• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Gweithdy ffotograffiaeth sglefrfyrddio

Dydd Sadwrn 5 Hydref 2024 //  by laura.gill

Dydd Sadwrn 5 Hydref 2024
1:00 pm - 3:00 pm

Matt Mumford, drop-in, Berlin. Photo Skin Phillips. Courtesy the artist

Oed 14+

Yn y gweithdy ffotograffiaeth sglefrfyrddio dwy ran hwn bydd cyfranogwyr yn dysgu’r sgiliau hanfodol y mae eu hangen arnynt i dynnu lluniau o eiliadau sglefrfyrddio dynamig, gan ddefnyddio dyfeisiau symudol fel iPads a ffonau.

Dewch â dyfais symudol gyda chi os oes gennych un. Mae nifer bach o ddyfeisiau ar gael i’w defnyddio gan yr Oriel.

 

Diwrnod 1: Dysgu a dadansoddi (28 Medi yn Oriel Gelf Glynn Vivian)

Yn y sesiwn hon, bydd cyfranogwyr yn edrych ar elfennau allweddol ffotograffiaeth, a bydd ffocws ar symudiadau a chwaraeon Byddwn yn ymdrin â’r canlynol:

  • Cyfansoddiad: Sut i fframio saethiadau symud, defnyddio llinellau arweiniol a thynnu lluniau o eiliadau pwerus yn yr amgylchedd sglefrfyrddio.
  • Gosodiadau camera ar gyfer dyfeisiau symudol: Sut i fanteisio i’r eithaf ar y modd saethu parhaol (neu’r modd chwaraeon), clo ffocws a gosodiadau eraill sy’n helpu i rewi testunau sy’n symud yn gyflym.
  • Onglau a phersbectifau: Technegau ar gyfer saethu o wahanol onglau i ddal egni’r sglefrfyrddiwr.
  • Dadansoddiad o ffotograffau sglefrfyrddio eiconig: Dadansoddiad o ffotograffiaeth sglefrfyrddio adnabyddus, gan drafod sut maent yn dal symudiadau, personoliaeth a’r diwylliant sglefrfyrddio.

Bydd hon yn sesiwn ryngweithiol, gyda chyfleoedd i drafod ac ymarfer y sgiliau hyn i baratoi’r cyfranogwyr ar gyfer y sesiwn ymarferol.

 

Diwrnod 2: Sesiwn ymarferol (5 Hydref ym mharc sglefrfyrddio Exist)

Mae’r ail sesiwn hon yn ymwneud â rhoi damcaniaeth ar waith. Bydd y cyfranogwyr yn mynd i’r parc sglefrfyrddio lle byddant yn tynnu lluniau o sglefrfyrddwyr go iawn yn sglefrfyrddio. Yma byddant yn defnyddio:

  • Technegau ffotograffiaeth symud: Dal egni a symudiad sglefrfyrddwyr mewn amgylchedd bywiog, ‘byd go iawn’.
  • Cyfansoddiad ac amseru: Dod o hyd i’r eiliadau iawn i saethu delweddau llawn effaith.
  • Ymwneud ag amgylchedd y parc sglefrfyrddio: Dysgu sut i symud o gwmpas y lle yn ddiogel, rhagweld symudiad a gweithio gyda sglefrfyrddwyr i gael y lluniau gorau.

Erbyn diwedd y gweithdy, bydd y cyfranogwyr wedi datblygu portffolio o ffotograffiaeth sglefrfyrddio a’r hyder i ymhél â ffotograffiaeth fyw/chwaraeon ar eu pennau eu hunain.

 

Am ddim, rhaid cadw lle
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR

Book now – Photography workshop

Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.    

Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.    

Ffôn: 01792 516900      

E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk     

I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma  



Categorïau

  • Cymuned
  • Gweithdy Penwythnos i Oedolion
  • Gwneuthurwyr Ifanc
  • Oedolion
  • Pobl Ifanc

Event Category: Cymuned, Gweithdy Penwythnos i Oedolion, Gwneuthurwyr Ifanc, Oedolion, Pobl Ifanc

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility