Dydd Iau 6 Mawrth 2025
5:30 pm - 8:00 pm
Profwch Oriel y ddinas ar ôl amser cau, does dim angen cadw lle.
O 6pm, ymunwch â’r artist Hetain Patel am sgwrs Cyfeillion y Glynn Vivian wrth iddo drafod Come As You Really Are, ei brosiect cenedlaethol sydd wedi’i gomisiynu a’i gyflwyno gan Artangel a phartneriaid.
Bydd Côr Croeso’n perfformio o 7pm.
Sgwrs Cyfeillion Oriel Glynn Vivian ag artist: Hetain Patel
Mae Patel wedi creu’r prosiect cenedlaethol Come As You Really Are gydag Artangel, sy’n cynnwys 13 o gyflwyniadau rhanbarthol ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban rhwng haf 2024 a 2026.
Bydd arddangosfa Come As You Really Are ꞁ Abertawe Agored 2025 yn Oriel Gelf Glynn Vivian rhwng 15 Chwefror a 27 Ebrill, gan arddangos gwrthrychau unigryw o waith llaw, gyda chyfraniadau’n cael eu gwahodd gan hobïwyr gan gynnwys casglwyr, gwneuthurwyr gwisgoedd a gwisg-chwarae, peintwyr, croswyr a gwewyr, gwneuthurwyr modelau, peirianwyr roboteg, arbenigwyr origami a llawer mwy.
Bydd ffilm newydd gan Patel sydd wedi’i chomisiynu ar y cyd gan Artangel a phartneriaid sy’n archwilio creadigrwydd a brwdfrydedd pobl dros eu hobïau yn cael ei dangos yn Ystafell 3, ochr yn ochr â detholiad o wrthrychau sy’n ymddangos ynddi.
Mae Hetain Patel yn artist ac yn wneuthurwr ffilmiau o Lundain. Mae ei ffilmiau, ei gerfluniau, ei berfformiadau byw, ei baentiadau a’i ffotograffau wedi cael eu dangos ledled y byd mewn orielau, theatrau ac ar sgriniau cyhoeddus eiconig, gan gynnwys Piccadilly Circus, Llundain a Times Square, Efrog Newydd. Mae ei waith wedi cael ei gyflwyno yn Biennale Fenis, Canolfan Celf Gyfoes Ullens, Beijing a Tate Modern, Llundain i Sadler’s Wells.
Mae gwaith Patel sy’n archwilio hunaniaeth a rhyddid, gan ddefnyddio coreograffi, testun a diwylliant poblogaidd yn ymddangos mewn amryfal fformatau a chyfryngau, gyda’r bwriad o gyrraedd y gynulleidfa ehangaf posib. Mae ei waith fideo a pherfformiad ar-lein wedi cael eu gwylio dros 50 miliwn o weithiau, sy’n cynnwys ei sgwrs TED yn 2013 o’r enw, ‘Who Am I? Think Again’.
Categorïau