Dydd Sadwrn 9 Awst 2025
11:30 am - 12:30 pm
Ymunwch â ni am daith dywys arbennig o’r arddangosfa Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain gyda churadur yr arddangosfa, Dr Zehra Jumabhoy.
Dydd Sadwrn, 11:30 yb – 12:30 yp
12 Gorffennaf, 9 Awst, 13 Medi, 11 Hydref 2025
Bydd Zehra yn rhoi mewnwelediad i’r cysyniadau a’r penderfyniadau curadurol sydd wedi llywio tair prif adran yr arddangosfa sy’n cysylltu India a Chymru: Cysylltiadau Hanesyddol, Trothwyon a Mythau Cenhedloedd.
Man cyfarfod: Derbynfa
£5.00. Rhaid cadw lle. Mae lleoedd yn brin
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau