Dydd Mawrth 9 Mehefin 2026
1:30 pm - 4:30 pm
Gweithdai creadigol i bobl ifanc (oed13—17) yn Oriel Gelf Glynn Vivian sy’n tynnu ar y casgliad sgrin gyda’r artist Zillah Bowes

Dydd Mawrth 9 Mehefin 26
1:30yp – 4:30yp
Gweithdy gwneud cerflun seiliedig ar amser gan ddefnyddio deunyddiau o fyd natur, a ysbrydolwyd gan Sand House gan Jonathan Anderson, 2006, a Time & Tide, 2008
Bydd cyfranogwyr yn creu cerfluniau syml dros dro gan ddefnyddio deunyddiau naturiol o ardd yr oriel neu’r gweithdy. Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar broses a thrawsnewid, gan archwilio sut gall cerfluniau newid dros amser drwy symudiad, tywydd a chyffyrddiad, hyd yn oed mewn ffyrdd main iawn. Byddant yn arbrofi gyda threfnu, pentyrru, siapio a chyfuno deunyddiau i greu ffurfiau sy’n ymateb i’w hamgylchedd. Bydd cyfranogwyr yn archwilio’u cerfluniau drwy ffotograffiaeth neu fideo byr, gan ddangos eu ffurfiau newidiol.
Zilah Bowes
Darperir lluniaeth, rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion deietegol.
Mae bwrsariaethau teithio o hyd at £25 y cyfranogwr ar gael i gefnogi costau teithio i Oriel
Gelf Glynn Vivian ar gyfer gweithdy yr un.
Gwnaed y rhaglen hwn yn bosib drwy gymorth gan Gronfa Treftadaeth Sgrîn y British Film
Institute, sy’n dyfarnu arian y Loteri Genedlaethol.
Artist amlddisgyblaethol a gwneuthurwr ffilmiau yw Zillah, y mae ei harfer yn cynnwys ffilm,
ffotograffiaeth, barddoniaeth, gosodiad a cherflun. Mae ei gwaith yn aml yn archwilio’r berthynas
rhwng yr unigolyn a’r amgylchedd naturiol.
Mae’n rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau


