Dydd Iau 16 Hydref 2025
10:00 am - 12:00 pm
Gweithdai creadigol i blant sy’n cael eu haddysgu gartref.
Dydd Iau, ddwywaith y mis, 10:00-12:00
04.09.25, 18.09.25, 02.10.25, 16.10.25
Dosbarth celf agored sy’n archwilio arddangosfeydd a chasgliadau’r oriel ac yn ymateb iddynt.
Trwy ddefnyddio deunyddiau a thechnegau gwahanol, rydym yn cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau a’u hyder, a chwrdd â phobl newydd.
Mae’r dosbarthiadau hyn yn ddelfrydol i unrhyw un nad yw mewn addysg brif ffrwd, plant sy’n derbyn addysg gartref a’r rheini sy’n chwilio am her newydd.
Darganfod – 6-9 oed
Gan ddwyn ysbrydoliaeth o gasgliad celf ac arddangosfeydd celf gyfoes yr oriel, bydd Darganfod yn eich cyflwyno i amrywiaeth o artistiaid, technegau celf a syniadau mewn amgylchedd hamddenol a chymdeithasol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ennill eich Gwobrau Darganfod ac Archwilio Arts Award.
£20.00 for four workshops
Dates: 04.09.25, 18.09.25, 02.10.25, 16.10.25
Mae’n rhaid cadw lle.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
https://www.glynnvivian.co.uk/cadwch-lle-nawr-criw-celf-yr-ifanc-darganfod/
.Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau