Dydd Sadwrn 10 Mai 2025
10:30 am - 12:30 pm
Ymunwch â thîm dysgu’r oriel am sesiwn ddifyr sy’n llawn celf a chrefft.
Gweithdy misol ar fore Sadwrn yw hwn, lle gall teuluoedd arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau a thechnegau.
Gweithdy paentio llongau ac angenfilod y môr 3D
Cyfle i greu golygfa forwrol ffantastig gan ddefnyddio technegau paentio arbrofol a ysbrydolwyd gan y llong arian yng nghasgliad Glynn Vivian.
Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
£3 y plentyn
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Book now – Saturday Family Art Club, Ships and Sea Monsters 3D Painting Workshop
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau