Dydd Iau 24 Gorffennaf 2025
10:00 am - 2:00 pm
Bydd Oriel Gelf Glynn Vivian yn cyflwyno Gweithdy Creadigol Dungeons & Dragons i chi gyda’r artistiaid Jade Price ac Ava Tier yr haf hwn.
Bydd y gweithdy hwn am chwe wythnos yn cyflwyno amrywiaeth o weithdai creadigol i ddatblygu eich sgiliau darlunio. Bydd hanner pob sesiwn yn cael ei neilltuo i barhau ag antur ffantasi Dungeons & Dragons ar thema Japan.
Ar gyfer dechreuwyr a chwaraewyr profiadol. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Archwiliwch fyd darlunio ffantasi cyn mynd ar eich antur ryfedd a rhyfeddol eich hun.
Os ydych chi’n mwynhau celf, darlunio ac adrodd straeon, byddwch chi’n dwlu ar ein cyfres newydd o weithdai wythnosol ar thema Dungeons & Dragons.
Dewch â chinio pecyn
Oedolion ifanc: 17-24 oed
Diwrnod: Dydd Iau 24.07.25, 31.07.25, 07.08.25, 14.08.25, 21.08.25, 28.08.25
Amser: 10:00-14:00
Am ddim, rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Categorïau