Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025 - Dydd Sul 7 Rhagfyr 2025
10:30 am - 4:30 pm
Ar y cyd ag arddangosfa Linder: Danger Came Smiling yn Oriel Gelf Glynn Vivian, mae’r artistiaid o Abertawe, Vivian Ross-Smith a Holly Slingsby, yn cyd-guradu bydd lluniau symudol perfformiadol yn cael eu dangos, gan gynnwys celfweithiau gan artistiaid gwadd a galwad agored.
Artistiaid Fideo: Adele Vye, Aled Simons, Alex Hetherington, Bhebhe a Davies, Jenny Baines, Jessa Mockridge, Rebecca Moss, Sophie Lindsey, Quilla Constance a Zia Torta.
Mae’r rhaglen yn ehangu ar themâu o arddangosfa Linder: Danger Came Smiling gan gynnwys bywyd teuluol, y ffordd rydym yn ymddwyn mewn cymdeithas, y cyfryngau torfol, cyrff, cymeriadau clasurol a phleser.
Fideos
Adele Vye
At the doorway (Time) ac At the doorway (Tide), 2020
Yn At the doorway (Tide) ac At the doorway (Time), mae Vye yn defnyddio’r peiriant golchi dillad i archwilio’r gwrthdaro rhwng cyfrifoldeb domestig ac amgylcheddol, a hynny mewn modd barddonol. Terfir ar weithred bob dydd golchi dillad, gan ei thrawsnewid yn ddefod. Mae tortshys yn rhoi arwydd i ofyn am help, mae dŵr yn codi ac rydym yn gweld yr artist yn cael ei llyncu, yn diflannu, yn cael ei chludo ac yn trawsnewid o’r tu mewn i’r peiriant.
Aled Simons
Legend Extension II, 2023
Beth pe bai ein hatgofion a’n gwybodaeth gyfunol yn cael eu recordio, eu hailddirwyn a’i hailrecordio ar hen dâp VHS? Mae Legend Extension II yn cynnig cyfle i ystyried dynwared anymwybodol heintus, gwyrdroi hanes personol, camddehongli a dadorchuddio ffeithiau anecdotaidd – wedi’u sgiwio wrth iddynt gael eu hadrodd droeon. Gydag animeiddio 3D cyntefig a golygfeydd archifol o fodryb yr artist, ar adegau rydym yn teimlo ein bod y tu mewn i gasét tâp fideo, fel pe baem yn archwilio corneli gêm gyfrifiadur 64 did llawn picseli.
Alex Hetherington
Sister Films, 2022
Man cychwyn Sister Films, recordiad 16mm o ymarfer ar gyfer perfformiad byw, yw cymeriad mytholegol Groegaidd cymhleth Tiresias, proffwyd dall i Apollo sy’n cael ei drawsnewid yn fenyw gan y dduwies Hera. Mae’r cysyniad o gyflyrau trothwyol cymhleth Tiresias – rhywedd cwiar a thraws, rhagargoel, dallineb a’r golwg – yn rhywbeth sydd wedi’i adlewyrchu drwy ffilm 16mm a’i phriodoleddau, ei materoldeb, ei thechnolegau a’i byrhoedledd lluosog.
Bhebhe&Davies
A Navigation, 2017
Mae A Navigation yn ymchwilio i deithiau personol a chanfyddiadau am oedran, hunaniaeth rywiol, gorbryder a chwant, gan archwilio rôl a lle agosrwydd o bob math: anghorfforol, cymdeithasol, deallusol ac emosiynol. Er mwyn datblygu’r gwaith hwn, cydweithredodd Bhebhe&Davies â pherfformwyr benywaidd dros 50 oed i archwilio sut mae cyrff menywod yn llywio hanesion, yn tarfu ar strwythurau pŵer ac yn meithrin undod. Mae’r ffilm yn myfyrio ar ragdybiaethau oedraniaethol drwy symud, gan ystyried sut mae unigolion yn meddiannu lle, yn datgan presenoldeb ac yn newid canfyddiadau. Gyda’r artist llafar Randolph Matthews a’r dylunydd sain Joseph Bond, mae’r trac sain yn defnyddio seiniau dynol sylfaenol fel mynegiannau o’r hunan emosiynol, gan atgyfnerthu pwyslais y gwaith ar brofiad corfforedig a’r berthynas newidiol rhwng hunaniaeth a phŵer.
