• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Cyfres Seminarau ‘Imperial Subjects’

Dydd Mercher 22 Ebrill 2020 //  by laura.gill

Dydd Mercher 22 Ebrill 2020 - Dydd Gwener 22 Mai 2020
10:00 am - 5:00 pm

Cynhaliwyd ‘Imperial Subjects: (Post)colonial Conversations between South Asia and Wales’, ar-lein ym mis Mai 2020 dan arweiniad  derbynnydd bwrsariaeth British Art Network Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a’r hanesydd Celf De Asiaidd, Dr Zehra Jumabhoy, darlithydd yn Sefydliad Celf Courtauld Llundain.

Nod y gyfres, a gafodd ei rhoi ynghyd ar y cyd â’r Athro Daniel G Williams, Prifysgol Abertawe, oedd trafod naratifau ystrydebol am Brydain, De Asia a gwladychiaeth. Mae’r seminarau hyn yn nodi dechrau’r cyfnod cyn arddangosfa fawr yn Oriel Gelf Glynn Vivian a fydd yn cynnwys artistiaid cyfoes o Gymru a De Asia yn 2022.

Cynhaliwyd y seminarau yn Saesneg. Recordiwyd pob seminar ac maent ar gael i’w gweld ar sianel YouTube y Glynn Vivian. Mae trawsgrifiad llawn ar gael hefyd yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ariennir y gyfres hon o seminarau gan British Art Network ac mae’n rhan o’i raglen. Arweinir a chefnogir y British Art Network gan oriel Tate a’r Paul Mellon Centre for Studies in British Art, a darperir cyllid cyhoeddus ychwanegol gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr.


“Nid yw’r daith ddarganfod go iawn yn cynnwys ceisio tirweddau newydd, ond yn hytrach, feddu ar lygaid newydd.”– Marcel Proust, DU

Ysgrifenna’r Dr Zehra Jumabhoy, “Mae’r gyfres o seminarau wedi codi dadleuon brwd ynghylch gorffennol ymerodrol Prydain. Sut y dylai Prydain fynd i’r afael â baich ei heuogrwydd? Sut mae angen iddi ddad-drefedigaethu ei hun? Ydyn ni’n dinistrio cofadeiliau’r rheini sydd wedi elwa o wladychiaeth neu’n eu rhoi mewn amgueddfeydd i’w trafod? Ydyn ni’n dileu’r gorffennol neu’n archwilio sut mae’n parhau i effeithio arnom?

“Yng nghanol y ddadl hon, mae’n bwysig i ni gofio: nid oes modd gwneud iawn am y gorffennol os yw’r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol yn gudd o hyd. Hefyd, wrth i Gymru, Iwerddon a’r Alban frwydro dros eu hunaniaethau eu hunain o ran “Prydeindod”, sut y dylid cynnwys eu rolau nhw yn y prosiect ymerodrol? Mae awydd angerddol yng Nghymru i fynd i’r afael â’r ffordd yr aeth ati i gyfrannu at uchelgeisiau ymerodrol Prydain, sut yr elwodd ohonynt a sut y dioddefodd drostynt hyd yn oed. Ai Cymru yw trefedigaeth olaf Lloegr?

“Roedd y sesiynau canlynol yn herio perthynas amlfalent Prydain â’r isgyfandir. Ni allai wedi bod yn fwy amserol; daeth y gyfres o seminarau i ben wrth i’r holl ‘ddeiliaid ymerodrol’ ddod i’r amlwg yn fyd eang.”


Gwyliwch ar You Tube

 

Peter Finnemore, Looking For Signs
Peter Finnemore, Luggage Baggage, 2018, Looking For Signs
Miniatures and the west
Emily Hannam, Mughal miniatures in 17th century Europe
Dr. Mehreen Chida-Razvi, European Imagery in 16th and 17th Century Mughal Painting
Jethro Buck & Elisabeth Deane, ‘How miniature painting gave me new eyes’: an Artist’s Perspective
Photograph of the Hussainabad Gate, Lucknow, from Richard Glynn Vivian’s Travel Album: India, 1871
Cultural Interactions N.S. Harsha, FACING, 2018


Seminar Un: Exploring Colonial Conversations

Roedd y seminar hwn yn archwilio cyfarfodydd rhwng Prydain a De Asia drwy arfer draws-ddiwylliannol ac amlddisgyblaethol 3 artist. Bu’r artist perfformio o India, Nikhil Chopra, y ffotograffydd o Gymru, Peter Finnemore a Mauritian Shiraz Bayjoo yn archwilio themâu hunaniaeth, ymfudo, gwladychu a chydweithio, gan roi sylw penodol i statws cyfredol Abertawe fel yr ail Ddinas Noddfa.

