Dydd Sadwrn 12 Rhagfyr 2020 - Dydd Sul 14 Chwefror 2021
11:00 am - 4:00 pm
Yn ystod mis Awst 2020, gwnaethom wahodd pobl o unrhyw oedran a lleoliad i anfon cerdyn post at yr oriel. Nid oedd thema benodol, ar wahân i ddychmygu sut olwg fydd ar y dyfodol, eich breuddwydion, yr hyn sy’n bwysig i chi yn y cyfnod hwn a pha newidiadau yr hoffech chi eu gweld yn y byd. Cyn belled â bod eich meddyliau, eich delweddau a’ch geiriau yn ffitio ar gerdyn post A5.
Rydym wedi derbyn cannoedd o gardiau post mewn amrywiol gyfryngau gan gynnwys darluniau, paentiadau, ffotograffiaeth, barddoniaeth a chollage. O negeseuon o obaith a heddwch, darluniau o natur, newid yn yr hinsawdd ac ymgyrch “Mae Bywydau Du o Bwys”.
Rydym wedi derbyn cyflwyniadau o bob cwr o Gymru a’r DU, Ewrop a Tsieina – ond hefyd gan y cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw yn Abertawe – Grŵp Dydd Mercher i Oedolion a Byddin Gelf yr Ifanc.
Caiff y casgliad o gardiau post eu harddangos yn yr oriel, a byddant hefyd yn cael eu cadw yng nghasgliad yr oriel i’n hatgoffa o’r cyfnod eithriadol hwn a sut mae creadigrwydd a chymuned yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau pob dydd.
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi creu ac anfon cerdyn post atom.
Categorïau