadau o debygrwydd a chyfnewid rhwng y ddwy ochr. Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025
Dim angen archebu
Caiff ei gefnogi gan y prosiect Angori Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Abertawe a’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Categorïau