Dydd Mercher 23 Gorffennaf 2025
11:00 am - 1:00 pm
Mae ein gweithdai ‘Rwy’n gallu…’ i deuluoedd yn dychwelyd ar gyfer gwyliau haf 2025 gyda gweithgareddau cyffrous i’r teulu cyfan eu mwynhau. Rhowch gynnig ar ddefnyddio deunyddiau a thechnegau gwahanol wrth archwilio’r arddangosfeydd anhygoel a chasgliad Oriel Glynn Vivian.
Dydd Mercher , 11:00-13:00
Rwy’n gallu cerflunio… cerflun symbolaidd
Defnyddiwch gerdyn a deunyddiau eraill wedi’u hailgylchu i greu eich cerflun eich hun i’w osod ar wal sy’n cynnwys symbolau a themâu o’ch bywyd.
Mae man tawel ar gael ym mhob sesiwn i’r rheini ag anghenion synhwyraidd, y mae angen dosbarth llai o faint ac amgylchedd dysgu tawelach arnynt. Cynhelir y gweithdai tawel yn ystafell 2 – bore’n unig.
£3.00 y plentyn, mae’n rhaid cadw lle.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR drwy wefan Croeso Bae Abertawe
(Bydd y ddolen hon yn eich ailgyfeirio i wefan Croeso Bae Abertawe Cyngor Abertawe. Mae Cyngor Abertawe’n defnyddio’r un system Swyddfa Docynnau Abertawe ar draws ei holl leoliadau diwylliannol, gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian. I gael ragor o wybodaeth, gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd corfforaethol ar ein gwefan: abertawe.gov.uk/Preifatrwydd).
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau