Dydd Sadwrn 8 Tachwedd 2025
10:30 am - 12:30 pm
Ymunwch â thîm dysgu’r oriel am sesiwn ddifyr sy’n llawn celf a chrefft.
Gweithdy misol ar fore Sadwrn yw hwn, lle gall teuluoedd arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau a thechnegau.
Gweithdy Paentio Portreadau Hen Ffasiwn o Anifeiliaid Anwes
Dewch i greu portread hen ffasiwn o’ch hoff anifail anwes neu anifail drwy ddwyn ysbrydoliaeth o gasgliad o bortreadau Oriel Glynn Vivian.
Efallai fod gennych Syr Wisgers o Waunarlwydd neu Arglwyddes Mitsy o’r Mwmbwls?
Ar gyfer y gweithdy hwn, bydd angen i chi ddod â llun maint afal o ben eich hoff anifail anwes.
£3 y plentyn
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau

