Dydd Mercher 25 Medi 2024
6:00 pm - 8:00 pm
Mae Yr Ymwelydd Cyson, gweithdy archwiliadol, personol ac addysgol a gyflwynir gan fewnfudwr tew, cwiar a niwrowahanol o liw yn ymwneud â dilyn eich breuddwydion mewn byd cyfalafol corfforaethol.
Drwy ddefnyddio cymysgedd o farddoniaeth lafar, profiadau personol ac ymchwil academaidd, mae Alisha Ahmed yn ceisio rhoi gobaith a chefnogaeth i eneidiau hoff cytûn sy’n ceisio dod o hyd i’w ffordd mewn byd didrugaredd.
Mae Yr Ymwelydd Cyson yn adrodd stori croestoriadedd drwy brofiadau go iawn Alisha Ahmed, mewnfudwr tew, cwiar a niwrowahanol o liw gan ddangos sut mae gormes a braint wedi chwarae rolau allweddol yn natblygiad bywyd y rheini ar yr ymylon.
Ar ôl gweithio yn y diwydiannau cerdd, newyddiaduraeth, theatr a chreu cynnwys ar-lein, a bellach fel addysgwr croestoriadedd ar gyfer sefydliad llawr gwlad, mae Alisha’n gobeithio y bydd rhannu ei stori a’r gwersi mae wedi’u dysgu dros y blynyddoedd yn ystod y gweithdy hwn yn darparu rhywfaint o fewnwelediad i’r heriau rydym i gyd yn eu hwynebu dan system gyfalafol.
Mae’r archwiliad gwahanol ac agored hwn sy’n cynnwys y gair llafar, straeon personol ac ymchwil academaidd ac yn archwilio’r heriau y mae pob un ohonom bellach yn eu hwynebu, yn ceisio dod â chynulleidfa amrywiol ynghyd drwy frwydrau a llwyddiannau cyffredin fel y gallwn greu lle i’n hunain i fynnu yn y byd.
Cynhelir y gweithdy hwn ar-lein drwy Zoom, bydd sleidiau’n cael eu defnyddio hefyd yn ogystal â barddoniaeth lafar a fydd yn cael ei dangos ar y sgrîn ar ffurf testun. Gellir gofyn am nodiadau’r gweithdy ar gais. Bydd seibiant 5 munud hanner ffordd drwy’r gweithdy, a chyfanswm hyd y gweithdy yw oddeutu 90 munud gyda’r 15-20 munud olaf ar gyfer cwestiynau gan y gynulleidfa.
Rhybudd am y cynnwys: profiadau o hiliaeth, rhywiaeth, ableddiaeth, ffobia o bobl dew, ymosodiadau rhywiol, anhwylderau bwyta, salwch meddwl ac ofn marwolaeth.
Cofrestrwch ymlaen llaw ar gyfer y cyfarfod hwn: Zoom Link
Mae’r prosiect Creu Cymru Cwiar cysylltu pobl yn cael ei rhedeg gan On Your Face
Menter gymdeithasol yw OYF sy’n annog amlygrwydd i bobl greadigol LHDTC+ Cymru trwy ddigwyddiadau diwylliannol cwiar yn yr ardaloedd gwledig, cyfeirlyfr ar-lein (onyourfacecollective.org) a chreu swyddi â thâl ar gyfer y gymuned ar draws Cymru.
I ddarganfod rhagor, cymerwch gip ar ein tudalen Instagram @onyourfacecollective neu ewch i www.onyourfacecollective.org
Categorïau