Peter Finnemore, Artist, Looking for Signs

Nikhil Chopra, Artist, Be Like Water

Shiraz Bayjoo, Artist

Dr Cleo Roberts, ysgrifennwr, celf gyfoes o dde a de-ddwyrain Asia, Reclaiming Nature


Seminar Dau: Miniatures and the West

Roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys curadur, hanesydd celf ac artistiaid (Jethro Buck ac Elisabeth Deane) a fu’n trafod yr arddulliau paentio yn y llysoedd Mogylaidd a’r arddulliau Ewropeaidd. Hefyd, roedd y seminar hwn wedi amlygu’r ffaith nad yw’r rhyngweithiad rhwng celf Prydeinig a De Asiaidd yn perthyn i’r gorffennol: mae paentiadau Buck a Deane, a ysbrydolwyd gan Mughal, a astudiodd dan adain prif ddarlunwyr miniaturau yn India, yn enghraifft dda o hyn.

Emily Hannam, Curadur Cynorthwyol Casgliadau Islamaidd a De Asiaidd, Royal Collection Trust. Mughal miniatures in 17th century Europe  

Dr. Mehreen Chida-Razvi,The Nasser D Khalili Collection of Islamic Art. European Imagery in 16th and 17th Century Mughal Painting

Jethro Buck ac Elisabeth Deane, Artistiaid. ‘How miniature painting gave me new eyes’: an Artist’s Perspective


Seminar Tri: The Robert Clive Collections and Gifts Re-Examined

Gall y ffyrdd y daeth tai hanesyddol i feddiant casgliadau fod yn ddadleuol a pheri gofid i gynulleidfa o’r 21ain ganrif. Fel y mae’r ddadl ddiweddar am Robert Clive (‘Clive o India) a’i gerflun efydd godidog yn Whitehall yn Llundain yn ei gwneud yn glir, mae angen mynd i’r afael â chanologrwydd Clive i roi hwb i’r Ymerodraeth Brydeinig yn India a chasgliad dilynol mwyaf Prydain o ‘ysbail’ drefedigaethol yn y broses (sydd ar hyn o bryd yng Nghastell Powis yng Nghymru).

Dr Kieran Hazzard, Ymchwilydd Ôl-ddoethuriaeth Prosiect Casgliad Clive a Chymrawd Gyrfa Gynnar Cysylltiol TORCH, Prifysgol Rhydychen. The Clives & India: Collecting, Display and Colonialism    

Emily Hannam, Curadur Cynorthwyol Casgliadau Islamaidd a De Asiaidd, Royal Collection Trust. ‘Unfortunate negligence’ or deliberate disregard: blocking communication between the Great Mughal and the King of England

Nisha Duggal, Artist Preswyl, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: Castell Powis


Seminar Pedwar: Rhyngweithiadau Diwylliannol

Bu cysylltiad rhwng De Asia a Chymru ers amser hir, gan estyn yn ôl i flynyddoedd cynharaf treiddiad gwleidyddol cymdeithasol Prydain i’r isgyfandir. Ond eto, er ei chyfoeth, mae’r bartneriaeth hon – fel llawer o bethau eraill sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth Prydain o Gymru – wedi cael ei hesgeuluso i raddau helaeth. Roedd y seminar hwn, a gadeiriwyd gan yr Athro Daniel G Williams, ac a oedd yn cynnwys prif academyddion UDA a Chymru, yn archwilio’r sgyrsiau diwylliannol crefyddol gwleidyddol a masnachol rhwng India, De Asia a Chymru.

Yr Athro Gauri Viswanathan, Prifysgol Columbia. Raymond Williams

Dr Gwyneth Tyson Roberts, Ysgolhaig Annibynnol. “Cheaper and more efficient than the bayonet”: colonial educational policy in mid-nineteenth-century Wales and India 

Dr Zehra Jumabhoy, Sefydliad Celf Courtauld. ‘Nabobs’, Nature and Nationalism: Colonial Conversations between India & Wales



Categorïau

  • Gorffennol

Event Category: Gorffennol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility