Dydd Mercher 24 Medi 2025
1:00 pm - 3:00 pm
Nod y grŵp Gweithdai Dydd Mercher i Oedolion yw gwella mynediad pobl hŷn i’r celfyddydau.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chartrefi gofal preswyl, cynlluniau llety lloches a lleoliadau yn y gymuned i gynnig sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli i’n cenhedlaeth hŷn. Nod y grŵp yw hyrwyddo annibyniaeth, hyder cymdeithasol, sgiliau creadigol a chydlyniant cymunedol, trwy amgylchedd cefnogol i hen aelodau ac aelodau newydd.
£3.00. Mae’n rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau