Dydd Mawrth 21 Chwefror 2023
11:00 am - 3:30 pm
Hwyl i’r teulu dros wyliau’r ysgol.
Rhan o raglen o weithgareddau i gyd-fynd â’n harddangosfa gyfredol, His Dark Materials: Creu Bydoedd yng Nghymru, mewn partneriaeth â Bad Wolf Ltd, IJPR Media a Screen Alliance Wales.
Paentio ac Arlunio Ffantasi
11:00 – 13:00, 13:30 – 15:30
Cyfle i greu celfwaith 2D llawn dychymyg gan ddefnyddio collage, technegau gwneud printiau ac arlunio. Fe’i hysbrydolir gan bropiau a dogfennau a grëwyd gan dîm Bad Wolf yn His Dark Materials.
Gweithdy galw heibio; does dim angen cadw lle (deunyddiau cyfyngedig ar gael)
Oed 4+
Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Am ddim, Rhodd o £3 yn ddewisol
HYSBYSIAD PWYSIG: Dewch â chinio pecyn a lluniaeth gyda chi gan y bydd ein caffi ar gau.
Categorïau