Dydd Gwener 20 Hydref 2023 - Dydd Sul 25 Chwefror 2024
10:00 am - 4:30 pm
Partner Cyflwyno: Sefydliad Bagri
Arddangosfa Eilflwydd y Degfed Rhifyn
Gyda’i bartner cyflwyno, Sefydliad Bagri, bydd Artes Mundi 10 (AM10), prif wobr celf gyfoes ryngwladol ac arddangosfa eilflwydd y DU, am y tro cyntaf yn cyflwyno saith o artistiaid gweledol cyfoes rhyngwladol ar draws pum partner lleoliad yng Nghymru ar gyfer ei ddegfed rhifyn.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 20 Hydref 2023 a 25 Chwefror 2024 a bydd enillydd Gwobr nodedig Artes Mundi, sy’n werth £40,000 – gwobr celf gyfoes fwyaf y DU – yn cael ei gyhoeddi yn ystod y cyfnod arddangos.
Yn AM10 bydd pob artist yn cyflwyno prosiect unigol mawr, gan gynnwys cynyrchiadau newydd, gwaith nas gwelwyd o’r blaen a chyfle i weld sawl arddangosfa am y tro cyntaf yn y DU. Mae rhai artistiaid yn cyflwyno ar draws nifer o leoliadau, a bydd gan bob artist waith mewn lleoliad yng Nghaerdydd.
Dyma leoliadau arddangos yr artistiaid ar gyfer AM10: Mounira Al Solh, Rushdi Anwar ac Alia Farid yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd (un yn nheulu Amgueddfa Cymru – Museum Wales o amgueddfeydd); Nguyễn Trinh Thi yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a Chapter, Caerdydd; Taloi Havini ym Mostyn, Llandudno a Chapter, Caerdydd; Carolina Caycedo yn Oriel Davies, y Drenewydd a Chapter, Caerdydd; a Naomi Rincón Gallardo yn Chapter, Caerdydd.
Dywedodd Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi: “Mae AM10 yn argoeli i fod yn gyfres gyffrous a meddylgar o gyflwyniadau. Gan weithio gyda phob artist a’n partneriaid yn y lleoliad, rydym mewn sefyllfa i gyflwyno cyfres o sioeau treiddgar sydd gyda’i gilydd yn edrych ar agweddau ar ddefnydd tir, tiriogaeth a dadleoliad drwy hanes newid amgylcheddol, gwrthdaro a mudo dan orfod, amodau sydd i gyd â rhywbeth i’w ddweud wrth bob un ohonom ni heddiw.”
Fel cyfrwng cyfnewid diwylliannol pwysig rhwng y DU a chymunedau rhyngwladol, mae Artes Mundi wedi ennill enw iddo’i hun am ddwyn ynghyd gelfyddyd gan rai o’r lleisiau artistig mwyaf perthnasol sy’n ymdrin â phynciau mawr ein hoes. Yn y gorffennol, mae Artes Mundi wedi gweithio gydag artistiaid yn ystod cyfnodau allweddol yn eu gyrfaoedd, a dyma’n aml y tro cyntaf iddynt gyflwyno’u gwaith i gynulleidfaoedd yn y DU, gyda llawer ohonynt bellach yn enwau cyfarwydd ar y llwyfan rhyngwladol, gan gynnwys Dineo Seshee Bopape, Prabhakar Pachpute, Ragnar Kjartansson, Theaster Gates, John Akomfrah, Teresa Margolles, Xu Bing, a Tania Bruguera.
Nguyễn Trinh Thi yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a Chapter, Caerdydd
Fe’i ganwyd yn Fietnam ac mae’n parhau i fyw a gweithio yno. Mae Nguyễn Trinh Thi yn wneuthurwr ffilmiau ac artist o Hanoi. Gan groesi ffiniau rhwng celf ffilm a fideo, gosodweithiau a pherfformio, mae ei gwaith ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar bŵer sain a gwrando, a’r cysylltiadau lluosog rhwng delwedd, sain a gofod. Mae ei gwaith yn archwilio hanes, cof, cynrychiolaeth, ecoleg a’r anhysbys.
Yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, bydd Trinh Thi yn ail-gyflwyno’r ffilm And They Die a Natural Death (2022), a gafodd glod gan feirniaid, a ddangoswyd yn wreiddiol fel rhan o Documenta 15 yn 2022. Yma, mae wedi cael ei had-drefnu ar gyfer lleoliad oriel. Wrth wneud y gwaith, cafodd Trin Thi ei ysbrydoli gan y nofel hunangofiannol Tale Told in the Year 2000 (2000) gan Bùi Ngọc Tấn, sydd ar hyn o bryd wedi’i sensora yn Fietnam. Gan adlewyrchu golygfa o’r llyfr, mae’r gwaith yn cynnwys system gwynt a wi-fi sydd wedi’i gosod yn ardal Vinh Quang-Tam Da yn Fietnam sy’n sbarduno’r gwaith o osod ffaniau cerfluniol, effeithiau clyweledol, sain, planhigion tsili a’r chwarae hiraethus ar ffliwt sáo ôi, offeryn cerddorol brodorol sy’n cael ei ddefnyddio gan grwpiau yn ardaloedd mynyddig gogledd y wlad. Mewn amser real, mae coedwig ymdrochol llawn cysodion ar waliau’r oriel o’ch cwmpas yn cysylltu’r gofod yn Abertawe â choetir Fietnam. Ochr yn ochr â’r gosodwaith yng Nglyn Vivian, bydd Trinh Thi yn dangos cyfres o ffilmiau yn y sinema yn Chapter yng Nghaerdydd.
Categorïau