Dydd Mawrth 22 Gorffennaf 2025
10:00 am - 2:00 pm
Woodblock print. Swansea Council: Glynn Vivian Art Gallery Collection
Bydd Oriel Gelf Glynn Vivian yn cyflwyno Gweithdy Creadigol Dungeons & Dragons i chi gyda’r artistiaid Jade Price ac Ava Tier yr haf hwn.
Bydd y gweithdy hwn am chwe wythnos yn cyflwyno amrywiaeth o weithdai creadigol i ddatblygu eich sgiliau darlunio. Bydd hanner pob sesiwn yn cael ei neilltuo i barhau ag antur ffantasi Dungeons & Dragons ar thema Japan.
Ar gyfer dechreuwyr a chwaraewyr profiadol. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Archwiliwch fyd darlunio ffantasi cyn mynd ar eich antur ryfedd a rhyfeddol eich hun.
Os ydych chi’n mwynhau celf, darlunio ac adrodd straeon, byddwch chi’n dwlu ar ein cyfres newydd o weithdai wythnosol ar thema Dungeons & Dragons.
Dewch â chinio pecyn
Grŵp Ieuenctid: 12-16 oed
Diwrnod: Dydd Mawrth: 22.07.25, 29.07.25, 05.08.25, 12.08.25, 19.08.25, 26.08.25
Amser: 10:00-14:00
Am ddim, rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Categorïau