Dydd Sadwrn 27 Chwefror 2021
10:30 am - 12:30 pm
Mae ein Gweithdai Dydd Sadwrn i Oedolion yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn olaf bob mis.
Rhowch gynnig ar dechneg celf neu grefft newydd bob mis, wedi’i hysbrydoli gan artistiaid yn ein rhaglen arddangosfeydd gyfredol.
Dioramau Crefft Papur gyda chelf Kathryn Ashill
Gan gymryd ysbrydoliaeth o setiau llwyfan theatraidd ac arddull amatur dramatig arddangosfa Fool’s Gold yr artist Kathryn Ashill, dewch i greu eich theatr fach 3D eich hun gan ddefnyddio technegau crefft papur, collage a darlunio.
Bydd angen y rhain arnoch:
- 3 dalen o gerdyn gwyn A4 neu bapur trwchus
- Darnau o bapur lliw neu batrymog wedi’u hailgylchu (gallai hyn fod yn hen bapur lapio, papur brown, hen bapur wal)
- Cardbord wedi’i ailgylchu o hen flwch
- Pensil
- Rwber
- Pin du (tenau neu feiro)
- Dyfrlliwiau (neu bensiliau lliw)
- Siswrn
- Glud
- Tortsh bach neu fath arall o olau
- Camera
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal yn fyw ar Zoom.
https://zoom.us/meeting/register/tJYvcOihqT8qGdaNPQ6qKqlAvzlyZCC4-ZYw
Rhaid cadw lle: Archebwch eich tocyn yma. Un tocyn fesul person/dyfais ddigidol
Am ddim i gymryd rhan ynddo ar-lein Does dim angen talu.
Categorïau