Jenny Baines
Inflated (double) struggle, 2018
Mae Inflated (double) struggle yn dangos yr artist yn ymgodymu â rhywun o gryfder tebyg mewn ymdrech i dorri balŵn mwy nag arfer a ddelir rhwng eu cyrff. Wrth i’r balŵn ymestyn a thrawsffurfio dan y pwysau rhyngddynt, mae’r symudiadau ailadroddol yn dreisgar weithiau ac ar adegau eraill yn dyner.
Jessa Mockridge
Spivak_rub, 2024, 15 munud
Mae gweithiwr llyfrgell ar sifft nos yn rhwbio allan y marciau pensil mewn llyfr sydd wedi’i fyseddu a’i anodi’n helaeth gan Gayatri Chakravorty Spivak. Mae’n olrhain y cylchoedd, y croesau, yr anodiadau a’r cromfachau, gan ailberfformio’r ystumiau sy’n gwneud y marciau hyn. Mae llyfrgellwyr yn dileu gwaith pensil er mwyn digideiddio penodau pwysig i unrhyw un na all ddod i’r llyfrgell yn gorfforol neu sy’n dibynnu ar gyfarpar darllen sgrîn. Mae’r ffilm yn dogfennu ffantasi drwy goreograffi ei dwylo.
Quilla Constance
Happy Christmas Mom & Dad, 2006
“Yn ôl y disgwyl, mae’r arddangosiad amhriodol o rywioldeb ei merch yn codi cywilydd ar ei mam, ac mae’r ffordd y mae’r ferch yn ymwrthod â thabŵ llosgach – cymhleth Oedipws – yn swyno’r tad mewn modd sy’n peri problem. Mae archwiliad difalio Quilla Constance, neu Jennifer Allen, o’i phosibiliadau erotig ei hun, a allai ddigwydd yn ystafell wely’r ferch, bellach yn digwydd yn yr ystafell fyw fel anrheg ysgytiol i’w rhieni. Mae’r ferch ufudd, mewn arddangosiad sy’n dathlu ei rhywioldeb, yn ymwrthod â’r rôl a glustnodir i fenywod drwy waharddiad teuluol, mewn perfformiad sy’n destun rhyddhad” – Dr Mo Throp (Llenor/Artist)
Rebecca Moss
Home Improvement, 2021
Crëwyd Home Improvement yn ystod cyfnod clo Covid. Dyma beiriant gwenu cartref a luniwyd gan ddefnyddio gwrthrychau pob dydd byrfyfyr. Mae Rebecca Moss yn artist o Essex. Mae ei gwaith yn archwilio cysyniadau hurtrwydd ac ansicrwydd, a hynny ar ffurfiau amrywiol ym meysydd cerflunio, fideo, perfformio, gosod ac ymarfer cyfranogol. Drwy syniadau doniol, mae ei gwaith yn archwilio themâu dirfodol. Mae ymdeimlad o symud yn dychwelyd drwy gydol y gwaith, ac mae popeth yn y pair. Fe’i hysbrydolir yn benodol gan slapstic: oherwydd ei fynegiant emosiynol o ansicrwydd, ei gysylltiadau digrif isel-ael, ei ymdeimlad o ddwyochredd rhwng y corff a’i amgylchoedd, a’i botensial i herio pŵer.
Sophie Lindsey
Al Plein Fresco Air, 2019
Mae Al Plein Fresco Air yn berfformiad i’r camera sy’n rhan o’r prosiect ymchwil artistig Jam-scape. Drwy fabwysiadu safbwynt arlunydd tirluniau, mae Sophie yn gwneud ac yn bwyta brechdan jam mewn ymdrech i lenwi’r frechdan â chysylltiadau rhamantaidd am gefn gwlad. Mae hyn yn ymchwilio i’r ffordd y mae ein dychymyg torfol am fannau gwledig yn bodoli drwy fwyd, deunydd pecynnu bwyd ac archfarchnadoedd.
Zia Torta
Why Do You Keep Making the Same Mistakes?, 2025
Mae Why Do You Keep Making the Same Mistakes? yn gofyn cwestiwn agored am ein profiad dynol cyffredin, gan wahodd myfyrdod beirniadol ar ein defodau, ein meddyliau a’n cylchoedd, annog ymwybyddiaeth ofalgar, presenoldeb a thrugaredd tuag aton ni ein hunain ac eraill.
Categorïau

