Dydd Mercher 29 Tachwedd 2023
10:30 am - 3:30 pm
Dull ‘maint-golwg’
Arddangosiad arlunio a gweithdy ymarferol
Gyda’r artist Lucy Corbett
Ar gyfer oedolion 16+ oed
Yn y dosbarth meistr untro hwn, ymunwch â’r artist Lucy Corbett i ddysgu am ddull maint-golwg, sef dull lle mae’r artist yn tynnu llun sydd yr un uchder â’r testun sy’n cael ei luniadu, fel y byddai’n ymddangos ar ochr chwith neu dde’r bwrdd lluniadu.
Byddwch yn dysgu sut i dynnu llun bywyd llonydd mewn siarcol gan ddefnyddio’r dull maint-golwg, a sut i gyfleu’r ffurf er mwyn creu delwedd tri dimensiwn. Yn dilyn ymlaen o hyn, bydd cyfle i chi ddefnyddio eich profiad newydd mewn prynhawn o ymarferion ymarferol. Bydd Lucy hefyd ar gael i gynnig cyngor ar eich prosiectau eich hun.
£35, Does dim angen profiad. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu ar incwm isel. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Lleoedd yn brin. Rhaid cadw lle. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Book now – Masterclass: Traditional Drawing Workshop – The Sight Size Method
Lucy Corbett yw sylfaenydd a thiwtor Academi Gelf Cymru. Dechreuodd ei hyfforddiant yn stiwdios Charles H Cecil yn Fflorens ym 1998.Dros dair blynedd datblygodd Lucy ei sgiliau fel artist portread a thirlun, gan ddysgu’r traddodiad maint-golwg.Mae gan Lucy ehangder o wybodaeth a phrofiad ym mhob agwedd ar baentio, gan ddefnyddio ei harbenigedd mewn nifer o ddulliau a ddefnyddiwyd ac a ddatblygwyd dros y cannoedd o flynyddoedd diwethaf.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau