Dydd Sadwrn 8 Mawrth 2025
10:30 am - 12:30 pm
Ymunwch â thîm dysgu’r oriel am sesiwn ddifyr sy’n llawn celf a chrefft.
Gweithdy misol ar fore Sadwrn yw hwn, lle gall teuluoedd arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau a thechnegau.
Creu eich Creaduriaid eich Hun
Ewch ati i gael eich ysbrydoli gan gymeriadau casgladwy i ddylunio a cherflunio eich creaduriaid eich hun ynghyd â chreu cardiau chwarae ar sail y cymeriadau.
Mae’r sesiwn hon wedi’i hysbrydoli gan Come As You Really Are gan Hetain Patel.
Yn addas i blant 3+ oed Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Am ddim, rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau