Dydd Sadwrn 30 Gorffennaf 2022 - Dydd Sul 31 Gorffennaf 2022
10:00 am - 4:00 pm
16+ oed
Gyda chwmni da ac amgylchedd gwych, dewch i ddysgu sut i gerfio llwy pren o fasarnen leol.
Gyda’r coediwr Dai Morris a’r cerflunydd Ami Marsden.
Mae’r cwrs yn addas i ddechreuwyr a’r rheini â mwy o brofiad. Darperir yr holl offer a deunyddiau.
Tocynnau’n £20 am ddau ddiwrnod. Dewch i’r sesiynau ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul.
Rhaid cadw lle. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
HYSBYSIAD PWYSIG: Dewch â chinio pecyn a lluniaeth gyda chi gan y bydd ein caffi ar gau ar ddydd Sul.
Categorïau