Dydd Mawrth 21 Ebrill 2026
1:30 pm - 4:30 pm
Gweithdai creadigol i bobl ifanc (oed13—17) yn Oriel Gelf Glynn Vivian sy’n tynnu ar y casgliad sgrin gyda’r artist Zillah Bowes
Dydd Mawrth 21 Ebrill 26
1:30yp – 4:30yp
Gweithdy golygu fideo a sain gan ddefnyddio fideos, a ysbrydolwyd gan Wavy Gravy gan Alex Duncan, 2014, a Sweet Wall gan Cinzia Mutigli, 2020.
Bydd cyfranogwyr yn chwilio am fideos heb freindal ar-lein ac yn eu lawrlwytho, gan ddewis fide os sydd o ddiddordeb iddynt neu’n tynnu eu sylw. Byddant yn aildrefnu’r deunydd hwn i olygu lluniau symudol 2-3 munud o hyd. Bydd cyfranogwyr yn recordio eu sain eu hunain e.e. llais, sŵn amgylchynol neu effeithiau, a/neu’n dod o hyd i sain heb freindal ar-lein i’w golygu gyda’r fideo. Drwy ailadrodd, aildrefnu, newid cyflymder, troi lluniau drosodd neu wyneb i waered, defnyddio sain ac effeithiau syml, bydd cyfranogwyr yn mynd ati i drawsnewid y fideo a gafwyd er mwyn
creu safbwyntiau ac ystyron newydd.
Zilah Bowes
Darperir lluniaeth, rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion deietegol.
Mae bwrsariaethau teithio o hyd at £25 y cyfranogwr ar gael i gefnogi costau teithio i Oriel
Gelf Glynn Vivian ar gyfer gweithdy yr un.
Gwnaed y rhaglen hwn yn bosib drwy gymorth gan Gronfa Treftadaeth Sgrîn y British Film
Institute, sy’n dyfarnu arian y Loteri Genedlaethol.
Artist amlddisgyblaethol a gwneuthurwr ffilmiau yw Zillah, y mae ei harfer yn cynnwys ffilm,
ffotograffiaeth, barddoniaeth, gosodiad a cherflun. Mae ei gwaith yn aml yn archwilio’r berthynas
rhwng yr unigolyn a’r amgylchedd naturiol.
Mae’n rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau


